Paratoi at y Dyfodol 2026

Ymunwch â'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ar gyfer Paratoi at y Dyfodol - digwyddiad sydd wedi'i gynllunio i wella eich rhagolygon gyrfa a'ch hyder ar ôl graddio!
Yn cynnwys gweithdai rhyngweithiol ac arweiniad arbenigol i helpu ein myfyrwyr i ystyried eu dewisiadau gyrfa a’u hopsiynau uwchraddedig. Erbyn diwedd yr wythnos, bydd gennych ddealltwriaeth glir o sut i werthu eich hun trwy eich CV a'r hyn y gallwch ei gynnig i ddarpar gyflogwyr.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau busnes? Ewch i dudalen we EnterpriseAber i ddarganfod mwy. Mae sesiynau menter hefyd wedi'u gynnwys yn yr amserlen isod; grymuso myfyrwyr sy’n ymddiddori mewn menter, hunangyflogaeth a gweithio'n llawrydd.
Darganfyddwch fwy am bob sesiwn gan ddefnyddio'r tabl isod a dilynwch y dolenni i archebu eich lle ar GyrfaoeddABER. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.
Mewngofnodwch i GyrfaoeddABER
Mae'r gweithdai'n cael eu cyflwyno yn yr iaith y cânt eu henwi, ond bydd staff dwyieithog yn cymryd rhan yn y gweithgareddau os hoffech gael sgwrs yn Gymraeg. Cynhelir sesiynau gyda * gan staff sy'n siarad Cymraeg.
Amserlen Paratoi at y Dyfodol 2026
Dydd Llun 1 Mehefin
Dydd Mawrth 2 Mehefin
Dydd Mercher 3 Mehefin
Dydd Iau 4 Mehefin
Dydd Gwener 5 Mehefin
Bydd ein tîm hefyd wrth law yn y gwasanaeth galw heibio yn y Hwb Gyrfaoedd, Llyfrgell Hugh Owen i helpu gydag unrhyw ymholiadau cyflym neu wirio eich CV (nid oes angen apwyntiad).
Dilynwch ni ar Instagram @abercareers a LinkedIn @Aberystwyth University Careers Service am ddiweddariadau rheolaidd.
