Cynllun Darlithwyr Cysylltiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Pwrpas y cynllun hwn yw creu cymuned fyw o ddarlithwyr sy’n cyfrannu at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhrifysgolion Cymru a chyfrannu at amcanion a gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Os ydych chi’n ddarlithydd sy’n cyfrannu at y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eich sefydliad neu’n cyfrannu at amcanion a gwaith y Coleg, gallwch gofrestru i fod yn ddarlithydd cysylltiol y Coleg.

Dyma'r manteision o fod yn rhan o’r cynllun: 

  • Bod yn rhan o gymuned amlddisgyblaethol cyfrwng Cymraeg a chyfleoedd i rwydweithio gyda darlithwyr eraill
  • Derbyn pecyn sefydlu a newyddlen y Coleg
  • Medru ymgeisio am grantiau'r Coleg
  • Medru manteisio ar raglen hyfforddiant i ddarlithwyr
  • Derbyn gwahoddiad i gynhadledd flynyddol y darlithwyr cysylltiol
  • Gallu ymgeisio am wobrau blynyddol y Coleg
  • Derbyn cyfleoedd marchnata amrywiol a chymorth perthnasol

Cofrestrwch i fod yn ddarlithydd cysylltiol y Coleg ar wefan y Coleg.