Dr David W Morris
Ysgrifennwyd yr ysgrif goffa hon gan Dr John H Harries, Cyn-Ddirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth.
Bu farw Dr David (Dai) Morris, Prifathro cyntaf Coleg Amaethyddol Cymru, yn dawel yn ei gartref, Fferm Ostrey, Sanclêr, Sir Gaerfyrddin, ar 13 Gorffennaf yn 87 mlwydd oed. Ac yntau’n gyn-fyfyriwr Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, ganwyd Dr Morris ar y fferm deuluol yng nghwm Rheidol. Roedd yn un o saith o blant - un ferch a chwech o fechgyn, a’r diweddar John Morris yn un ohonyn nhw, a ddaeth i fod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan ddwyn y teitl Barwn Morris o Aberafan.
Aeth David Morris i Ysgol Ramadeg Ardwyn cyn astudio am radd mewn amaethyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Wedi hyn treuliodd gyfnod ym Mhrifysgol Newcastle lle enillodd ei radd PhD o dan oruchwyliaeth yr Athro Mac Cooper, yr amaethwr a anwyd yn Seland Newydd, a gafodd gryn ddylanwad arno ac a ddaeth yn ddiweddarach yn dad yng nghyfraith iddo. Wedi nifer o flynyddoedd yn ardaloedd Cumberland, Newcastle ac yn Wiltshire, lle bu ef a’i wraig Cynthia yn rheoli 2,000 o aceri ar fferm laeth ac âr a oedd yn rhan o Ystâd Bowood, daethpwyd â David yn ôl i Aberystwyth fel Prifathro cyntaf Coleg Amaethyddol Cymru. Roedd sefydlu’r coleg yn adlewyrchu’r awydd yng Nghymru i ddiwallu’r angen am fwy o addysg dechnegol ac addysg a oedd o safon well i’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr.
Yn ystod ei flynyddoedd cyntaf yn Brifathro, wynebodd David rai heriau unigryw. Rhaid oedd codi adeiladau’r coleg ar safle maes glas ar Gampws Llanbadarn ond, ar ôl blwyddyn o waith adeiladu, aeth y cwmni adeiladu yn fethdalwr. Cafwyd hyd i adeiladwyr newydd i gwblhau’r prosiect, ac yn y cyfamser cofrestrwyd y 34 myfyriwr cyntaf yn 1971 a bu rhaid eu dysgu dros dro yn adeilad yr hen ‘ysgol laeth’ ar Ffordd Llanbadarn a chafwyd llety ar frys iddynt mewn tai yn y dre. Lle cyfyng yng nghrombil un o adeiladau’r Cyngor Sir ar lan y môr oedd swyddfa’r prifathro. Cafodd nifer o’r myfyrwyr cyntaf hynny eu cyfweld gan Dr Morris yn yr amgylchedd anatyniadol hwnnw. O’r diwedd, erbyn mis Medi 1972 ac o dan gyfarwyddyd diwyro David, gorffennwyd y gwaith o adeiladu’r coleg newydd a symudodd y myfyrwyr a’r staff i mewn.
Penododd David Morris grŵp o staff a oedd yn weddol ifanc, yn gymwys iawn ac yn frwdfrydig. Roedd ganddynt gymysgedd dda o brofiad yn y diwydiant a llwyddiant academaidd. O dan lygad barcud y prifathro, roedd y staff yn dysgu cyrsiau Diploma Cenedlaethol Cyffredin a Diploma Cenedlaethol Uwch i safon addysgol a thechnegol uchel. Y bwriad oedd creu diplomedigion amaethyddol a fyddai’n gallu defnyddio eu sgiliau a’u dealltwriaeth mewn cyd-destun ymarferol ac yn gallu cychwyn y gwaith ar unwaith ac yn eiddgar. Roedd Dr Morris yn mynnu bod addysg y myfyrwyr yn hollol berthnasol i anghenion y diwydiant ffermio, ac o dan ei arweiniad ef dros y 12 mlynedd nesaf, datblygodd Coleg Amaethyddol Cymru, neu WAC fel y’i galwyd gyda hoffter, enw rhagorol am ei ddarpariaeth.
Yn y 1970au diweddar, daeth yn Athro mewn Amaethyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, swydd ar y cyd â’i rôl fel Prifathro Coleg Amaethyddol Cymru. Yn rhan o’i gyfrifoldebau newydd roedd goruchwylio’r gwaith o reoli ffermydd y brifysgol. Er hyn, ni chlosiodd y ddau sefydliad cyfagos yn academaidd tan rhai blynyddoedd wedi iddo ymadael ag Aberystwyth pan luniwyd gradd gyfun mewn amaethyddiaeth.
Yn 1983, gadawodd David ei swyddi academaidd yn Aberystwyth er mwyn dod yn ffermwr llawn amser a dilyn ei awydd am her newydd ac yn arbennig ei gariad at amaethyddiaeth ymarferol. Prynodd fferm Wern Berni yn Llanboidy, Sir Gaerfyrddin a sefydlu buches Friesian Holstein pedigri a oedd yn cynnwys 100 o wartheg. Roedd hefyd yn cadw defaid pedigri Charolais a daeth diadell Penywern, a gychwynnodd tra’r oedd yn Aberystwyth, yn un o’r rhai mwyaf yn y DU. Yn ddiweddarach sefydlodd ddiadell bedigri o ddefaid Llŷn a daeth yn ddylanwadol fel cadeirydd rhanbarthol Cymdeithasau Bridiau Charolais a Llŷn ac roedd iddo barch mawr.
Symudodd David a Cynthia i Fferm Ostrey, fferm lai o faint, yn Sanclêr, Sir Gaerfyrddin yn 1999 gan barhau i ffermio a chael llwyddiant nodedig wrth fridio defaid. Er enghraifft, yn 2006 torrwyd y record am y brîd defaid Llŷn pan werthwyd un o’u hyrddod blwydd am £15,750 yn arwerthiant blynyddol defaid Llŷn yng Nghaerliwelydd. Yn y pen draw, yn 2023, ymddeolodd David a Cynthia yn llawn o’u gwaith ffermio.