Cyflogadwyedd

Tri pherson mewn cyfweliad

Mae'n cyrsiau ni'n canolbwyntio ar gyflogadwyedd er mwyn sicrhau eich bod yn symud yn rhywdd o'ch gradd i'ch gyrfa.

Rydym ni hefyd yn annog ein myfyrwyr i wirfoddoli, gartref neu yn yr ardal leol, am fod profiad ymarferol bob amser yn werthfawr wrth benderfynu ar eich gyrfa yn y dyfodol ac wrth ymgeisio am swyddi.

Mae gan y Brifysgol gynllun Blwyddyn mewn Diwydiant. Gall myfyrwyr sy'n dymuno cwblhau blwyddyn mewn diwydiant wneud hynny rhwng yr ail a'r drydedd flwyddyn o'r radd. Dewis arall yw astudio dros y môr am gyfnod o amser. Gallwch ddewis cymryd rhan yn ein Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol, er enghraifft.

Yma yn yr Ysgol Addysg, mae gennym ni Gydlynydd Cyflogadwyedd sy'n trefnu cynadleddau a sesiynau rheolaidd gyda siaradwyr o amrwyiaeth o feysydd gyrfa.

Gwyddom fod llawer o'n myfyrwyr yn ysytyried gyrfa ddysgu, yn y sector cynradd neu uwchradd. Fodd bynnag, nid yw gyrfa ddysgu yn apelio at bawb, ac mae rhai o'n graddedigion wedi mynd ymlaen i yrfa mewn maes arall, megis Nyrsio, therapi lleferydd, gwaith cymdeithasol, lles plant, therapi chwarae a chyfraith plant.

Beth bynnag y byddwch chi'n ei benderfynu am y dyfodol sy'n iawn i chi, gallwch fod yn sicr y byddwch yn derbyn sylfaen gadarn yn eich pwnc ac yn magu gwybodaeth a sgiliau a fydd yn berthnasol i lawer o swyddi.

  • Gyrfaoedd

Bathodynnau Sgiliau