Prosiectau'r Gronfa Flynyddol 2010/11
Ymgynghorydd ar Gyllid Myfyrwyr
Gall sgiliau rheoli arian gael effaith fawr ar fywyd myfyrwyr. Myfyrwyr sy’n dioddef waethaf o dan y dirwasgiad - gan nad yw eu cronfeydd a’u grantiau yn ddigon i dalu am gostau cynyddol byw a bod, ac mae’n haws cronni dyledion. Bydd hyn yn golygu, i rai, flynyddoedd o galedi ariannol diangen.
Mae’r Gronfa Flynyddol yn awyddus i gynnig mwy o gefnogaeth drwy ariannu swydd Ymgynghorydd Cyllid Myfyrwyr ran-amser (neu fel y’i gelwir hefyd, y Meddyg Arian). Bydd y Meddyg Arian yn rhoi cyngor a chymorth i fyfyrwyr sy’n cael problemau annisgwyl neu broblemau ariannol penodol, yn dysgu sgiliau rheoli arian anhepgor iddynt, a’u helpu i gael gafael ar ffynonellau eraill o gyllid. Gwyddom fod hyn yn aml yn fwy defnyddiol na darparu cefnogaeth ariannol yn unig.
Mae rhagor o wybodaeth am y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yn Aber ar gael yma.
Rhwydwaith Mentora’r Cyn-fyfyrwyr
Mae're amrywiaeth eang o yrfaoedd ein graddedigion yn dangos bod gan ein myfyrwyr y potensial i gyfrannu at pob agwedd ar fywyd, yn genedlaethol a rhyngwladol.
Mewn marchnad swyddi sy’n mynd yn fwyfwy cystadleuol, lle mae diweithdra ymhlith graddedigion wedi cynyddu 25% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’n bwysicach nawr nag erioed o’r blaen fod ein myfyrwyr yn cael eu paratoi’n dda drwy gael amrywiaeth heb ei ail o brofiad gwaith a gyrfaoedd. Rydym yn gofyn am eich cymorth ariannol er mwyn sefydlu Rhwydwaith Mentora’r Cyn-fyfyrwyr. Bydd eich rhodd yn rhoi fframwaith cadarn i’r rhaglen fentora hon a gynhelir ar y we a dros y ffôn. Bydd yn hwyluso mentora un-ag-un rhwng cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol, yn ogystal â lleoliadau profiad gwaith, cynghori, cyfnodau o waith, digwyddiadau sgiliau cyflogaeth rhyngweithiol, proffilio gyrfaol ar y we, a darparu cyngor a chefnogaeth.
Am ragor o wybodaeth am y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd yn Aber, ewch i’r wefan.
Yn ogystal ag ariannu’r prosiect hwn, os ydych am gofrestru’ch diddordeb mewn ymuno â’n mentoriaid, cysylltwch â’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni drwy ffonio 01970 628797 neu ebostio datblygu@aber.ac.uk.
Sut i roi
Y Prosiect Digido.
Mae adnoddau academaidd hygyrch yn ysbarduno ymchwil greadigol ac arloesol. Mae’r Gronfa Flynyddol yn chwilio am gefnogaeth i agor rhai o adnoddau mwyaf arbennig Aber i gynulleidfa ehangach drwy ddigido rhai eitemau o Gasgliadau Arbennig y Brifysgol.
Mae'r Brifysgol yn ffodus o fod wedi cael nifer o eitemau prin ac unigryw wedi’u gadael a’u rhoi iddi. Mae’n anodd cael gweld y casgliadau arbennig hyn oherwydd eu bod mor werthfawr a brau, gyda llawer ohonynt yn cael eu cadw o dan amodau lle y rheolir y lleithder yn yr awyr yn gaeth. Drwy ddigido’r eitemau hyn – yn rhoi lluniau tra-manwl ar y we – fe fyddai’n llawer iawn haws i fyfyrwyr, academyddion a’r cyhoedd gael eu gweld nhw.
Gobeithio y bydd y fenter hon gan y Gronfa Flynyddol yn gosod y sail i raglen ddigido fwy cynhwysfawr yn Aber yn y dyfodol.
Ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth am Gasgliadau’r Brifysgol.
Ysgoloriaeth Doethuriaeth
Yn yr Asesiad Ymchwil diweddaraf yn 2008, disgrifiwyd yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yn Aberystwyth fel un sy’n ‘arwain y byd’. Mae’r Ysgol wedi ymrwymo i wneud ymchwil a chyhoeddi gwaith sy’n rhyngwladol berthnasol, ac i gynnig ‘atebion ym meysydd busnes, rheolaeth a chyllid y gellid eu defnyddio ar draws sectorau, diwylliannau a disgyblaethau’. Er mwyn sicrhau bod Aberystwyth yn parhau â’i rhagoriaeth yn y maes hwn, mae angen inni gynnig mwy o ysgoloriaethau i ddenu’r uwchraddedigion gorau. Felly, mae’r Gronfa Flynyddol yn awyddus i ariannu Ysgoloriaeth PhD am dair blynedd yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes, i dalu am ffioedd dysgu a chostau byw.
Bydd y Ddoethuriaeth yn cael ei chynnig ym maes rheolaeth ryngwladol, yn enwedig lle y mae llwybrau busnes a chysylltiadau rhyngwladol yn croesi.
I ddysgu mwy am yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yn Aber, ewch i’r wefan.