Prosiectau’r Gronfa Flynyddol 2009/10

 

Cronfa Caledi Myfyrwyr

Mae gan Aberystwyth un o’r cyfraddau cadw myfyrwyr uchaf yn y wlad, gyda thros 90% o’n hisraddedigion yn cwblhau eu gradd. Fodd bynnag, mae’r dirwasgiad presennol wedi rhoi straen ariannol enfawr ar rai myfyrwyr, gyda lleihad yn y nifer o swyddi sydd ar gael yn ystod y gwyliau a rhieni yn ei chael yn anodd parhau i gyfrannu.

Bydd y Gronfa Caledi Myfyrwyr yn cefnogi achosion dilys lle mae ein myfyrwyr yn cael trafferth ariannol i gefnogi eu hunain yn ystod eu cyfnod yn Aber.

Technoleg Gwybodaeth

Un o broblemau byw oddi ar y campws yn Aber yw diffyg mynediad i adnoddau ymchwil a TG ardderchog y Brifysgol wrth astudio gartref. Yn sgil cytundeb â’r awdurdod lleol, rydym yn ceisio gosod nifer o “ailadroddwyr” diwifr ar bolion lamp ledled y dref a fydd yn galluogi i unrhyw fyfyriwr yn unrhyw le yn Aberystwyth sydd â chyfrifiadur diwifr i fewngofnodi ar rwydwaith y Brifysgol yn eu hystafelloedd.

Ar amrantiad, bydd hyn yn cynyddu gallu’r myfyrwyr i ddefnyddio adnoddau astudio a chyfathrebu o dros 100%.

Lle bynnag y mae ar y Brifysgol ei angen fwyaf

Os ydych yn hapus i’ch rhodd gael ei rhoi tuag at brosiect(au) sydd angen “ychwanegiad” ariannol er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein holl amcanion, rhowch eich rhodd heb nodi sut yr hoffech iddi gael ei gwario.

Cliciwch yma i roi eich rhodd neu

Make a donation using Virgin Money Giving


Ysgoloriaethau PhD

Mae’n fwyfwy anodd dod o hyd i gyfle i ymgymryd ag ymchwil o’r radd flaenaf ar lefel ddoethurol gyda grantiau yn anodd eu cael a’r nifer o ymgeiswyr ardderchog yn llawer mwy na nifer y lleoedd sydd ar gael. Mae’r Gronfa Flynyddol yn ceisio creu o leiaf un ysgoloriaeth tair-blynedd bob blwyddyn i dalu am gostau dysgu a chostau cynnal a chadw gan alluogi i’r ymgeisydd haeddiannol ychwanegu at hanes ymchwil ardderchog Aber.

Eleni, bydd yr ysgoloriaeth yn cael ei dyfarnu mewn adran o fri rhyngwladol, sef yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, am ymchwil i Wleidyddiaeth Amgylcheddol. Mae hwn yn faes sy’n cael ei drafod a’i ddadlau fwyfwy ymhlith gwleidyddion, gwneuthurwyr polisïau ac aelodau o’r cyhoedd fel ei gilydd. Mae hefyd yn faes lle mae gan y penderfyniadau oblygiadau pellgyrhaeddol a difrifol i bawb.

Yr Amgylchedd

Mae’r amgylchedd byw a gweithio yn Aber yn un o’n rhinweddau gorau, ond mae’n rhaid i ni barhau i’w wella er mwyn cynnal ein henw da rhagorol fel un o’r Prifysgolion mwyaf hardd yn y wlad.


Mae’r Piazza o flaen Canolfan y Celfyddydau, gyda’r caffi ar y palmant a’r cerflun La Scala ymarferol a mawreddog, yn lle a fyddai’n manteisio’n fawr o gael rhagor o seddau, planhigion a chysgod. Prosiect eleni felly yw newid gwedd y Piazza trwy ychwanegu’r nodweddion hyn.