Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

Dwy fyfyrwraig mewn Seminar

Darpariaeth Gymraeg Prifysgol Aberystwyth

Mae Prifysgol Aberystwyth yn arwain y maes o ran cynnig darpariaeth Gymraeg mor eang â phosib, ac mae staff academaidd y Brifysgol yn cynhyrchu mwy o ymchwil cyfrwng Cymraeg nag unrhyw Brifysgol arall yng Nghymru. 

Mae nifer fawr o feysydd priodol yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaethau Mynediad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac, yn ychwanegol at hynny, mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno cynllun ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg sy’n agored i bob myfyriwr sy’n astudio elfen o’i gwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.

Pam astudio drwy'r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae 99% o’r graddedigion a fu’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth naill ai mewn swydd neu mewn addysg bellach 6 mis ar ôl graddio, o’i gymharu â 91.8% nad ydynt wedi astudio drwy’r Gymraeg (Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, 2018).
  • Mae galw mawr am bobl ifanc broffesiynol sy’n gallu gweithio’n ddwyieithog.
  • Mae cyflogau gyrfaoedd dwyieithog yn uwch, ar gyfartaledd.
  • Bydd astudio drwy’r Gymraeg yn y Brifysgol yn rhoi sylfaen ardderchog i’ch gyrfa.
  • Mae nifer o’n cyrsiau israddedig yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n werth hyd at £3,000.

Cymraeg yw iaith feunyddiol Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac ardal Aberystwyth yn gyffredinol. Golyga hyn fod myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth – yn ddechreuwyr ac yn siaradwyr rhugl fel ei gilydd – yn medru defnyddio eu sgiliau ieithyddol yn y gymuned yn ogystal ag ar gampws y Brifysgol.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Sefydliad cenedlaethol yw'r Coleg Cymraeg sy'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynllunio, o gynnal ac o ddatblygu addysg ac ysgolheictod cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion. Mae gan y Coleg ganghennau ymhob un o brifysgolion Cymru lle cynigir darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Cangen Prifysgol Aberystwyth o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cydweithio’n agos â’r Coleg i ddatblygu a hyrwyddo’r ddarpariaeth Gymraeg yn Aberystwyth. Cewch wybodaeth yma am weithgareddau academaidd a chymdeithasol y Gangen, ynghyd â’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr wrth ddod yn aelodau o’r Coleg.

Yn sgil ymaelodi â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd modd i unigolion sydd â diddordeb yng ngwaith y Coleg ddod yn aelodau o gymuned academaidd y Coleg. Bydd aelodau’n derbyn gwybodaeth am weithgareddau ac am ddatblygiadau'r Coleg, ynghyd â manylion am gyfleoedd sy’n codi o gynlluniau'r Coleg.

Bydd pob aelod o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn derbyn rhif aelodaeth personol. Bydd angen rhif aelodaeth wrth ymgeisio am Ysgoloriaethau'r Coleg, gwerth hyd at £3,000. Yn ogystal â hyn, byddwch yn derbyn y newyddion diweddaraf am ysgoloriaethau’r Coleg ac am ddigwyddiadau a ffeiriau UCAS. Ymaelodwch nawr!