Darn allweddol o Grwydryn ExoMars yn cael ei anfon o Aberystwyth

Dr Helen Miles, Arweinydd Meddalwedd Gweithrediadau ar gyfer Enfys a Dr Matt Gunn, y Prif Ymchwilydd ar Enfys.
13 Hydref 2025
Mae'r ymdrechion i chwilio am fywyd ar y blaned Mawrth yn cymryd cam mawr ymlaen heddiw, wrth i offeryn allweddol ar gyfer taith ofod bwysig ddechrau ei daith o Brifysgol Aberystwyth i’r Eidal i gael ei brofi.
Bydd y sbectromedr is-goch, o’r enw Enfys, yn rhan o'r gyfres o offerynnau synhwyro o bell ar Grwydryn Rosalind Franklin ExoMars.
Mae Crwydryn Rosalind Franklin yn rhan o raglen ExoMars yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, a hwn fydd y crwydryn cyntaf o Ewrop i fynd i’r blaned Mawrth.
Cynlluniwyd y crwydryn i gael ei weithredu o bell ar hyd tirwedd garw’r blaned, a bydd yn tyllu hyd at ddau fetr o dan yr arwyneb i ddadansoddi samplau am gyfansoddion organig a biofarcwyr - arwyddion posibl o fywyd yn y gorffennol neu'r presennol.
Bydd Enfys yn gweithio ochr yn ochr â PanCam - system gamerâu a arweinir gan Labordy Gwyddoniaeth y Gofod Mullard yng Ngholeg Prifysgol Llundain - i ganfod mwynau penodol. Bydd yr wybodaeth hon yn galluogi'r crwydryn i ddewis y safleoedd tyllu gorau posibl ar arwyneb y baned Mawrth, a bydd y samplau’n cael eu dadansoddi gan offerynnau eraill ar y crwydryn.
Bydd Enfys (y blwch gwyn), y sbectromedr is-goch newydd sy'n cael ei ddatblygu ar gyfer taith ExoMars, yn cael ei osod ychydig islaw’r system gamerâu, PanCam. Credyd: Prifysgol Aberystwyth
Bydd yr offeryn sy'n cael ei anfon heddiw yn cael ei osod ar 'Efaill' y crwydryn ar y ddaear, a elwir y ‘Ground Test Model’ sydd wedi’i leoli ar safle’r Aerospace Logistics Technology Engineering Company yn Turin.
Defnyddir y model hwn mewn efelychydd tirwedd y blaned Mawrth, sy’n galluogi gwyddonwyr i brofi systemau a sefyllfaoedd yn drylwyr tra bod y crwydryn go iawn yn cael ei gadw mewn amgylchedd di-haint.
Dr Matt Gunn o'r Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth yw'r Prif Ymchwilydd ar brosiect Enfys. Dywedodd:
"Mae'r garreg filltir hon yn destun balchder sylweddol i wyddoniaeth yng Nghymru, gan roi Aberystwyth wrth galon un o'r prosiectau mwyaf cymhleth erioed ym maes archwilio planedau. Unwaith y bydd Enfys wedi'i osod ar y model o’r crwydryn yn Turin, bydd yn caniatáu inni fireinio a phrofi ein systemau yn drylwyr cyn y lansiad.
"Mae'r tîm yma yn Aberystwyth, ynghyd â'n partneriaid, wedi gweithio'n ddiflino i gyrraedd y pwynt hwn, gan fanteisio ar flynyddoedd o brofiad o ddatblygu offer gofod i wthio ffiniau'r hyn sy'n bosibl."
Dr Helen Miles o'r Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth yw’r Arweinydd Meddalwedd Gweithrediadau ar gyfer Enfys. Ychwanegodd:
"Er bod sawl crwydryn wedi archwilio’r blaned Mawrth, Rosalind Franklin fydd y cyntaf i dyllu drwy’r arwyneb sydd wedi’i grasu gan yr haul, ar ddyfnder o ddwy fetr lle mae'r siawns o ddod o hyd i dystiolaeth o fywyd ar ei uchaf. Mae'n gyffrous iawn cael cyfrannu at daith a allai helpu i ddatgloi cyfrinachau bywyd ar y blaned Mawrth."
Ar ôl y garreg filltir hon, bydd y tîm, dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth, yn troi ei sylw at adeiladu model hedfan (flight model) Enfys, a fydd yn cael ei osod ar Grwydryn Rosalind Franklin cyn ei daith i'r blaned goch.
Arweinir y gwaith o ddatblygu a phrofi Enfys gan Brifysgol Aberystwyth, gyda chymorth Labordy Gwyddoniaeth y Gofod Mullard (MSSL) yng Ngholeg Prifysgol Llundain, Labordy Rutherford Appleton STFC a Qioptiq Ltd.
Rhoddwyd mwy o gyfrifoldeb am y prosiect i Brifysgol Aberystwyth ar ôl diddymu’r cydweithredu â Roscosmos yn Rwsia yn sgil ymosodiad Rwsia ar Wcráin yn 2022.
Ni fyddai wedi bod yn bosibl datblygu Enfys heb y £10.7 miliwn ychwanegol gan Asiantaeth Ofod y DU.