Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg

Cwestiynau sy'n cael eu gofyn yn aml

Beth ydy'r Dystysgrif Sgiliau Iaith?

Mae’r Dystysgrif wedi ei datblygu er mwyn galluogi myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru i ennill tystysgrif sy’n dangos tystiolaeth o’u sgiliau iaith, a’u gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae llawer o gyflogwyr wedi datgan eu cefnogaeth i’r Dystysgrif. Mae’n gymhwyster cenedlaethol (national qualification) sy’n cael ei roi gan CBAC (Cyd-bwyllgor Addysg Cymru).

Beth sy’n rhaid ei wneud er mwyn ennill y Dystysgrif?

Mae dwy ran i’r Dystysgrif – y prawf llafar a'r prawf ysgrifenedig.

  • Y prawf llafar: gwneud cyflwyniad llafar (7-8 munud) ar destun yn ymwneud â dy bwnc yn y Brifysgol, ac ateb cwestiynau a fydd yn codi o’r cyflwyniad (am 7-8 munud arall).
  • Y prawf ysgrifenedig: sefyll papur arholiad (1½ awr) gyda 3 chwestiwn arno – cywiro darn, trawsieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg, ac ysgrifennu’n rhydd drwy ymateb i gwestiwn.

Pwy sy’n cael ymgeisio am y Dystysgrif?

Mae unrhyw un sy'n fyfyriwr neu'n aelod o staff yn y Brifysgol yn gallu sefyll y Dystysgrif.  Os ydych chi'n fyfyriwr Dysgu Cymraeg ond nid oes cyfrif myfyriwr Prifysgol Aberystwyth gennych chi, gallwch chi gofrestru fel ymgeisydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, un o sefydliadau partner y Dystysgrif.  Os ydych chi'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaldr neu Lywodraeth Cymru, gallwch chi sefyll y Dystysgrif yn y Brifysgol drwy gofrestru fel ymgeisydd sefydliad partner hefyd.

Mae gen i ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Oes rhaid i mi ymgeisio?

Os oes gen ti ysgoloriaeth israddedig gan y Coleg Cymraeg, does dim rhaid i ti ymgeisio am y Dystysgrif, ond rydym yn annog bob myfyriwr i ystyried cofrestru. 

Mae cwblhau’r Dystysgrif Sgiliau Iaith yn amod o dderbyn ysgoloriaeth PhD gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Bydd rhaid iti gwblhau'r Dystysgrif cyn cwblhau dy radd.

Dydw i ddim yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Ga’ i ymgeisio?

Cei. Bydd y Dystysgrif yn brawf gwerthfawr o dy allu i drafod dy bwnc yn y Gymraeg, a bydd cyflogwyr yn medru gweld fod y sgiliau gen ti, er na fyddi di wedi astudio drwy gyfrwng yr iaith.

Pryd mae modd cofrestru i ymgeisio?

Mae modd cofrestru rhwng Medi a Hydref bob blwyddyn. Cer i dudalennau’r Dystysgrif ar wefan y Coleg Cymraeg a chlicia ar y botwm ‘Cofrestru’.  Os wyt ti'n colli'r ffenestr cofrestru, ni fydd y ffurflen gofrestru ar gael a bydd rhaid iti aros tan y flwyddyn academaidd nesaf i gofrestru.

Oes rhaid talu i gofrestru?

Nac oes – bydd y Coleg Cymraeg yn talu’r ffi cofrestru ar dy ran.

Beth os ydw i eisiau tynnu’n ôl ar ôl cofrestru?

Bydd modd i ti dynnu ’nôl ond bydd rhaid i ti roi gwybod i Swyddog Cangen neu Diwtor Sgiliau Iaith yn dy brifysgol erbyn y dyddiad tynnu'n ôl ym mis Rhagfyr fan bellaf. Ond sylwa! Os byddi di’n tynnu’n ôl ar ôl y dyddiad hwnnw (e.e. drwy beidio â dod i'r cyflwyniad llafar neu'r prawf ysgrifenedig) heb reswm da, ni fydd modd i’r Coleg hawlio’r ffi cofrestru yn ôl ac felly bydd yn wastraff arian diangen.  

Beth os ydw i’n sâl neu bod amgylchiadau eraill yn fy atal rhag cwblhau’r Dystysgrif (ar ôl 11 Rhagfyr)?

Yn gyntaf, paid â phoeni. Mae’n bosib’ trefnu dyddiad arall ar gyfer cyflwyniad llafar, ac mae modd trosglwyddo marc llafar i’r flwyddyn nesaf os byddi di’n sâl adeg yr arholiad ysgrifenedig, a bod gennyt bapur doctor neu dystiolaeth arall briodol. Bydd angen cwblhau ffurflen esgusodi yn y ddau achos. Cysyllta â’r tiwtor iaith i esbonio'r sefyllfa. Os wyt ti wedi bod yn sâl. gofynna i’r meddyg am bapur doctor.  Os oes amgylchiadau arbennig eraill, bydd y tiwtor iaith yn gallu esbonio pa fath o dystiolaeth sy'n dderbyniol.

Pryd mae’r asesiadau’n digwydd?

Mae’r rhan fwyaf o asesiadau llafar Prifysgol Aberystwyth yn digwydd yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth, ond mae’n bosibl eu cynnal o fis Rhagfyr ymlaen. Os wyt ti am gael dy asesiad llafar cyn mis Chwefror, trafoda hyn gyda’r tiwtor iaith. Bydd yr arholiad ysgrifenedig yn digwydd yr un pryd i bawb dros Gymru, sef 6 Mai 2020.

Oes help ar gael i baratoi at yr asesiadau?

Oes! Mae cyfres o sesiynau paratoi ar gael, a’r rheiny’n cael eu cynnal yn semester 1 ac eto yn semester 2. Mae’n bosibl y bydd y tiwtor yn cynnig sesiynau yn dy adran di hefyd. Os na fedri di ddod i’r sesiynau sydd wedi eu trefnu, cysyllta â’r tiwtor iaith: o gael digon o rybudd, gall y tiwtor drefnu sesiynau ychwanegol ar amser sy’n gyfleus i ti. Mae cyfres o adnoddau i ddatblygu sgiliau iaith ar gael ar wefan y Coleg Cymraeg hefyd http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/astudio/sgiliauiaith/adnoddau/

Pryd ydy’r amser gorau i ymgeisio?

Mae’n dibynnu ar y cwrs yr wyt ti’n ei ddilyn, ac ar dy hyder di i ddefnyddio’r Gymraeg i drafod dy bwnc. Bydd rhai myfyrwyr yn gwbl barod i ymgeisio yn eu blwyddyn gyntaf, ac mae sawl un wedi ennill y Dystysgrif gyda Rhagoriaeth yn eu blwyddyn gyntaf. Mae’n well gan eraill aros tan yr ail neu’r drydedd flwyddyn, er mwyn datblygu eu sgiliau iaith a’u sgiliau cyflwyno a pharatoi. Fel arfer, rydyn ni’n annog myfyrwyr i beidio â gadael y Dystysgrif tan eu blwyddyn olaf, oherwydd pwysau gwaith cwrs. Pa bynnag flwyddyn yr wyt ti’n ei dewis, rhaid i ti gofrestru ar wefan y Coleg Cymraeg yn ystod y cyfnod cofrestru, sef Medi-Hydref, fel arfer.

Rydych chi wedi sôn am Ragoriaeth. Oes categorïau eraill i’r Dystysgrif?

Oes. Mae modd ennill y Dystysgrif drwy Lwyddo, gyda Chlod neu gyda Rhagoriaeth.

Dydw i ddim yn siŵr a ydw i’n ddigon da i fynd amdani. Oes modd i mi drafod efo rhywun?

Oes. Cysyllta â’r Tiwtor Sgiliau Iaith i drefnu sgwrs.

Manylion cyswllt:

Nia Peris, Tiwtor Sgiliau Iaith: nip21@aber.ac.uk neu 01970 622684
Tamsin Davies, Swyddog Cangen: ted@aber.ac.uk neu 01970 628766