Prosiect arloesol yn monitro afonydd Cymru o’r gofod

Matt Redgrave a Stanley Allen o Brifysgol Aberystwyth yn gosod synhwyrydd aml-baramedr ar Afon Teifi

Matt Redgrave a Stanley Allen o Brifysgol Aberystwyth yn gosod synhwyrydd aml-baramedr ar Afon Teifi

24 Tachwedd 2026

Mae rhai o afonydd mwyaf anghysbell Cymru yn cael eu monitro ar y pryd, bron, drwy ddefnyddio synwyryddion a gysylltir â lloerenni, mewn prosiect arloesol sy'n gwella ein dealltwriaeth am ansawdd dŵr.

Mae gwaith monitro dalgylchoedd afonydd gwledig Cymru yn dibynnu ar ymweliadau achlysurol â safleoedd, gan adael bylchau sylweddol yng ngwybodaeth gwyddonwyr am gyflwr afonydd ac achlysuron o lygru, pethau all newid yn gyflym.

Mae prosiect newydd, sy'n cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth, yn helpu i ymdrin â’r her honno drwy ddarparu monitro di-dor o ansawdd dŵr ar y pryd, bron, a hynny mewn lleoliadau lle mae’n anodd neu’n anymarferol monitro drwy ddulliau confensiynol.

Trwy STREAMS (Technoleg y Gofod ar gyfer Synwyryddion Monitro Amgylcheddau Afonydd ac Amaeth), sef prosiect cydweithredol rhwng Prifysgol Aberystwyth, Lacuna Space a Chanolfan Technoleg Amaeth y DU, a ariennir gan Innovate UK, mae ymchwilwyr yn datblygu synwyryddion aml-baramedr uwch sy'n mesur dangosyddion allweddol iechyd afonydd yn ddi-dor, gan gynnwys ocsigen tawdd, tyrfedd, tymheredd, dargludedd trydanol, a’r lefelau o nitrad, amoniwm a pH.

Mae'r synwyryddion yn cyfathrebu trwy rwydwaith lloerenni isel ei bŵer a ddatblygwyd gan Lacuna Space, wedi'i lunio i allu gael gwybodaeth hanfodol o synwyryddion batri yn rhywle ar y Ddaear. Mae'r dechnoleg hon yn galluogi trosglwyddo mesuriadau o ddalgylchoedd afonydd anghysbell, heb ddibynnu ar signal ffôn symudol.

Y canlyniad yw llif o wybodaeth ddi-dor am gyflwr afonydd, sy’n rhoi cyfleoedd newydd i ymchwilwyr a rheolwyr amgylcheddol i ganfod achlysuron o lygru, dilyn hynt newidiadau amgylcheddol a deall tueddiadau ansawdd dŵr hirdymor yn well.

Dywedodd Dr Elizabeth Hart o Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mewn llawer o afonydd yng Nghymru, prin yw’r cyfleoedd i gasglu data monitro di-dor yn draddodiadol. Mae STREAMS yn helpu i ymdrin â hyn trwy ddarparu monitro dibynadwy, hirdymor sy'n gwella ein dealltwriaeth o sut mae ansawdd dŵr yn newid gydol y flwyddyn, yn ystod glaw mawr, ac mewn ymateb i weithgareddau ar draws y dalgylch.

“Trwy wella ein dealltwriaeth o sut mae afonydd yn ymateb i brosesau naturiol ac arferion rheoli tir, nod y prosiect yw cefnogi ffermwyr, rheolwyr tir a sefydliadau amgylcheddol i gael canlyniadau cadarnhaol o safbwynt tir amaeth cynhyrchiol yn ogystal ag ecosystemau afonydd cynaliadwy.”

Ychwanegodd Dr Edore Akpokodje, Darlithydd Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Mae'r prosiect hwn yn dangos sut y gellir defnyddio technoleg arloesol i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol go iawn.  Trwy integreiddio synwyryddion amgylcheddol â rhwydwaith chyfathrebu lloeren, rydym yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer monitro afonydd yn ddibynadwy yn yr hirdymor mewn lleoliadau sydd ymhlith y mwyaf heriol."

Dywedodd Jamin Morrison o Lacuna Space:

“Nid oes gan lawer o'r dyffrynnoedd afonydd anghysbell hyn unrhyw ddarpariaeth symudol, a dyna pam mae Rhyngrwyd Pethau (IoT) lloeren yn hanfodol. Drwy gysylltu synwyryddion pŵer isel yn uniongyrchol o orbit, mae ein technoleg yn darparu data parhaus, amser real o unrhyw le ar y Ddaear heb fod angen seilwaith ar y ddaear, gan droi dalgylchoedd na ellid eu cyrraedd o'r blaen yn ddyfrffyrdd sydd wedi'u diogelu'n weithredol.”

Mae'r dechnoleg eisoes ar waith ar Afon Teifi yng Ngheredigion.

Uchelgais hirdymor y prosiect yw sefydlu rhwydwaith monitro afonydd y gellid ei fabwysiadu ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol, gan helpu i fod yn fwy effeithiol wrth reoli’r amgylchedd a diogelu ecosystemau dŵr croyw.