Cwestiynau Cyffredin

Diwrnod Ymweld Clirio

Beth ddylwn i ddisgwyl ar fy ymweliad?

Beth ddylwn i ddisgwyl ar fy ymweliad?

Bydd dy Ymweliad Clirio yn gyfle i ti:

  • Gyfarfod ag aelod staff academaidd o'r adran
  • Trafod unrhyw ymholiadau sydd gennyt gyda chynrychiolwyr o'r Timau canlynol:
    • Denu Myfyrwyr ac Ehangu Cyfranogiad
    • Llety
    • Cymorth i Fyfyrwyr
  • Mynd ar daith campws gyda llysgennad neu aelod o staff (para tua 60 munud).

Pa mor hir mae’r ymweliad clirio yn para?

Rydym yn awgrymu dy fod yn dyrannu o leiaf tair awr ar gyfer dy ymweliad fel y galli gwrdd â staff o'r adran academaidd, trafod dy opsiynau a mynd ar daith o amgylch y campws.

Bydd yr Ymweliad Clirio yn rhedeg fel a ganlyn:

Amser Amserlen
12.00pm ymlaen

Cyrraedd a Chofrestru yng Nghanolfan y Celfyddydau

Cyfle i siarad â:

  • Thîm Denu Myfyrwyr ac Ehangu Cyfranogiad
  • Llysgenhadon
  • Tîm Cymorth i Fyfyrwyr
  • Tîm Llety

Amser am baned a chinio yng nghaffi'r Canolfan y Celfyddydau

13:00 Sgwrs Groeso a Sgwrs Llety
13:30 Ymgeiswyr Clirio a’i gwesteion i gwrdd â staff academaidd yng Nghanolfan y Celfyddydau.
13:40 Staff academaidd i fynd â'r ymgeiswyr a'u hymwelwyr i'r adrannau.
14:30 Dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau.
14:30

Cyfle i siarad â'r tîm:

    • Llety 
    • Cymorth i Fyfyrwyr
    • Denu Myfyrwyr ac Ehangu Cyfranogiad
    • Llysgenhadon 
  • Teithiau Campws (dan arweiniad llysgenhadon neu aelod o staff)
  • Teithiau Llety (dan arweiniad llysgenhadon neu aelod o staff)

Faint o’r gloch ddylwn ni gyrraedd?

Galli di gyrraedd unrhyw bryd o 12.00 ymlaen. Dyma pryd y galli siarad â staff a chael cinio a lluniaeth os hoffet. Bydd y Sgwrs Groeso yn dechrau am 1:00pm yn Sinema Canolfan y Celfyddydau.

Lle ydw i’n mynd ar ôl cyrraedd Campws Penglais?

Mae'r man cyfarfod ar gyfer ein Ymweliadau Clirio wedi'i leoli yng Nghanolfan y Celfyddydau.  Byddem yn argymell dy fod yn defnyddio'r cod post canlynol os wyt ti’n defnyddio satnav SY23 3DE.

Mae Canolfan y Celfyddydau ar ganol campws Prifysgol Aberystwyth. I'n cyrraedd tro oddi ar y ffordd fawr (Rhiw Penglais) ac ymlaen i'r campws. Fe weli brif dderbynfa’r Brifysgol ar y chwith, yna dilyna y prif lwybr i’r campws. Fe weli Lyfrgell Hugh Owen ar y chwith a’r ‘Tŵr Cloch’ o dy flaen. Dilyna’r ffordd, tro i'r chwith ar y gylchfan fach, a dilyna’r ffordd i fyny i faes parcio'r ymwelwyr sydd ar y chwith. Bydd Canolfan y Celfyddydau o dy flaen ar ben draw'r ffordd. Mae parcio am ddim.

 

Dwi’n dod mewn car, bydd lle i fi barcio?

Bydd parcio am ddim ar gael i bawb.

Wrth gyrraedd Aberystwyth, bydd arwyddion yn dy gyfeirio at Brifysgol Aberystwyth; bydd rhain yn dy arwain at Gampws Penglais. Cadw lygad am yr arwyddion sgwâr melyn llachar sy'n cynnwys llun o fwrdd morter (cap academaidd). Bydd hyn yn dy dywys at y dderbynfa ar y campws.

Mae lle i barcio yn rhad ac am ddim ar gael tu ôl Canolfan y Celfyddydau. Gweler maes parcio P13 a P14 ar dudalen 1 o'r map hwn.

Dwi’n dod ar y tren, sut allai gyrraedd Campws Penglais?

Mae gwasanaethau trên rheolaidd i Aberystwyth. Mae'r wefan yn cynnwys amseroedd trenau ac opsiynau teithio. Mae Gorsaf Reilffordd Aberystwyth yng nghanol y dref, ger yr Orsaf Fysiau a'r Safle Tacsi.

Unwaith y byddi yng ngorsaf drenau Aberystwyth cer â thacsi i Ganolfan y Celfyddydau, Campws Penglais. 

Fel Ymgeisydd Clirio galli hawlio hyd at uchafswm o £65.00 yn seiliedig ar bellter taith un ffordd rhwng côd post dy gartref a chôd post prifysgol penodedig. Byddwn yn anfon y ffurflen hawlio costau teithio atat ar ôl dy ymweliad.

Oes llety dros nos ar gael ar y Campws?

Rydym yn falch iawn o gynnig i ti (yr ymgeisydd) ac un rhiant / gwarcheidwad un noson am ddim yn ein llety yn Fferm Penglais, nos Wener 14, nos Sadwrn 15 a nos Sul 16 o Awst 2026.

Mae croeso i ti archebu gwesteion a/neu nosweithiau ychwanegol, a chodir tâl o £49.50 +TAW y pen, y noson.

Am fwy o wybodaeth ac i archebu llety, e-bostiwch digwyddiadau@aber.ac.uk

A fyddaf yn gallu gweld adran academaidd fel rhan o'r ymweliad?

Byddi. Fel rhan o'r ymweliad clirio, byddwn yn gwneud trefniadau i ti gwrdd ag aelod o staff academaidd i roi'r cyfle i ti drafod y cwrs a gweld yr adran.

Beth os na allai ddod i'r Ymweliad Clirio?

Os na allwch ddod neu os hoffech ganslo eich Ymweliad Clirio, rhowch wybod i ni drwy e-bostio clirio@aber.ac.uk 

Os hoffech gyfle arall i ymweld â ni, cysylltwch â’r tîm Teithiau Campws drwy e-bostio teithiaucampws@aber.ac.uk i holi am argaeledd ac archebu lle ar Daith Campws. Bydd ein tîm yn hapus i roi gwybod i chi am ddyddiadau teithiau sydd ar y gweill ac i helpu gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych ynghylch eich ymweliad.

Taith Campws

Beth ddylwn i ei ddisgwyl ar Daith Campws?

Taith gerdded o amgylch Campws Penglais yw’r taith campws, a bydd cyfle i ti weld tu mewn yr adnoddau canlynol: 

  • Llyfrgell Hugh Owen
  • Gofod Astudio Iris De Freitas, Adeilad Hugh Owen
  • Canolfan y Celfyddydau
  • Y Ganolfan Chwaraeon
  • Rhai opsiynau Llety

Pa mor hir mae’r daith yn para?

Mae’r daith yn para tua 60 munud ac yn gyfle gwych i ti weld cyfleusterau’r brifysgol a chael teimlad o'r lleoliad a'r ardal gyfagos.

Pwy fydd yn mynd â fi ar y daith?

Byddi’n cael dy arwain ar y daith gan un o'n myfyrwyr sy’n lysgennad hyfforddedig neu aelod o staff. Bydd hwn yn gyfle perffaith i ti ofyn cwestiynau am y cwrs / cyrsiau maen nhw'n eu hastudio, pa fath o brofiad yw bod yn fyfyriwr yn Aberystwyth, sut le yw'r dref a llawer mwy.  

Be ddylwn i wisgo?

Mae’r Daith Campws yn daith gerdded ac mae'r campws ei hun wedi'i leoli ar fryn felly byddem yn cynghori ein holl ymwelwyr i ddod ag esgidiau addas a bod yn barod ar gyfer pob tywydd!

A fyddaf yn gallu gweld yr holl lety sydd ar gael?

Byddwn yn gallu mynd â thi i weld rhai opsiynau llety ar y campws.

Mae rhagor o wybodaeth am ein holl ddewisiadau llety ar gael yma.

 

 

Ydy’r Daith Campws yn cynnwys ymweld â’r cyfleusterau chwaraeon?

Bydd modd i ti ymweld â’n cyfleusterau chwaraeon ar y Daith Campws. Dyw pob un o’n hadnoddau chwaraeon ddim ar y campws, ond mae’r Ganolfan Chwaraeon yno. Mae modd i ti weld ein holl cyfleusterau yma.