Ymchwil

Pentwr o lyfrau, llyfr ysgrifennu a beiro

Ein hymchwil

Ymchwil sy'n llywio holl waith Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, ac mae ein staff yn arbenigo ar iaith a llên Cymru a'r gwledydd Celtaidd eraill. Rydym yn cynnal seminarau ymchwil agored bob tymor sy’n gyfle i wrando ar arbenigwyr yn y maes a thrafod â phobl sy’n gwirioni’r un fath. 

Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf cadwodd yr Adran ei henw da am gyhoeddi ymchwil o safon flaengar drwy’r byd, yn ogystal â rhagoriaeth ryngwladol. Barnwyd bod 25% o gyhoeddiadau’r adran yn flaengar drwy’r byd (4*) a 30% yn ‘rhyngwladol ragorol’ (3*).

Mynnwch gip ar y Proffiliau Staff i ganfod mwy am waith ymchwil ein pobl ni.

Chwilio am fyfyrwyr ymchwil

Os oes gennych chi ddiddordeb ym meysydd ein hymchwil, cysylltwch â ni. Rydym yn chwilio am fyfyrwyr ymchwil!
Am fwy o wybodaeth ymchwil gweler y Proffiliau Staff.

Dolenni defnyddiol:
Centre for Cultures of Place
Porth Ymchwil Aberystwyth
‘Barddoniaeth Menywod yn Iwerddon, yr Alban a Chymru 1400–1800’
Prosiect Achyddol Bartrum

 

Meysydd arbenigol ein staff

Mae ein hymchwil yn rhychwantu’r canrifoedd, ac yn cwmpasu’r meysydd arbenigol canlynol. Dyma flas ar ein meysydd ymchwil yn nhrefn y wyddor:

Llenyddiaeth a Beirniadaeth Lenyddol

  • damcaniaeth feirniadol, yn arbennig ffeministiaeth ac astudiaethau rhywedd, eco-feirniadaeth a damcaniaeth ymateb y darllenydd
  • haint a henaint yn yr Oesoedd Canol Diweddar
  • hanes llenyddiaeth a beirniadaeth lenyddol
  • hunaniaeth ranbarthol a chenedlaethol mewn llenyddiaeth a diwylliant modern cynnar a chyfoes
  • llenorion a beirdd gwlad yn Eryri
  • llenyddiaeth ‘pedair cenedl’ ac ‘archipelegaidd’
  • llenyddiaeth Gymraeg a Gwyddeleg gymharol
  • llenyddiaeth y dirwedd a’r amgylchedd
  • rhyddiaith grefyddol yn yr ieithoedd Gaeleg
  • ysgrifennu a diwylliant llenyddol merched

Ymarfer (golygu, cyfieithu, ysgrifennu creadigol ayb)

  • bywgraffiad ac ysgrifennu am fywyd
  • cyfieithu ac addasu llenyddol (damcaniaeth ac ymarfer, yn cynnwys y Canol Oesoedd)
  • cyfieithu ar y pryd a hawliau ieithyddol
  • diwylliant y llawysgrif a’r llyfr
  • y gynghanedd
  • y Gymraeg yn y gweithle
  • ysgolheictod testunol a sgiliau golygyddol
  • ysgrifennu creadigol

Astudiaethau Iaith

  • diaspora Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban
  • iaith y Pictiaid
  • ieithyddiaeth ac ieitheg: Cymraeg, Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban a Manaeg.

Cyfnodolion

Golygir pedwar cyfnodolyn blaengar gan aelodau o’r staff:

Cyhoeddir y Cambrian Medieval Celtic Studies ddwywaith y flwyddyn. Mae’n gyfnodolyn uchel ei barch sy’n cynnig ffynhonnell ardderchog ar gyfer myfyrwyr Astudiaethau Celtaidd ac unrhyw un sy’n ymddiddori yn y maes. Caiff ei olygu gan yr Athro Emeritws Patrick Sims-Williams.

Cyfnodolyn pwysig yw’r Comhar Taighde o ran maes Iaith a Llenyddiaeth Wyddeleg fodern. Lansiwyd y cyfndolyn digidol, mynediad agored hwn yn 2015. Caiff ei olygu bellach gan Dr Peadar Ó Muircheartaigh a chydweithwyr o Goleg Prifysgol Dulyn.

Mae Dwned yn cynnwys erthyglau ac adolygiadau ar hanes a llenyddiaeth Cymru'r Oesoedd Canol. Dr Bleddyn Owen Huws, sy’n Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, yw un o'r golygyddion. Hwn yw’r unig gylchgrawn yn y byd sy’n canolbwyntio ar gyhoeddi deunydd ar lenyddiaeth ganoloesol Cymru yn yr iaith Gymraeg.

Mae'r Journal of Celtic Linguistics yn cynnwys erthyglau ac adolygiadau ar bob agwedd ar yr ieithoedd Celtaidd ­­– modern, canoloesol a hynafol – gyda phwyslais arbennig ar astudiaethau syncronig, ynghyd â gwaith diacronig a hanesyddol-gymharol. Dr Simon Rodway, sy’n Ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, yw'r golygydd. Mae'r cyfnodolyn yn ddefnyddiol i fyfyrwyr sy’n astudio’r ieithoedd Celtaidd, yn ogystal â darllenwyr sy’n ymddiddori yn hanes datblygiadau’r ieithoedd Celtaidd.

Prosiectau Ymchwil

Drwy’r blynyddoedd, mae’r Adran wedi derbyn grantiau allanol a chydweithio ar brosiectau, yn eu plith:

  • ‘An Icelander among the Gaels: A Study of Grímur Thorkelin (1752-1829) and his Gaelic Manuscripts 2021–22’
  • ‘Barddoniaeth Menywod yn Iwerddon, yr Alban a Chymru 1400–1800’ (Ymddiriedolaeth Leverhulme)
  • ‘Gaulish Morphology with Particular Reference to Areas South and East of the Danube’.
  • ‘Gohebiaeth Carneddog a Rhai o’i Gyfoedion’
  • ‘MS Q: A transcript of the Welsh Law manuscript that escaped the 1858 Wynnstay fire’ (BA/Leverhulme grantiau bychain)
  • ‘Ptolemy: Towards a Linguistic Atlas of the Earliest Celtic Place-Names of Europe’
  • ‘Variation and Change in the Language of Manx Sermons 2020–21’
  • ‘Welsh Genealogies’ P. C. Batrum, 300-1500 https://doi.org/10.20391/40837b6f-1887-4afd-9c6e-9b7e3a122693
  • Llenyddiaeth Cymru ac Ewrop

At hynny, mae gennym fantais sylweddol arall, sef y ffaith fod Aberystwyth yn gartref i amrywiaeth o sefydliadau allweddol, yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n un o bum llyfrgell hawlfraint y Deyrnas Unedig.