Ymdrin â bygythiad clefydau trofannol drwy ap sy’n adnabod adenydd pryfed

Delwedd microsgopig tra-fanwl o adain pryfed

Delwedd microsgopig tra-fanwl o adain pryfed

26 Mai 2026

Mae ap offer symudol yn cael ei datblygu i adnabod pryfed sy’n cludo clefydau - drwy’r patrymau ar eu hadenydd – yn rhan o brosiect sy’n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i helpu i gael diagnosis clefydau trofannol.

Mae clefydau trofannol a esgeuluswyd yn effeithio ar fwy na biliwn o bobl drwy’r byd, mewn cymunedau isel eu hincwm yn Affrica, Asia a’r America Ladin yn bennaf.

Mae cyflyrau fel leishmaniasis, y dwymyn deng a sgistosomiasis yn gallu achosi salwch hirdymor, anableddau a marwolaeth mewn achosion difrifol.

Ar leishmaniasis y canolbwyntia’r ymchwil newydd ar y cychwyn – salwch prin a all fod yn farwol a drosglwyddir gan bryfed tywod. Gwyddom am fwy na naw deg rhywogaeth o bryfed tywod sy’n trosglwyddo parasitiaid Leishmania.

Defnyddir defnyddio delweddau microsgopig tra-fanwl gan y tîm ymchwil i hyfforddi model dysgu peiriannol i adnabod gwahanol rywogaethau’r pryfed drwy’r patrymau unigryw ar eu hadenydd.

Bydd y dechnoleg hon yn sylfaen i waith datblygu ap offer symudol i alluogi gwyddonwyr a gweithwyr iechyd i fonitro poblogaethau’r cludwyr yn well, i dargedu camau rheoli’n fanwl, ac i ymateb yn gyflym pan fo achosion yn codi – gan leihau’r risg o drosglwyddo’r salwch. Bydd yr ap hefyd yn ddefnyddiol wrth hyfforddi myfyrwyr meddygol a gweithwyr iechyd newydd, gan wella eu sgiliau adnabod cludwyr ac atal clefydau.

Dywedodd yr Athro Tossapon Boongoen o adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, sy’n rhan o’r tîm ymchwil rhyngwladol:

“Mae’n hanfodol adnabod cludwyr clefydau’n gyflym a chywir er mwyn rheoli clefydau pan fo achosion yn codi. Gall pryfed deithio ymhell y tu hwnt i’w cynefin arferol, weithiau ar hyd pellterau annisgwyl oherwydd newid yn yr hinsawdd. Drwy wybod pa rywogaethau sy’n bresennol gellir olrhain tarddiad clystyrau’r clefyd mewn cymunedau ac ymateb yn fwy effeithiol.

“Mae dulliau diagnosis traddodiadol yn aml yn araf ac mae angen arbenigwyr i’w defnyddio, sy’n codi heriau mawr i ranbarthau lle mae mynediad i ofal iechyd yn gyfyngedig. Gyda deallusrwydd artiffisial gallem droi’r broses adnabod clefydau’n gyflymach, clyfrach a mwy rhagweithiol. Mae’r dechnoleg hon hefyd yn agor y drws i ganfod rhywogaethau newydd o bryfed a all beri risg i iechyd yn y dyfodol.” 

Nod hirdymor yr ymchwil yw ehangu’r dechnoleg i adnabod pryfed eraill sy’n lledaenu clefydau heintus.

Ychwanegodd yr Athro Boongoen:

“Mae’r potensial yn anferth – mae’r tîm cyfan yn gobeithio y gall wneud gwir wahaniaeth wrth ymdrin â rhai o glefydau peryclaf y bydd. Gan weithio ar draws disgyblaethau a chyfandiroedd, chwiliwn am atebion ymarferol a hygyrch drwy ddeallusrwydd artiffisial a all helpu gweithwyr iechyd i ymateb yn gynt, gwella canlyniadau triniaeth, a chryfhau’r camau rheoli clefydau lle y codant mewn rhanbarthau bregus.”

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Academi’r Gwyddorau Meddygol a’i arwain gan Ganolfan Rhagoriaeth Bioleg Cludwyr a Chlefydau a Gludir gan Fectorau ym Mhrifysgol Chulalongkorn yng Ngwlad Thai. Mae’r cydweithwyr eraill yn cynnwys Ysgol Meddyginiaeth Drofannol Lerpwl, Prifysgol Naresuan yng Ngwlad Thai, Instutut Pasteur yn Ffrainc, Prifysgol Siarl yn y Weriniaeth Tsiec, a Chymdeithas Deallusrwydd Artiffisial Gwlad Thai.