Cyflogadwyedd

Pobl ifanc yn gweithio mewn swyddfa

O gwrs gradd i'r gweithle!

Mae gradd yn y Gymraeg neu Astudiaethau Celtaidd o Brifysgol Aberystwyth yn paratoi myfyrwyr ar gyfer ystod eang o gyfleoedd gwerthfawr yn y sectorau preifat a chyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt. 

Mae cyflogadwyedd wedi ei ymgorffori yn y cwricwlwm a gynigir i bob un o'n myfyrwyr.

Nod ein modiwlau amrywiol yw meithrin eich medusrwydd ieithyddol ynghyd â sgiliau:

  • beirniadol
  • dadansoddol
  • creadigol.

Bydd ein modiwlau ni yn:

  • atgyfnerthu eich Cymraeg neu un arall o'r ieithoedd Celtaidd, er enghraifft eich sgiliau llafar Cymraeg a'ch sgiliau ysgrifenedig Cymraeg
  • eich paratoi ar gyfer byd gwaith cystadleuol
  • gwella eich gallu i gyfathrebu'n effeithiol
  • gwella eich gallu i gydweithio â phobl eraill.

Yn sgil Mesur y Gymraeg 2011 a tharged Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae galw cynyddol am weithwyr proffesiynol â sgiliau dwyieithog o’r safon uchaf.

Gallwch weithio mewn ystod eang o feysydd:

  • cyfryngau cyhoeddus / y radio a’r teledu
  • addysg
  • cyhoeddi
  • ysgrifennu creadigol
  • gwleidyddiaeth
  • cyfieithu
  • polisi iaith
  • cynllunio ieithyddol
  • gwasanaeth sifil
  • marchnata
  • gwaith cymdeithasol
  • ymchwil
  • gweinyddiaeth gyhoeddus, ee y gwasanaeth cyfiawnder a’r heddlu; y gwasanaeth iechyd.

Mae record yr Adran o ran cyflogadwyedd ein graddedigion yn dweud y cyfan. Yn ôl yr wybodaeth ddiweddaraf, roedd 100% o’n graddedigion mewn swydd neu addysg bellach chwe mis ar ôl iddynt raddio (HESA 2018). Gweler Ffigurau cyflogadwyedd graddedigion Prifysgol Aberystwyth.

Ble mae cyn-fyfyrwyr yr Adran nawr?

Porwch drwy'r llyfryn Ydy Fy Swydd yn dy Siwtio? i gael blas ar yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael i raddedigion y Gymraeg!

Ydy fy swydd yn dy siwtio?

Y Gwasanaeth Gyrfaoedd

Mae'r Adran yn rhan o un o gynlluniau Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth sy'n cynnig arweiniad i fyfyrwyr ar agweddau ymarferol, megis sut i ysgrifennu CV a sut i ragori mewn cyfweliad. Daw siaradwyr gwadd o’r tu allan i’r Brifysgol i sôn am y cyfleoedd sydd ar gael i siaradwyr y Gymraeg yn y farchnad waith. Fel rhan o’r cynllun, byddwch yn cael eich annog i fanteisio'n llawn ar y profiadau a'r cyfleoedd sydd ar gael ichi yn ystod eich cyfnod yn Aberystwyth, er mwyn ichi allu gwella eich cyflogadwyedd a datblygu proffil a fydd yn ddeniadol i ddarpar gyflogwyr.

Mynnwch gip ar yr wybodaeth sydd ar gael i fyfyrwyr, a'r wybodaeth sy'n benodol i astudio Cymraeg.