Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i gefnogi myfyrwyr a allai wynebu rhwystrau cyflogadwyedd ychwanegol oherwydd eu cefndir. Trwy Gymorth Paratoi am Yrfa (CBY) rydym yn darparu cymorth cyflogadwyedd wedi'i deilwra i helpu myfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i feithrin y sgiliau, yr hyder a'r rhwydweithiau sydd eu hangen i lwyddo ar ôl graddio. Rydym yn gwahodd cyflogwyr, unigolion a darparwyr hyfforddiant i gydweithio â ni drwy gynnig profiadau hyblyg, ystyrlon (a gyflwynir yn rhithwir neu wyneb yn wyneb) i nerthu myfyrwyr. Yn ogystal â buddsoddi yn nyfodol myfyriwr drwy gynnig cyfle iddynt ddysgu mwy am eich sefydliad, eich rôl a'ch sector, gallech ddod o hyd i ddarpar recriwtiaid, elwa o safbwynt gwahanol a chael cyfle i ddangos eich cyfrifoldeb cymdeithasol. Isod mae rhai awgrymiadau ar sut i gymryd rhan.
- Cwrdd â Gweithiwr Proffesiynol, Un i Un: rhannwch daith eich gyrfa, eich rôl a'r sgiliau allweddol sydd eu hangen yn eich sector mewn cyfarfod un i un rhithiol neu wyneb yn wyneb gydag un o'n myfyrwyr
- Cwrdd â Gweithiwr Proffesiynol, Grŵp: rydym ni'n cydweithio â phrifysgolion eraill Cymru i gynnig cyfarfodydd grŵp cysylltiedig â diwydiant neu sgiliau penodol
- Blasu Gwaith Pwrpasol: cynnal myfyriwr am gyfnod byr (hyd at bythefnos) o brofiad gwaith di-dâl i'w helpu i ddysgu am wahanol swyddi, cwrdd â staff a magu hyder
- Blasu Gwaith Grŵp: croesawu grŵp o fyfyrwyr i ddysgu am eich sector, cwrdd â staff, a rhoi cynnig ar weithgareddau'r gweithle
- Gweithdy: cydweithio â ni i ddarparu gweithdai rhithwir neu wyneb yn wyneb ar bynciau fel rhwydweithio, cyfweliadau a sgiliau'r gweithle
Rydym yn awyddus i glywed am gyfleoedd gwirfoddoli, cynlluniau graddedigion a lleoliadau â thâl a allai wella cyflogadwyedd ein cyfranogwyr. E-bostiwch crsupport@aber.ac.uk os oes gennych chi ddiddordeb mewn cydweithio.