Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

Dwy fyfyrwraig mewn seminar

Mae gennym ymrwymiad cryf i addysgu trwy'r Gymraeg ac rydym wedi ymrwymo i ddatblygu'n darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Mae'n modiwlau craidd a nifer cynyddol o fodiwlau dewisol yn cael eu cynnig drwy'r Gymraeg. Mae gan y myfyrwyr cyfrwng Cymraeg eu cynrychiolydd academaidd eu hunain sy'n gofalu am eu buddiannau mewn cyfarfodydd rhwng staff a myfyrwyr.

Rydym yn annog ein myfyrwyr i ddewis modiwlau cyfrwng Cymraeg. Bydd rhai'n dewis un neu ddau ac eraill yn dewis cynifer ag y bo modd. Cewch ysgrifennu'r holl aseiniadau ac arholiadau ar fodiwlau cyfrwng Cymraeg neu Saesneg yn Gymraeg neu yn Saesneg ac mae'r holl waith ysgrifenedig yn y Gymraeg yn cael ei farcio gan diwtoriaid Cymraeg eu hiaith. Gallwn sicrhau hefyd fod yr holl fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn cael tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg i'w harwain drwy eu hastudiaethau.

Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) i ehangu a gwella ystod yr addysg cyfrwng Cymraeg rydym yn ei gynnig.

Mae'r modiwl Sgiliau Allweddol i Brifysgol yn cynnig y sgiliau allweddol a fydd yn helpu myfyrwyr cyfrwng Cymraeg i bontio o'r ysgol neu'r coleg i'r Brifysgol. Hefyd, gall y Brifysgol gynnig rhagor o gymorth i ddatblygu a gwella sgiliau academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.

Mae nifer o fanteision i astudio eich cwrs yn rhannol neu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cewch ganfod mwy am yr ysgoloriaethau a gynigir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a defnyddio eu chwilotydd cyrsiau i gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau y mae'n bosibl eu hastudio'n rhannol neu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae gennym ein cynllun ysgoloriaethau ein hunain hefyd - cynllun sy'n gwobrwyo pob myfyriwr sy'n dewis astudio rhan o gwrs neu gwrs cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg. Cewch ganfod mwy ar ein tudalen Ysgoloriaethau Astudio drwy'r Cymraeg.

Ond nid arian yw'r cyfan. Drwy ddewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, fe ddewch chi'n rhan o'n cymuned Cymraeg ei hiaith, lle byddwch chi'n cael eich dysgu mewn grwpiau bach ac yn datblygu perthynas gwaith glòs â'ch darlithwyr a'ch cyd-fyfyrwyr. Ar yr un pryd, byddwch yn datblygu sgiliau dwyieithog a fydd o fantais ichi wrth edrych am waith, a bydd Tiwtor Personol Cymraeg ei iaith yn cael ei ddynodi ichi. Yn ogystal, cewch yr hawl i gyrchu nifer o wasanaethau yn eich dewis iaith. Gweler tudalennau ein Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg i gael rhagor o wybodaeth.