Pantycelyn

Myfyrwyr allan ar y glaswellt y tu allan i Neuadd Pantycelyn

Neuadd Pantycelyn: lle i fyw yn Gymraeg

Neuadd Pantycelyn yw calon cymuned myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth. Yma cewch rannu cartref-oddi-cartref gyda myfyrwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru. Byddwch wrth eich bodd mewn adeilad sydd wedi ei foderneiddio’n llwyr, ac fe wnewch ffrindiau newydd am oes.

 

Mae Neuadd Pantycelyn hefyd yn gartref i UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth), yr undeb gyntaf o’i math yng Nghymru, ac un a chanddi brofiad helaeth o ymgyrchu dros fuddiannau myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol ac o warchod eu hawliau. Erbyn heddiw, mae’n fudiad dylanwadol iawn sydd â llais a chynrychiolaeth ar rai o brif bwyllgorau’r Brifysgol.

Mae UMCA yn cefnogi nifer o gymdeithasau Cymraeg poblogaidd, megis y Geltaidd (prif gymdeithas chwaraeon Gymraeg Prifysgol Aberystwyth), Yr Heriwr ac Aelwyd Pantycelyn – mae lle i bawb sy’n mwynhau chwarae pêl-droed a rygbi, gwleidydda, newyddiadura, canu, llefaru, dawnsio neu glocsio. Trefnir nifer o weithgareddau gan UMCA ar y cyd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac mae Llywydd a Swyddog Amgen Pwyllgor Gwaith UMCA yn cydweithio’n agos â’r Coleg er mwyn sicrhau bod gennym amrywiaeth o weithgareddau at ddant pawb.