Cefnogaeth

Myfyrwraig yn derbyn cefnogaeth gan aelod o staff yr Ysgol Addysg

Yma yn yr Ysgol Addysg, mae gennym ni amrywiaeth eang o wahanol rwydweithiau cefnogi yn eu lle.

Trwy'r rhwydweithiau cefnogi hyn, rydym yn sicrhau lles ein myfyrwyr ac yn cynnig cymorth iddyn nhw gyda'u hastudiaethau, eu bywyd personol a'u datblygiad.

Cliciwch y tabiau i ddarllen am ein rhwydweithiau cefnogi.

Cynlluniau Cymorth gan Gymheiriaid

Rydym yn cynnig dau fath o Gynllun Cymorth gan Gymheiriaid: Mentora 'Ffordd Hyn' a Chynorthwywyr Adrannol i Gymheiriaid. Canfod mwy am ein cynllun Cymorth gan Gymheiriaid

Mae'r ddau wasanaeth yn breifat a chyfrinachol ac maen nhw yna i roi cymorth i chi gydag unrhyw broblemau, pryderon neu gwestiynau. Gall ymwneud ag addasu i fywyd prifysgol, sut i ddefnyddio ein hamgylchedd dysgu rhithiol, defnyddio'r llyfrgell, cyflwyno neu gynllunio aseiniadau, dod yn fwy trefnus neu rheoli amser yn well, sut i ddod o hyd i'r golchdy neu pa rai yw'r lleoedd gorau yn y dre i fynd ma's. Mae'r rhai sy'n cynnig arweiniad ac yn mentora wedi'u hyfforddi i'ch cyfeirio at wasanaethau perthnasol o ran ymdrin ag arian, iechyd meddwl a lles, materion academaidd neu unrhyw beth arall os nad ydyn nhw'n gallu eich helpu eu hunain.

Cynorthwywyr Adrannol i Gymheiriaid a Mentora Ffordd Hyn 

I lawer o fyfyrwyr, mae dod i astudio yn y Brifysgol yn gyfnod newydd a chyffrous, er mae’n bosibl y bydd rhai heriau’n codi yn yr wythnosau neu’r misoedd cyntaf. Gallai’r rhain gynnwys ceisio darganfod lle i ddod o hyd i bethau yn y Brifysgol, dysgu byw’n annibynnol, bod oddi cartref am y tro cyntaf, addasu i ffordd fwy annibynnol o ddysgu yn y Brifysgol, neu hyd yn oed reoli eich amser yn effeithiol.  

Er mwyn cynorthwyo ein myfyrwyr newydd mae gennym ddau gynllun Cymorth gan Gymheiriaid:  Cynorthwywyr Adrannol i Gymheiriaid a Mentora Ffordd Hyn.

Mentoriaid Ffordd Hyn – ar gyfer myfyrwyr ym mhob blwyddyn

Israddedigion y drydedd flwyddyn, y flwyddyn olaf neu uwchraddedigion yw Mentoriaid Ffordd Hyn. Mae Mentoriaid y cynllun yn cael eu hyfforddi gan yr Adran Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd a gallant gynnig cymorth a chyngor cyfeillgar ac anffurfiol ar unrhyw agwedd ar fywyd Prifysgol i fyfyrwyr ym mhob blwyddyn.

Gallant hefyd roi cefnogaeth gyson ag iddi fwy o strwythur i fyfyrwyr newydd ar bob agwedd ar fywyd myfyriwr, gan gynnwys cynllunio academaidd, rheoli eu hamser, cadw trefn ar waith a chymhelliant i weithio. Mae gan Fentoriaid Ffordd Hyn wybodaeth dda am wasanaethau cymorth arbenigol y Brifysgol a gallant gynorthwyo myfyrwyr i fanteisio ar y gwasanaethau hyn, er enghraifft, yng nghyswllt Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA), Cymorth i Astudio, gwasanaethau Lles Myfyrwyr (gan gynnwys Ymarferydd Iechyd Meddwl ac Ymarferydd Cwnsela) a Chyllid Myfyrwyr.

Mae Mentora Ffordd Hyn yn breifat, yn gyfrinachol ac yn hollol anfeirniadol.

I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Mentora Ffordd Hyn ac i weld sut mae cael cymorth gan un o'r mentoriaid ewch i dudalen we y cynllun Mentora Ffordd Hyn.

Cynorthwywyr Adrannol i Gymheiriaid – ar gyfer myfyrwyr newydd

Mae gan ein hadran ni dîm o Gynorthwywyr Adrannol i Gymheiriaid (sydd naill ai’n fyfyrwyr o'r ail neu'r drydedd flwyddyn neu'n uwchraddedigion). Bob blwyddyn mae'r Cynorthwywyr hyn wrth law i gynnig cymorth, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr newydd y flwyddyn gyntaf sydd newydd gyrraedd y Brifysgol. Gall y Cynorthwywyr gynorthwyo myfyrwyr newydd i ymgartrefu ac ymgyfarwyddo â bywyd Prifysgol oherwydd bod ganddynt wybodaeth a phrofiad o'r Brifysgol, yr Adran a'r dref. Mae sgyrsiau unigol rhwng myfyrwyr newydd a Chynorthwywyr Cymheiriaid yn breifat a Chyfrinachol.

Ychydig cyn dechrau bob blwyddyn academaidd, mae'r Adran yn cysylltu â myfyrwyr newydd ac yn rhoi manylion iddynt ynglŷn â threfniadau i gysylltu â'u Cynorthwywyr.

Mae ein Cynorthwywyr i Gymheiriaid yn astudio amrywiaeth o gyrsiau gradd: gradd anrhydedd sengl mewn Addysg neu Astudiaethau Plentyndod, Astudiaethau Plentyndod gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, neu radd gyfun neu brif/is-bwnc gydag adran arall. Mae gennym Gynorthwywyr aeddfed a rhyngwladol ynghyd â chynorthwywyr sy’n gallu cynnig cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth yw’r Cynllun? Mae ein myfyrwyr wedi dweud... 

" …rhwyd ddiogelwch." 

"…Cefnogaeth ychwanegol wrth geisio ymgartrefu." 

"...Byddwn i wedi bod yn nerfau i gyd heb y cyfle i siarad â rhywun." 

"...Profiad positif a oedd, rwy'n gobeithio, nid yn unig yn fuddiol i'r rhai yr oedden ni'n eu cynorthwyo ond a oedd wedi bod o fudd i mi wrth fyfyrio ynghylch fy amser yma. Rwyf wedi defnyddio fy sgiliau cyfathrebu, cynllunio ac esbonio ac rwy'n credu y bydd hyn yn help mawr i mi yn fy ngyrfa dysgu yn y dyfodol."  

"...Roeddwn yn gallu gofyn cwestiynau i rywun sydd wedi bod drwy'r un peth â mi ac a oedd yn gallu rhoi cyngor i mi oherwydd hynny."

"..Roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi, yn enwedig fel myfyriwr aeddfed sydd wedi cael seibiant hir o waith academaidd."

Beth yw amcanion y cynllun?

I’r sawl sy’n derbyn y cymorth: Nod y cynllun yw cefnogi eich astudiaethau a’r pontio o’r ysgol neu waith i fywyd prifysgol.

"…Roeddwn yn teimlo'n ofnus wrth feddwl am ddod i'r brifysgol o ganlyniad i'r bwlch mawr rhwng gadael ysgol a dod yma. Mae'r cynllun hwn wedi fy helpu i osgoi teimlo ar goll ac rwy’n teimlo’n dawelwch fy meddwl gyda’r cwrs erbyn hyn.’’ 

"…Mae ymgyfarwyddo â bywyd prifysgol yn galed, felly mae hi wedi bod yn wych i allu siarad â rhywun sydd wedi bod drwy'r un peth."

"...Roedd y cynllun wedi fy helpu i ymlacio mwy wrth fynd i'r afael ag aseiniadau gan yr oeddwn yn gwybod bod rhywun yna i siarad â nhw os oedd angen."

"...Mae’n helpu oherwydd mae’n rhoi ffordd i chi ddod i nabod eich  amgylchedd yn ogystal â sicrhau eich bod wedi deall cwestiynau'r aseiniadau."

I'r Cynorthwyydd: Nod y cynllun yw cynyddu eich cyflogadwyedd drwy roi’r cyfle ichi ddatblygu ffyrdd newydd o weld eich hun.  

"...Mae'r profiad wedi fy annog i fyfyrio ynghylch fy mhrofiadau fy hun o fywyd myfyriwr, a hynny mewn ffyrdd na fyddwn i wedi meddwl y byddent wedi fy helpu."

"…Mae bod yn Gynorthwyydd i Gymheiriaid yn rhoi boddhad ac yn gyfle gwych." 

"...Mae’r profiad wedi bod o gymorth i mi wrth fyfyrio ynghylch fy sgiliau a fy ngwybodaeth fy hun, gan fy mod wedi help pobl eraill i weithio ar hynny eu hunain. Roedd yn deimlad da i allu rhoi cymorth i rywun i ymgartrefu ar y cwrs ac fe wnes i fagu hyder wrth ateb eu cwestiynau a rhoi cymorth iddynt."

"Mae wedi rhoi hunanhyder i mi yn fy ngallu i fentora unigolion ac wedi rhoi mwy o sylw i'r hyn yr hoffwn ei wneud yn y dyfodol... mae bod yn gynorthwyydd i gymheiriaid wedi rhoi balchder i mi wrth weld eraill yn magu hyder ar ôl cael cyngor gen i neu gyfarfod o hanner awr."

"Drwy gael fy nghynorthwyo drwy'r cynllun hwn y llynedd, roedd yn beth naturiol i mi fod yn gynorthwyydd i gymheiriaid eleni ac yn hawdd i sefydlu perthynas dda  oherwydd fy mod wedi profi’r un pryderon ag yr oedd y myfyrwyr newydd yn eu profi nawr.

Fel Adran, rydym yn gobeithio y bydd y cynllun yn caniatau i'r myfyrwyr sy'n derbyn ac i'r rhai sy'n rhoi'r cymorth i ddatblygu'n bersonol drwy fod yn rhan o'r fenter. Bydd y rhai sy'n derbyn y cymorth yn cael cefnogaeth ychwanegol mewn modd anffurfiol i'w helpu i bontio'n rhwydd i fywyd a gwaith prifysgol, tra bydd y cynorthwywyr yn meithrin sgiliau pobl gwerthfawr a phrofiadau a fydd yn gwella'u cyfleoedd gyrfa. Mae'r ddau grŵp hwn wedi gwerthfawrogi'r ddarpariaeth hon yn y gorffennol ac wedi elwa'n fawr ohoni.  

"...Bydd dod yn fentor yn rhoi sgiliau allweddol i chi a fydd yn edrych yn dda ar y CV ac yn gwella'ch cyfle o gael gwaith ar ôl graddio. Byddwch yn ennill profiad hanfodol o roi cefnogaeth i fyfyrwyr - profiad y mae cyflogwyr ym meysydd addysg a gwasanaethau plant yn edrych amdano wrth recriwtio."  (Cydlynydd Cyflogadwyedd Ysgolion) 

Ewch i'r dudalen Cymorth gan Gymheiriaid i ganfod mwy.  

Manylion cyswllt yr Adran: Panna Karlinger (pzk@aber.ac.uk neu add-ed@aber.ac.uk

Rota Cymorth i Fyfyrwyr

Bydd aelod o'r staff academaidd bob amser ar gael i gynnig ychydig o gymorth ychwanegol os oes angen hynny arnoch. Rhennir gwybodaeth am y Rota Cymorth i Fyfyrwyr bob bore sy'n rhoi manylion cyswllt yr aelodau staff sydd ar gael y diwrnod hwnnw. Ceir hyd i'r wybodaeth hon ar Blackboard ym mhob modiwl hefyd, ac ym Modiwl Israddedig yr Ysgol Addysg.

Staff Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Mae rhai o'n staff wedi derbyn hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ac mae hyn yn sicrhau ein bod yn gallu rhoi'r cymorth priodol i chi os oes angen help arnoch. Oherwydd y sefyllfa iechyd meddwl yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, mae hi bron yn anorfod y byddwch yn wynebu rhai problemau, ar lefel bersonol a phroffesiynol. Mae gennym yr adnoddau, y dealltwriaeth a'r hyder i ddelio gyda phob math o afiechyd meddwl ynghyd â materion lles, neu i'ch cyfeirio at y gwasanaethau perthnasol os nad ydym yn gallu eich helpu chi ein hunain.

Staff sydd wedi cwblhau hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Pobl Ifanc

Enw

Cyfeiriad e-bost

Susan Chapmans 

scc@aber.ac.uk 

Panna Karlinger

pzk@aber.ac.uk

Lucy Trotter

lut22@aber.ac.uk

 

Hyrwyddwyr Cydraddoldeb

Hyrwyddwyr Cydraddoldeb 

Mae Hyrwyddwyr Cydraddoldeb yn cwrdd unwaith y mis i drafod materion sy'n ymwneud â Chydraddoldeb ac Amrywiaeth ar draws ein hadrannau a'r brifysgol. Mae pob Hyrwyddwr Cydraddoldeb yn berson cyswllt allweddol er mwyn i gydweithwyr yr adrannau allu codi unrhyw bryderon ynghylch Cydraddoldeb ac Amrywiaeth o fewn cyd-destun ehangach. 

Hyrwyddwr Cydraddoldeb Yr Ysgol Addysg yw Dr Lucy Trotter (lut22@aber.ac.uk)

Cydlynydd Anabledd

Mae Cydlynydd Anabledd yr Ysgol Addysg yn ymgysylltu â'r Gwasanaethau Hygyrchedd darlithwyr o fewn yr Adran i sicrhau bod y ddarpariaeth angenrheidiol ar gyfer myfyrwyr yn cael ei rhoi ar waith, a bod darlithwyr yn ymwybodol o anghenion penodol unigolionNid oes unrhyw wybodaeth yn cael ei datgelu heb ganiatâd y myfyriwr ac mae gwybodaeth yn cael ei rhannu ar y sail bod pobl penodol 'angen gwybod'. Mae ein Cydlynydd Anabledd hefyd yn gweithio yn fwy cyffredinol gyda'r Gwasanaethau Hygyrchedd i hybu arferion dysgu cynhwysol ar draws y Brifysgol. Ein nod yw sicrhau bod y dysgu mor gynhwysol a hygyrch ag sy’n bosibl i bawb, p'un a bod anabledd, gwahaniaeth dysgu neu unrhyw rwystr arall yn amharu ar allu unigolion i ddysgu. Mae croeso i ddarlithwyr a myfyrwyr yr Adran gysylltu; mae ein Cydlynydd Cydlynydd Anabledd yma i roi cefnogaeth neu gyngor, ac i'ch cyfeirio chi at wasanaethau penodol yn ôl yr angen. 

Michelle Evans (mle1@aber.ac.ukyw Cydlynydd Anabledd yr Ysgol Addysg.  

Pwyllgor Cyswllt Staff a Myfyrwyr 

Mae ein hadran yn rhedeg Pwyllgor Cyswllt Staff a Myfyrwyr er mwyn casglu adborth a barn myfyrwyr gyda chymorth cynrychiolwyr academaidd o bob blwyddyn a phob cynllun astudio. Caiff y myfyrwyr-gynrychiolwyr hyn eu hethol i’r rôl gan y myfyrwyr eu hunain. Hyfforddir hwy yn ganolog er mwyn sicrhau eu bod yn rhannu'ch barn chi ar ystod o faterion er mwyn gallu gwneud newidiadau go iawn 

Dr Rhodri Evans  yw cydlynydd Pwyllgor Cyswllt Staff a Myfyrwyr yr Ysgol Addysg.

Cefnogaeth o'r tu allan i'r Adran

Undeb y Myfyrwyr

Mae Undeb y Myfyrwyr yn hapus i ddarparu cymorth a chefnogaeth ynghylch amryw o faterion, gan gynnwys iechyd a llesiant, llety, bywyd myfyriwr, arian a chyllid, a chyflogadwyedd. Canfod mwy am wasanaeth Cyngor Undeb y Myfyrwyr

Dy Lais ar Waith  

Rydym yn cymryd safbwynt a barn myfyrwyr o ddifrif ac yn ystyried adborth a llais y myfyriwr wrth wneud penderfyniadau ynghylch y Brifysgol, yr adrannau a hyd yn oed ein modiwlau. Yn rhan o'r cynllun Dy Lais ar Waith rydym yn casglu adborth gan y gwasanaeth Rho Wybod Nawr, Holiaduron Holiaduron Gwerthuso Modiwlau ac, ar sail adrannol, gellir cwblhau ffurflenni adborth i gael eu hystyried gan y Pwyllgor Cyswllt Staff a Myfyrwyr. Canfod mwy am Dy Lais ar Waith

Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr a Gyrfaoedd

Mae'r Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr a Gyrfaoedd yn darparu ystod eang o wasanaethau i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i wneud y mwyaf o'ch amser yn y Brifysgol ac i gynyddu eich cyfleoedd bywyd ar ôl graddio i'r eithaf.

Lle bo hynny'n briodol (er enghraifft, therapyddion a chynghorwyr) mae eu staff yn meddu ar gymwysterau proffesiynol a/neu wedi cofrestru neu wedi'u hachredu gan y corff neu sefydliad proffesiynol perthnasol.

Mae'r gwasanaethau ar gael i bob myfyriwr sydd wedi cofrestru ar gynllun gradd israddedig neu ôl-raddedig. Gall rhai gwasanaethau gynnig cyngor yn ystod cyfnodau pan fydd myfyriwr wedi ymadael â'r Brifysgol, ac mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn cefnogi myfyrwyr ar ôl iddyn nhw raddio hefyd. Yn ogystal, maent yn cynnig cefnogaeth sydd wedi'i theilwra ar gyfer grwpiau penodol o fyfyrwyr, megis y rhai sy'n Ymadawyr Gofal.

Canfod mwy am ein Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr a Gyrfaoedd