Gyrfaoedd mentrus

Dwylo'n dal grawn

Oes gennych chi ddiddordeb mewn troi eich angerdd yn fwy na gweithgaredd amser hamdden? Ydych chi am weithio, ond ar eich telerau eich hun? Ydych chi’n awyddus i greu gyrfa o amgylch eich credoau, yn ogystal â'ch anghenion?

Mae darpariaeth menter y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yma i roi arweiniad, cefnogaeth a chyfleoedd i fyfyrwyr a graddedigion sydd â diddordeb mewn gweithio'n llawrydd ac mewn entrepreneuriaeth.

Rydym yn cynnig:

    • cyfle i frysbennu mewn sesiynau un-i-un er mwyn eich helpu i ddod o hyd i'r adnoddau cywir
    • rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau sy'n annog entrepreneuriaeth
    • mentrau i chi gael eich syniadau allan i'r byd

I gael mwy o wybodaeth gweler isod.

Cysylltwch a ni yma: enterprise@aber.ac.uk 

Cefnogaeth unigol

  • Gall y tîm Menter ddarparu cymorth un-i-un trwy e-bost, ar Teams neu wyneb yn wyneb er mwyn rhoi’r camau nesaf defnyddiol i chi a chysylltiadau allweddol wrth symud ymlaen
  • Os ydych o dan 25 oed, gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â Syniadau Mawr Cymru, menter Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi entrepreneuriaid ifanc
  • Waeth beth fo'ch oedran, gallwn hwyluso eich rhan yn Rhaglen Fentora Busnes Cymru

Rhaglen o ddigwyddiadau

 

Ariannu eich busnes neu fenter gymdeithasol

Dewch i ddysgu am wahanol ffrydiau ariannu ar gyfer eich gyrfa Lawrydd, eich Busnes neu Fenter Gymdeithasol – bydd gwybodaeth gan Fanc Datblygu Cymru, Syniadau Mawr Cymru, Purple Shoots ac Ymddiriedolaeth y Brenin.

Agored i fyfyrwyr/staff ac eraill.

Pryd: 12:10-13:00

dydd Mercher 18fed Mawrth

Ble: ar-lein

 

Cyfle i elwa o'ch Angerdd

Gyda Junior Ogunyemi, entrepreneur, awdur a siaradwr arobryn sy'n adnabyddus am helpu unigolion a sefydliadau i ddatgloi eu potensial llawn. Mae ei genhadaeth yn syml: ysbrydoli rhagoriaeth, meithrin gwydnwch, a grymuso'r genhedlaeth nesaf o arloeswyr.

Agored i fyfyrwyr/staff ac eraill.

Pryd: 16.00-18.00

Dydd Mercher 18fed Mawrth

Ble: HO C4

 

Ymchwiliwch i'ch Marchnad a'ch Cynulleidfa Darged

Dewch i ddysgu sut i ymchwilio i’r farchnad yn effeithiolar gyfer eich busnes neu fenter gymdeithasol - gyda Model Rôl a Chynghorydd Busnes Syniadau Mawr Cymru.

Agored i fyfyrwyr/staff ac eraill.

Pryd: 12:10-13:00

dydd Mercher 25ain Mawrth

Ble: ar-lein

 

Cynhyrchu Syniadau/Sut i greu eich swydd wich hun

Bydd y seminar hon gyda Katie Hayward o </span >Felin Honey Bees a chynghorydd busnes o Syniadau Mawr Cymru yn ystyried hunangyflogaeth a gweithio a reich liwt eich hunan fel llwybrau gyrfaol sy’n wahanol i weithio mewn sefydliad sydd wedi ennill ei blwy. Bydd yn son an sut mae Prifysgol Aber yn cefnogi myfyrwyr a graddedigion entrepreneuriaid.

Mae’r gweithdy hwn yn hanfodol os ydych chi eisiau dechrau busnes neu fenter gymdeithasol newydd, ond nid oes gennych y 'Syniad Mawr' hwnnw eto.

Agored i fyfyrwyr/staff ac eraill.

Pryd: 12:10-13:00

Dydd Mercher 29ain Ebrill

Ble: ar-lein

 

'Wythnos Gweithio i chi'ch hun' 3-5ed Mehefin

  • Tri diwrnod o wybodaeth a gweithdai rhyngweithiol i'ch paratoi ar gyfer eich gyrfa llawrydd/hunangyflogaeth/cychwyn busnes neu fenter gymdeithasol.
  • Mehefin 3ydd - 5ed 1-2yp - Rhian Hayward - ArloesiAber - Prif Swyddog Gweithredol - Prif siaradwr, yn cyflwyno tri diwrnod o wybodaeth a gweithdai rhyngweithiol i'ch paratoi ar gyfer eich gyrfa llawrydd/hunangyflogaeth/cychwyn busnes neu fenter gymdeithasol. 
  • Diwrnod Cyntaf - 3 Mehefin

    1.00-2.00yp - Rhian Hayward - ArloesiAber Prif Swyddog Gweithredol, Prif Siaradwr, yn cyflwyno tri diwrnod o wybodaeth a gweithdai rhyngweithiol i’ch paratoi ar gyfer eich gyrfa llawrydd / hunangyflogaeth / busnes neu fenter gymdeithasol newydd.  Cychwyn deinamig a fydd yn trafod sut mae ymchwil yn sbarduno menter yn y byd go iawn a busnesau newydd beiddgar.

    2.00-3.00yp - Sesiwn Holi ac Ateb Panel Cystadleuaeth Menter - Canllaw cyflym i droi eich syniadau yn fusnes, yn fenter gymdeithasol neu’n fenter llawrydd sy’n deilwng o wobr.

    3.30-4.30 - Panel Ymchwil i Effaith - Ymunwch â Matt Jarvis , Dr Lucy Thompson  Alice Vernon a Helen Whiteland o The Big Science Project wrth iddynt siarad am eu profiadau.  Golwg onest ar sut i droi’ch arbenigedd academaidd yn waith llawrydd cyflogedig, pwrpasol.

    Ail Ddiwrnod - 4 Mehefin 

    10.00-11.00 - ‘Dychmygu Menter’ - Sesiwn greadigol i'ch helpu i fapio sut olwg a allai fod ar eich busnes yn y dyfodol - a sut i'w wireddu   Gyda siaradwyr o:  CWMPAS  Busnes Cymru/Syniadau Mawr Cymru ac AberInstruments 

    11.00-12.00 - 'Creu Brand a Marchnata Digidol' gyda Francesa Farrow Lunax digital a Julia Forster

    1.00-2.00 - 'Cynaliadwyedd a Moeseg' - Sgwrs feddylgar ar greu busnes sy'n gwneud lles yn ogystal â gwneud yn dda, gyda Porthi Aber a’r Ganolfan Technoleg Amgen

    2.30-3.30 - 'Llunio eich cynllun busnes' - Taith gam wrth gam yn troi syniadau di-siap yn gynllun busnes clir, argyhoeddiadol - gyda chynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru

    Sesiynau galw heibio mentora busnes 1:1, ar gael drwy'r prynhawn.

    Trydydd Diwrnod - 5 Mehefin

    10.00-11.00 - 'TRETH ac Eiddo Deallusol’ - Trosolwg ddi-jargon, sy'n taflu goleuni ar ddirgelion yr hanfodion sydd eu hangen ar bob busnes newydd er mwyn ei ddiogelu ei hun a sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r holl reolau cydymffurfio perthnasol.  

    11.00-12.00 'Llunio cynnig busnes' - Gweithdy ymarferol i fireinio’ch neges a chyflwyno'ch syniad yn hyderus - gydag Alex Hubbard.

    12.00-1.00 - 'Sgwrsio â sylfaenydd' John Dutton.   Sgwrs ddi-flewyn-ar-dafod â rhywun sydd wedi bod yno eisoes, ac sydd â dealltwriaeth a phrofiad gwerthfawr i'w rhannu.

    1.00 - 2.00 - Cinio a Rhwydweithio - Man croesawgar i feithrin cysylltiadau ystyrlon ac ystyried cyfleoedd am gydweithredu.   Bydd yr ystafell ar gael hyd at 5yp. 

 

 

 

 

ebost: enterprise@aber.ac.uk 

Cystadlaethau a mentrau

    Hacathon Cymru Gyfan 2026, 04/03/26, 2yp i 7yh, Prif Neuadd Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Digwyddiad undydd lle mae timau o fyfyrwyr yn meddwl am syniad i fynd i'r afael â phroblem fyd-eang gymhleth. Mae’r digwyddiad yn cynnwys sesiynau mentora a gwobrau – gallwch gael rhagor o fanylion a chofrestru yma: enterprise@aber.ac.uk 

    Gwobrau menter blynyddol i fyfyrwyr

    Bob haf, mae'r brifysgol yn cynnig cyfres o wobrau i fyfyrwyr sy'n dymuno dod yn hunangyflogedig a dechrau eu busnesau eu hunain. Cadwch lygad am fwy o fanylion, cyn bo hir!