Fran Button

Fran Button

Enillodd radd LLB yn y Gyfraith yn 1993.

 

Beth wyt ti'n gofio fwyaf am dy gyfnod yn Aber?

Mae gennyf gymaint o atgofion melys o fy nghyfnod yn Aber a’r ffrindiau oedd gennyf yno. Roedd Adran y Gyfraith yn lle cefnogol iawn i ddysgu, ac yn fwyaf pwysig, yn lle hwyliog hefyd. Roedd bywyd myfyriwr yn wych – cerddoriaeth yn Rummers, disgos yn y Clwb Pêl-droed, diodydd yn y Seabank, a phancos eliffant (heb yr eliffant!) yn y Welsh Fudge Shop. Chwaraeodd yr awyr agored ran amlwg iawn yn fy mywyd yn Aber – mynd am dro ar lan y môr a thros y clogwyni, tripiau i ogledd Cymru gyda Chlwb Mynydda Aber a gwylio’r dyfrgwn ar afon Ystwyth.

Beth wyt ti'n ei wneud nawr o ran gyrfa, a sut mae dy radd o Aberystwyth wedi helpu?

Fi yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol British Solar Renewables Cyf. Rydym yn datblygu, cynllunio, adeiladu, cysylltu, gweithredu a rheoli prosiectau adnewyddadwy o ansawdd uchel yn y DU a thramor. Rydym wedi adeiladu’r 4 parc solar daearol mwyaf  yn y DU. Un o’r rhain yw’r parc solar gwifrau preifat mwyaf yn Ewrop, sy’n darparu pŵer ar gyfer melin bapur.  Fy ngwaith i yw rheoli agweddau cyfreithiol a chydymffurfiaeth y busnes ac mae gennyf rôl allweddol hefyd wrth ddatblygu ein gwasanaethau solar rhyngwladol ar raddfa fawr. Gradd yn y Gyfraith a enillais o Aberystwyth a cham naturiol (ac yn rhan o’m cynllun) oedd ymgymhwyso fel cyfreithiwr, a dyna a wneuthum yn 1996. Dilynais y llwybr traddodiadol drwy ymuno â swyddfa gyfreithwyr breifat, gan dreulio’r rhan fwyaf o f’amser gyda Pinsent Masons LLP ac arbenigo mewn cyfraith peirianneg ac adeiladu.

.

Pa gyngor fyddet ti'n ei roi i fyfyrwyr sy'n gwneud dy gwrs di nawr?

Fy nghyngor i fyddai astudio pwnc rydych yn ei garu – ceisiodd llawer un fy narbwyllo i beidio ag astudio’r gyfraith ac rwy’n falch iawn iddynt fethu. Wrth astudio’r gyfraith, dewiswch fodiwlau y mae gennych wir ddiddordeb ynddynt. Byddwch yn hyblyg – cyrhaeddais Aber gan fwriadu bod yn fargyfreithiwr troseddu ond gadewais yn gyfreithiwr masnach. Byddwch yn agored i’r holl brofiad y mae Aber yn ei gynnig. Rhan fwyaf gwerthfawr fy addysg yn Aber oedd yr hyder a roddodd imi, y ffrindiau da a wneuthum yno (sydd yn ffrindiau o hyd) a’r anturiaethau a gefais. Byddwch yn benderfynol a dyfalbarhau – dyma’r ddwy rinwedd a’m helpodd fwyaf wrth astudio yn Aber ac yn ystod fy ngyrfa wedi hynny.