Llwybr CysylltiAD
Y Llwybr CysylltiAD i Radd Gyntaf mewn Astudiaethau Addysg a Phlentyndod - Gwnewch y CysylltiAD
Cwrs dysgu o bell, rhad ac am ddim yw ein Llwybr CysylltiAD - mae ar-lein, i'w wneud ar eich cyflymder eich hunan, ac mae wedi'i gynllunio i'ch cyflwyno i bynciau sy'n ymwneud ag Addysg ac Astudiaethau Plentyndod.
Bydd y cwrs 3 wythnos hwn yn eich galluogi i ddod yn gyfarwydd â'n hamgylchedd dysgu ar-lein, datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch dealltwriaeth ym maes Addysg a Phlentyndod, a'ch paratoi ar gyfer asesiadau o'r math y dewch ar eu traws yn y brifysgol. Dyluniwyd y cwrs hwn yn benodol i gynyddu eich siawns o fynediad llwyddiannus i Addysg Uwch, ac mae ar gael i'w ddilyn drwy'r Gymraeg a'r Saesneg.
Dilynwch y ddolen hon i gofrestru ar gyfer un o'n cyrsiau CysylltiAD heddiw!
Manteision y Llwybr CysylltiAD
Mae llawer o fanteision gan y Llwybr CysylltiAD i'ch gradd gyntaf mewn Addysg a Phlentyndod!
- Hyblyg: Mae'n gwrs ar-lein, dysgu o bell ar eich cyflymder eich hunan, sy'n caniatáu hyblygrwydd i gwblhau pob uned ar amser a lle sydd fwyaf addas i chi, o unrhyw le yn y byd.
- Fforddiadwy: Mae'n hollol rhad ac am ddim.
- Datblygiad Proffesiynol: Mae'r cwrs nid yn unig yn eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth gref o bynciau amrywiol sy'n ymwneud ag Addysg ac Astudiaethau Plentyndod, ond hefyd yn datblygu eich sgiliau cyflwyno, meddwl beirniadol, trafod, cyfathrebu, rheoli amser, trefnu a myfyrio.
- Paratoi i'r Brifysgol: Wrthgynnal y cwrs ar ein hamgylchedd dysgu rhithwir, byddwch yn ennill gwybodaeth weithredol gref o'n platfform ac yn dod yn gyfarwydd â mathau cyffredin o asesu y gallech ddod ar eu traws yn y brifysgol.
- Opsiynau Iaith: Rydym yn cynnig ein cwrs yn Gymraeg a Saesneg, fel y gallwch ymgysylltu â'r cynnwys a chyfathrebu yn eich iaith ddewisol.
- Mynediad i Aberystwyth: Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, mae'r Brifysgol yn barod i ddarparu cynnig is (cyd-destunol) i unrhyw ddarpar ymgeiswyr.
Manylion y cwrs
Bydd y cwrs 3 wythnos hwn yn rhedeg bob mis rhwng diwedd y flwyddyn ysgol a gwyliau'r Nadolig, gan gwmpasu pum maes pwnc, pob un yn cael ei asesu mewn ffordd wahanol. Mae pob uned yn cynnwys darlith, mewn maes cysylltiedig, gweithgaredd ac asesiad, fel yr amlinellir isod.
| Uned | Asesiad | Gwerth |
| Hanes Addysg a'r Cwricwlwm yng Nghymru a Lloegr | Cwis arlein | 15% |
| Cyflwyniad i Ddysgu Cymdeithasol | Traethawd myfyriol | 30% |
| Cydraddoldeb ac Amrywiaeth mewn Addysg a Phlentyndod | Poster | 25% |
| Dadleuon Beirniadol mewn Addysg | Cyfraniad Bwrdd Trafod | 15% |
| Datblygiad Llythrennedd Cynnar a Llyfrau Lluniau | Dyddiadur myfyriol | 15% |
Llwybr CysylltiAD - Amseru a Dyddiadau y Cwrs
|
Dyddiad Cau Cofrestru |
Dyddiad Dechrau Cwrs |
Dyddiad Gorffen Cwrs |
Dyddiad Adborth |
|
15/09/2025 |
22/09/2025 |
10/10/2025 |
24/10/2025 |
|
08/12/2025 |
15/12/2025 |
09/01/2026 |
30/01/2026 |
|
13/07/2026 |
20/07/2026 |
07/08/2026 |
21/08/2026 |
|
12/10/2026 |
19/10/2026 |
06/11/2026 |
20/11/2026 |
|
07/12/2026 |
14/12/2026 |
08/01/2027 |
29/01/2027 |







