Digwyddiadau Rhithiol

Dyma restr o'n digwyddiadau rhithiol ar draws y Brifysgol sydd wedi eu cynnal ac sydd ar gael i gymuned ein cyn-fyfyrwyr.

 Digwyddiadau Blaenorol

  • People's Voices in a People's War: Aberystwyth 1939-1945
    Dr Sian Nicholas yn arwain sgwrs ar brosiect cymunedol a ariennir gan Gronfa Treftadaeth Loteri Genedlaethol yn ymchwilio i brofiad yr Ail Ryfel Byd gartref yn Aberystwyth a'r ardaloedd cyfagos.
    Pwyswch yma i glywed recordiad.
  • O’r Coleg Ger y Lli i’r Coleg ar y Bryn – gan alw mewn ambell le arall ar y ffordd
    O fewn ychydig flynyddoedd i sefydlu Coleg Prifysgol Cymru yn 1872 roedd y galw am addysg brifysgol yn cynyddu a sylweddolodd awdurdodau’r Coleg nad oedd cyn westy’r Castell ar lan y môr yn Aberystwyth yn ddigon mawr i ateb y galw.
    Dyma hanes sut y daeth y Coleg Ger y Lli yn Goleg ar y Bryn.
    Pwyswch yma i glywed recordiad.
  • Pan Gyfarfu Cynhadledd Heddwch Ryngwladol yn Aberystwyth
    Yn Haf 1926, pan deimlai nifer o brif ddinasoedd mawr Ewrop na allent gynnal cynhadledd heddwch Cynghrair y Cenhedloedd, camodd Aberystwyth i’r bwlch, dan arweiniad David Davies, Llandinam. Dyma gyfle i glywed hanes yr amgylchiadau a arweiniodd at hynny a sut yr achubodd Aberystwyth y dydd.
    Pwyswch yma i glywed recordiad.
  • Yr Annisgwyl yn Aberystwyth: rhannu straeon o archif y Brifysgol. Yn dilyn ymgyrch ddiweddar Aber yn Gafael, i dynnu sylw at y gwaith sy’n mynd rhagddo i ymchwilio i’n hanes a’n casgliadau, mae hi’n awr yn bryd inni gael cip ar archif y Brifysgol. Byddwn yn edrych ar rai o’r bobl a’r digwyddiadau sydd wedi cael eu dwyn i gof ac sydd wedi cael llwyfan o’r newydd yn sgil eitemau yn y casgliad. Pwyswch yma i glywed recordiad.
  • Hanes creu ffilm am y newyddiadurwr Cymreig, Gareth Jones.
    Sgwrs gyda’r Sgriptiwr Ffilmiau-Cynhyrchydd, Andrea Chalupa, ynglŷn â chreu ffilm am y newyddiadurwr Cymreig, Gareth Jones. Pwyswch yma i glywed recordiad.
  • Aber yn Gafael gyda Cara Cullen a Julie Archer.
    Cyfle i glywed am ymchwil Prifysgol Aberystwyth i’w Hanes a’i Chasgliadau ar gyfer ein horielau newydd cyffrous yn yr Hen Goleg. Pwyswch yma i glywed recordiad.