Ffyniant (Rhaglen ddatblygu i fenywod)

Tair merch yn cerdded i'w darlith

Ffyniant yw rhaglen ddatblygu i fenywod y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd – wedi'i chynllunio gan fenywod, i fenywod.

Bydd ceisiadau ar gyfer Ffyniant ’26–27 yn agor mis Hydref 2026.

Wedi'i chreu i gefnogi myfyrwyr israddedig y flwyddyn olaf sy'n nodi eu bod yn fenywod, mae Ffyniant yn cynnig cyfle unigryw i adeiladu hyder, datblygu naratif eich gyrfa, a chysylltu â chymuned o gyfoedion a gweithwyr proffesiynol ysbrydoledig.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen, anfonwch e-bost at gyrfaoedd@aber.ac.uk a chynnwys 'Ffyniant' ym mhennawd y pwnc.

Sut all y rhaglen fy helpu i?

Bydd y rhaglen yn eich cefnogi i: 

  • Feithrin Hunan-ymwybyddiaeth a Hyder
  • Datblygu Naratif Personol eich Gyrfa
  • Datblygu Cysylltiadau Ystyrlon
  • Ystyried Llwybrau Gyrfa Amrywiol
  • Gosod Nodau a Gweledigaeth Glir

Beth fydd y rhaglen yn ei chynnwys?

Mae Ffyniant yn cynnwys saith gweithdy rhyngweithiol sy'n canolbwyntio ar feithrin eich hyder a'ch sgiliau, a bydd yn cynnwys siaradwyr gwadd, gweithgareddau ymarferol a chyfleoedd i rwydweithio.

Cynhelir yr holl weithdai ar brynhawn Mercher rhwng 2-4yp ar y campws.

Dyddiad Teitl y Gweithdy Ffocws y Gweithdy
3 Chwefror '27 Eich Pŵer a Chysylltu

Cyflwyniad i’r rhaglen a chryfhau dylanwad a chreu rhwydweithiau cadarnhaol drwy ddilyn esiamplau da a ffurfio cysylltiadau

10 Chwefror '27 Goresgyn Syndrom y Ffugiwr

Trafod syndrom y ffugiwr a mabwysiadu meddylfryd sy’n canolbwyntio ar dwf er mwyn magu hyder

17 Chwefror '27 Adeiladu Naratif eich Gyrfa

Dysgu sut i ddatblygu stori unigryw eich gyrfa

24 Chwefror '27 Archwilio Gyrfaoedd

Darganfyddwch ffyrdd o symud ymlaen yn eich taith yrfa

3 Mawrth '27 Grym Pendantrwydd

Ymarfer pendantrwydd mewn sefyllfaoedd bob dydd

10 Mawrth '27 Creu eich Gyrfa eich hun

Darganfod sut i weithio i chi'ch hun

17 Mawrth '27 Gweledigaeth a Gosod Nodau

Gosod nodau ystyrlon, goresgyn heriau, a symud ymlaen

       

      Ydw i’n gymwys i wneud cais?

      I wneud cais ar gyfer Ffyniant, rhaid i chi:

      • Fod yn fyfyriwr israddedig yn y flwyddyn olaf
      • Nodi eich bod yn fenyw
      • Gallu ymrwymo i fynychu o leiaf 5 allan o’r 7 gweithdy
      • Bod yn barod i ymwneud yn gadarnhaol â'r rhaglen ac yn ymroddedig i ddatblygu eich hyder

      Sut mae gwneud cais?

      Bydd manylion pellach am sut i wneud cais i raglen Ffyniant ’26–27 ar gael yma ym mis Hydref 2026.

      Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at gyrfaoedd@aber.ac.uk a chynnwys 'Ffyniant' ym mhennawd y pwnc.