Cyfleoedd ariannu

Ysgoloriaeth Isable Ann Robertson
Bu Isabel Ann Robertson, neu Ann fel y’i gelwid, yn diwtor yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth am 25 mlynedd rhwng 1984 a 2009, ond roedd ei chysylltiadau â’r Brifysgol yn ymestyn dros sawl cenhedlaeth. Ganwyd Ann Davies yn Llundain ym 1932, yr hynaf o dri o blant. Roedd ei mam, Enid Sayers, wedi ennill gradd mewn Saesneg o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn y 1920au ac yn ddiweddarach (fel Enid Davies) bu’n Is-lywydd ar Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr. Roedd tad Ann, C W Davies, hefyd wedi graddio o Aberystwyth ac yn ddiweddarach roedd yn Athro Cemeg ac yn Bennaeth ar yr Adran Gemeg. Astudiodd Ann Ffiseg pan oedd yr adran yn dal i fod yn yr Hen Goleg ar lan y môr, gan raddio gyda BSc ym 1954 ac MSc drwy ymchwil ym 1957. Ceudodiad oedd maes ei hymchwil. Roedd hi hefyd yn athletwr yn y Coleg ac yn aelod o’r Clwb Hwylio. Cyfarfu Ann â David Robertson drwy’r Clwb Hwylio, ac fe briodon nhw ym 1956. Trwy ei waith ef gyda’r Comisiwn Coedwigaeth, buont yn byw mewn sawl rhan o’r DU, gan gynnwys Glasgow, lle cwblhaodd Ann MSc mewn Cyfrifiadureg. Dychwelon nhw i Aberystwyth i fyw yn yr 1980au. Bu eu merch, Sara Robertson, hefyd yn astudio yn Aberystwyth rhwng 1978 a 1981 yn ogystal â’u hwyres, Fiona Robertson, rhwng 2011 a 2015.
Ysgoloriaeth PhD Ann Robertson - Manylion y Dyfarniad a’r Prosiectau sydd ar gael
Ar agor i ymgeiswyr sy'n gymwys ar gyfer statws ffioedd Cartref (Y DU) yn unig, mae tair ysgoloriaeth Doethuriaeth amser llawn ar gael. Bydd y rhain yn cael eu dyrannu ar sail gystadleuol i dri o'r prosiectau a ddisgrifir ym Manylion Prosiectau Ysgoloriaeth Doethuriaeth Ann Robertson 2025. Bydd y rhai sy'n derbyn Ysgoloriaeth Ann Robertson yn cael grant am hyd at dair blynedd a fydd yn talu eu ffioedd dysgu hyd at gyfradd y DU o £5,006 y flwyddyn (cyfradd 2025/26). Bydd lwfans cynhaliaeth o tua £20,780 y flwyddyn* a mynediad at gronfa deithio a chynadleddau (uchafswm o £1000 y flwyddyn*) yn cael eu darparu hefyd. Mae'r ysgoloriaethau'n dechrau ym mis Medi 2025 (er y gellir trafod dyddiadau cychwyn hyblyg hyd at fis Chwefror 2026).
Sut i Wneud Cais
Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu bob mis ar sail dreigl ac rydym yn gobeithio asesu ceisiadau ar ôl y dyddiadau canlynol: 8 Mai 2025, 5 Mehefin 2025, 3 Gorfennaf 2025.
I gael eu hystyried, rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r cais Doethuriaeth ar-lein llawn arferol A'R Ffurflen gais benodol ar gyfer Ysgoloriaeth Doethuriaeth Ann Robertson 2025.
Dylid llenwi'r ffurflen gais ar gyfer Ysgoloriaeth Ann Robertson a'i chyflwyno drwy ein Porth Ceisiadau Derbyn Ôl-raddedig ar-lein ar adeg y cais.
I wneud cais Doethuriaeth llawn, yn gyntaf ewch i'n tudalennau cyrsiau a dod o hyd i fanylion y cwrs yr hoffech wneud cais amdano. Ar ôl i chi ddod o hyd i dudalen y cwrs o’ch dewis, dewiswch y botwm "Ymgeision Nawr" i ddechrau eich cais.
Bydd y Porth Ceisiadau Derbyn Ôl-raddedig yn gofyn i chi roi eich manylion personol i ni, cadarnhau eich dewis/dewisiadau o gwrs a lanlwytho dogfennau i gefnogi eich cais. Cofiwch sicrhau bod eich dogfennau ategol wedi'u cadw ar ffurf PDF ac yn barod i'w lanlwytho i'ch cais ar-lein.
Ar yr un pryd, dylid anfon y ffurflen gais ar gyfer Ysgoloriaeth Ann Robertson rydych wedi'i llenwi hefyd drwy e-bost fel atodiad at yr Athro Reyer Zwiggelaar (rrz@aber.ac.uk), Pennaeth Ysgol y Graddedigion, gyda CHAIS AR GYFER YSGOLORIAETH ANN ROBERTSON fel pwnc y neges.
Dylid sicrhau eich bod yn darllen y Telerau ac Amodau Ysgoloriaeth Ann Robertson ar gyfer Doethuriaeth yn drylwyr.
Unrhyw Gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol ynghylch y prosiectau a restrir, cysylltwch â'r prif oruchwyliwr sy'n gysylltiedig â'r prosiect.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y broses ymgeisio ôl-raddedig, cysylltwch â pg-admissions@aber.ac.uk
Manylion Prosiectau ar gyfer Ysgoloriaeth Doethuriaeth Ann Robertson 2025
- Mathemateg
Mathemateg
Mae Ysgoloriaeth PhD Ann Robertson ar gael i ariannu unrhyw brosiect a gynigir gan yr Adran Fathemateg. Ewch i dudalen Prosiectau PhD Mathemateg am ddisgrifiadau o brosiectau PhD nodweddiadol sydd ar gael a thudalennau Ymchwil Mathemateg i gael rhagor o wybodaeth am ymchwil yr Adran.
Ysgoloriaethau AberDoc
Mae Ysgoloriaethau AberDoc yn rhan o gronfa fawreddog ar gyfer Ôl-raddedigion Ymchwil.
Mae’r ysgoloriaethau hyn wedi’u teilwra i alluogi myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i gyflawni eu dewis o yrfa a chynnig amrywiaeth o gyfleoedd datblygu i wella’u sgiliau ymchwil â’u sgiliau trosglwyddadwy.
Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar y dudalen bwrpasol ar gyfer Ysgoloriaethau AberDoc.
Ysgoloriaeth YGGCC
Mae Prifysgol Aberystwyth yn aelod o Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) yr ESRC sy'n cefnogi nifer o ysgoloriaethau a gyllidir yn llawn yn y gwyddorau cymdeithasol. Gall myfyrwyr wneud cais am ysgoloriaethau mewn pedwar maes ymchwil neu 'lwybrau': (1) Cynllunio Amgylcheddol, (2) Iechyd, Lles a Gwyddor Data, (3) Daearyddiaeth Ddynol a (4) Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol, ac Astudiaethau Ardal. Mae gwybodaeth am bob llwybr yn cael ei darparu yn y dolenni isod.
Dylai ymgeiswyr ystyried mynd at oruchwylwyr posibl cyn cyflwyno eu cais i gadarnhau bod capasiti goruchwylio priodol ac i drafod eu cais drafft.
Beth fydd yr ysgoloriaeth ymchwil yn ei chynnwys:
Mae dyfarniadau ysgoloriaeth yn talu eich ffioedd dysgu yn ogystal â grant cynhaliaeth ac yn cynnwys mynediad at gyllid ychwanegol drwy Grantiau Cynnal Hyfforddiant Ymchwil (RTSG). Mae cyfleoedd a manteision eraill ar gael i ddeiliaid ysgoloriaethau, gan gynnwys lwfans gwaith maes tramor (os yw'n berthnasol), cyfleoedd am interniaeth, ymweliadau sefydliadol tramor a grantiau bach eraill.
Cymhwysedd
Mae ysgoloriaethau YGGCC yn gystadleuol iawn. Dylai ceisiadau ddod gan ymgeiswyr eithriadol sydd â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu radd anrhydedd ail ddosbarth uwch cryf, neu radd Meistr briodol. Mae'r Brifysgol yn gwerthfawrogi amrywioldeb a chydraddoldeb ar bob lefel ac yn annog ceisiadau o bob rhan o'r gymuned, waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol. Yn unol â'n hymrwymiad i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant, ac i recriwtio mwy o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd, anogir a chroesewir ceisiadau yn benodol gan ymgeiswyr Du Prydeinig, Asiaidd Prydeinig, ethnig lleiafrifol Prydeinig a hil gymysg Prydeinig. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer astudio'n llawn amser ac yn rhan-amser.
Llwybrau:
Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl am gymhwysedd, meysydd pwnc a'r broses ymgeisio yn y dolenni isod.
Iechyd, Lles a Gwyddor DataIechyd, Lles a Gwyddor DataI
Yn ddiweddar, cynhaliodd Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) ddwy weminar; 'Sut i wneud cais am ysgoloriaeth YGGCC' a 'Sut i ysgrifennu cynnig ymchwil'. Cynlluniwyd y gweminarau i wneud y gystadleuaeth yn fwy hygyrch i'r rhai sy'n ystyried gwneud cais yng nghystadleuaeth ysgoloriaeth YGGCC 2024. Roedd y gweminarau yn ymdrin â phynciau megis; sut i ddod o hyd i oruchwyliwr, sut i baratoi ar gyfer cyfweliad, a sut i strwythuro eich cynnig. Mae recordiadau o'r gweminarau ar gael ar dudalen ysgoloriaethau YGGCC.
Mae YGGCC yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir. Rydym yn gwerthfawrogi rhagoriaeth academaidd a sgiliau bywyd, yn ogystal â'r gallu i gwrdd â heriau a gallu'r myfyrwyr i gyfoethogi bywyd ein cymuned. Mae ehangu cyfranogiad yn nod allweddol i YGGCC ac rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr abl ac uchelgeisiol. Rydym yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd (y sefydliad arweiniol), Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Swydd Gaerloyw, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Abertawe.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn y Gystadleuaeth Gyffredinol yw 12 Ionawr 2024 (Gall sefydliadau gael terfynau amser cynharach, bydd manylion y rhain yn hysbysebion y Gystadleuaeth Gyffredinol), bydd y Gystadleuaeth Gydweithredol yn lansio ym mis Mawrth 2024.
Ysgoloriaethau AHRC
Ysgoloriaeth Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol (CDP) AHRC Prifysgol Aberystwyth gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Hanes Meddygaeth Lysieuol yng Nghymru, 1840 i 1948
(The History of Medical Herbalism in Wales, 1840 to 1948)
Dyddiad dechrau: 1 Chwefror 2026
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10 Rhagfyr 2025
Cynhelir y cyfweliadau: 18-19 Rhagfyr 2025
Mae'n bleser gan Brifysgol Aberystwyth, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gyhoeddi bod ysgoloriaeth ddoethurol Gydweithredol wedi'i hariannu'n llawn ar gael o fis Hydref 2025 o dan Gynllun Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol yr AHRC.
Bydd y myfyriwr wedi'i leoli ym Mhrifysgol Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Bydd cyfleoedd i gymryd rhan yn rhaglen digwyddiadau Datblygu Carfan y Bartneriaeth Ddoethurol Gydweithredol a gweithgareddau eraill a drefnir ar gyfer y myfyrwyr gan yr AHRC, yn ogystal â hyfforddiant a datblygiad a ddarperir gan Brifysgol Aberystwyth a Chonsortiwm Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol Diwylliant a Threftadaeth Cymru.
Manylion y Prosiect
Mae'r prosiect ymchwil hwn yn ystyried hanes meddygaeth lysieuol – defnyddio planhigion i drin salwch a chadw'n iach – yng Nghymru ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif ac yn gofyn beth mae'n ei ddweud wrthym am ddealltwriaeth a phrofiadau pobl Cymru o iechyd a salwch, natur a'r amgylchedd, a meddygaeth yn y cyfnod modern.
Trwy astudio llyfrau meddygol a llyfrau hunangymorth llysieuol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, casgliadau o ryseitiau llysieuol a thapiau o gyfweliadau hanes llafar yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan, a chasgliad planhigion, herbariwm a banc hadau Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, mae'r prosiect yn edrych ar y dylanwadau amrywiol ar feddyginiaeth lysieuol yng Nghymru a'r ffyrdd roedd pobl Cymru yn gofalu am eu hiechyd a'u lles. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn elwa o sgiliau ac arbenigedd partneriaid y prosiect i ddatblygu ystod o wahanol fentrau effaith ac allgymorth ar safleoedd yng Nghymru.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei oruchwylio gan Dr Steve Thompson, Adran Hanes a Hanes Cymru, a Dr Bleddyn Huws, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn ogystal â Dafydd Pritchard, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Dr Sioned Williams, Amgueddfa Cymru, a Dr Laura Jones, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru tra ar leoliadau yn y sefydliadau hynny.
I wneud ymholiadau anffurfiol am y prosiect, cysylltwch â Dr Steve Thompson, sdt@aber.ac.uk
Manylion yr Ysgoloriaeth
Mae grantiau hyfforddiant doethurol y Bartneriaeth Ddoethurol Gydweithredol yn ariannu ysgoloriaethau llawn amser am 48 mis (4 blynedd) neu ran-amser hyd at uchafswm o 8 mlynedd. Bydd cyfleoedd lleoliad a datblygu, i'w llunio ar y cyd â'r ymgeisydd llwyddiannus, yn cael eu cynnwys yn y cyfnod cyllido hwn.
Mae'r dyfarniad yn talu ffioedd dysgu hyd at werth y ffioedd cartref llawn amser. Lefel Ffi Ddangosol Cynghorau Ymchwil y DU ar gyfer 2025/2026 yw £5,006* Mae croeso i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd ‘tramor’ wneud cais ond bydd angen iddynt dalu'r gwahaniaeth rhwng ffioedd y DU a’r ffioedd tramor a bydd yn ofynnol iddynt fyw yn y Deyrnas Unedig nes iddynt gwblhau'r PhD. Cyfradd ffioedd y Deyrnas Unedig a thramor ar gyfer 2025/26 yw £18,060 .
Mae'r wobr yn talu cyflog blynyddol i'r holl fyfyrwyr, cartref a rhyngwladol. Nid chodir treth ar y cyflog hwn, ac mae'n gyfwerth â chyflog blynyddol, sy'n rhoi modd i'r myfyriwr dalu costau byw. Isafswm Cyflog Doethurol UKRI ar gyfer 2025/2026 yw £20,780 (mae'n cynyddu yn unol ag UKRI) ynghyd â thaliad cynhaliaeth y Bartneriaeth Ddoethurol Gydweithredol o £600 y flwyddyn.
Mae'r myfyriwr hefyd yn gymwys i dderbyn grant teithio a threuliau cysylltiedig ychwanegol yn ystod y prosiect trwy garedigrwydd Consortiwm Treftadaeth Cymru CDP4 sy'n werth hyd at £400 y flwyddyn am 4 blynedd (48 mis).
Meini prawf Cymhwyster
Mae'r ysgoloriaeth hon yn agored i ymgeiswyr Cartref a Rhyngwladol. Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol ddangos sut y byddant yn talu am y gwahaniaeth rhwng yr ysgoloriaeth a ffioedd Ymchwil ol-ddoethurol rhyngwladol. I gymhwyso fel myfyriwr cartref, rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf canlynol:
- Bod yn Wladolyn y Deyrnas Unedig (bodloni gofynion preswylio), neu
- Bod â setlo statws, neu
- Bod â statws preswylydd cyn-sefydlog (bodloni gofynion preswylio), neu
- Bod â chaniatâd amhenodol i fynediad neu i aros
Mae canllawiau pellach ar gael yma yn seiliedig ar ddiwygiadau i Delerau ac Amodau Grantiau Hyfforddi ar gyfer prosiectau sy'n dechrau ym mis Hydref 2025 - Datganiad polisi: adolygiad o amodau'r grant hyfforddi – UKRI
Gellir ymgymryd â'r prosiect yn llawn amser neu'n rhan-amser.
Rydym yn awyddus i annog yr ystod fwyaf eang bosib o ddarpar fyfyrwyr i ymgeisio am ysgoloriaeth y Bartneriateh Ddoethurol Gydweithredol ac yn ymrwymo i groesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o wahanol gefndiroedd.
Yn ddelfrydol, dylai fod gan ymgeiswyr gymhwyster lefel Meistr perthnasol a/neu allu dangos profiad cyfatebol mewn lleoliad proffesiynol neu fod yn disgwyl derbyn y cymwyster hwnnw. Mae hyblygrwydd o ran disgyblaethau addas, ond gallent gynnwys Hanes, Cymraeg, Ethnobotaneg, ac Ethnopharmacoleg. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer yr ysgoloriaeth hon gan y bydd y gwaith yn cynnwys defnydd helaeth o ffynonellau Cymraeg hanesyddol.
DS: Rhaid i bob ymgeisydd fodloni telerau ac amodau ariannu UKRI. Gweler:
https://www.ukri.org/funding/information-for-award-holders/grant-terms-and-conditions/
Sut i wneud cais
I wneud cais ewch i: https://cyrsiau.aber.ac.uk/?study_level=&search_text=phd#cyrsiau-l-raddedig a llenwch y ffurflen gais.
Yn ail, cysylltwch â Dr Steve Thompson sdt@aber.ac.uk i roi gwybod bod cais wedi'i gyflwyno.
Gofynnwn i bob ymgeisydd lenwi ffurflen monitro Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant wirfoddol yma. Mae pob ymateb yn ddienw.
I gael mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaeth, cysylltwch â Dr Steve Thompson, sdt@aber.ac.uk
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ymgeiswyr o amrywiaeth o gefndiroedd. I gael rhagor o wybodaeth am y broses, neu i ofyn am addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r tim Derbyn Uwchraddedigion yn derbyn-uwchraddedig@aber.ac.uk
---------------------------------------------------------------------------------------------
Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol De, Gorllewin a Chymru
Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o nifer o sefydliadau ym M phartneriaeth Hyfforddiant Doethurol De, Gorllewin a Chymru ac mae wedi llwyddo i sicrhau cyllid ar gyfer ysgoloriaethau PhD yn y celfyddydau a'r dyniaethau. Gall myfyrwyr llwyddiannus elwa o gyfleoedd goruchwylio a hyfforddi posibl sydd ar gael mewn mwy nag un brifysgol o fewn y DTP.
Sylwer mai dim ond i fyfyrwyr y DU y mae'r gwobrau hyn ar gael a'u bod ar gyfer myfyrwyr PhD newydd yn hytrach na myfyrwyr PhD cyfredol.
Ewch i wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol De, Gorllewin a Chymru i gael rhagor o wybodaeth.
Cilgant Celtaidd: Efrydiaeth PhD
Efrydiaeth PhD – Negodi'r lleol a'r byd-eang: glasbrint ar gyfer diwylliannau sgrin mewn ieithoedd lleiafrifol
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig efrydiaeth PhD wedi'i hariannu'n llawn yn dechrau ym mis Hydref 2026. Mae'r efrydiaeth yn rhan o Ddyfarniad Cronfa Ddoethurol y ‘Celtic Crescent’ - un o ddeg Dyfarniad Ffocws Doethurol a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau ledled y Deyrnas Unedig.
Y Celtic Crescent
Mae’r Celtic Crescent yn gonsortiwm amlieithog o saith Sefydliad Addysg Uwch yng Nghernyw, yr Alban a Chymru. Gan weithio gyda phartneriaid anacademaidd o’r economi greadigol, nod y consortiwm yw helpu i feithrin y genhedlaeth nesaf o ddoniau ymchwil ac arloesi yn yr economi greadigol. Rydym yn canolbwyntio'n benodol ar ficroglystyrau yn yr economi greadigol a nodweddir gan anghydraddoldeb, tangynrychiolaeth, a bod ar yr ymylon - gyda hyn yn deillio o ffactorau daearyddol, economaidd-gymdeithasol, ac ieithyddol. Gall efrydiaethau fod yn llawn amser neu'n rhan-amser, rhychwantu disgyblaethau, a gallant gynnwys ymchwil sy'n seiliedig ar ymarfer, sy’n rhyngddisgyblaethol, dan arweiniad diwydiant neu ymchwil mewn ieithoedd lleiafrifol.
Mae gan ymchwil doethurol sy’n seiliedig ar ymdeimlad o le botensial trawsnewidiol i gynhyrchu allbynnau creadigol mwy amrywiol, busnesau bach a chanolig sy'n fwy parod i arloesi, ac arloeswyr mwy medrus. Mae hyn oll yn helpu i gynnal gyrfaoedd tymor hwy yn ein heconomïau creadigol gwledig, arfordirol ac ôl-ddiwydiannol. Mae'r weledigaeth hon yn sail i bob agwedd ar waith y Celtic Crescent.
Cyllid
Mae efrydiaethau wedi'u hariannu'n llawn am o leiaf dair blynedd a hanner (42 mis) ac uchafswm o bedair blynedd (uchafswm o 48 mis, gan gynnwys unrhyw leoliadau). Bydd myfyrwyr rhan amser ar sail pro rata:
Mae pob efrydiaeth yn cynnwys ffioedd dysgu, lwfans byw di-dreth blynyddol (£21,805 ar hyn o bryd i fyfyrwyr llawn amser) ac mae'n cynnwys mynediad at grant cefnogi hyfforddiant ymchwil. Croesewir ceisiadau am efrydiaethau llawn a rhan amser.
Y Project
Mae'r PhD hwn, sydd wedi'i ariannu'n llawn, yn archwilio'r cyfleoedd ar gyfer ffilmiau mewn ieithoedd lleiafrifol. Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae globaleiddio wedi pylu ffiniau diwylliannol ac wedi dadsefydlogi rhagdybiaethau hirhoedlog am 'genedl' a 'sinema'. Mae cynnydd llwyfannau SVOD wedi trawsnewid arferion o gynhyrchu, dosbarthu ac arddangos ffilmiau. Drwy gomisiynu cyfarwyddwyr mawr, ariannu cynyrchiadau ar raddfa fawr, a galluogi cynulleidfaoedd i wylio ffilmiau newydd mewn lleoliadau domestig, mae llwyfannau o'r fath yn herio diffiniad sinema wrth ail-lunio awdurdod diwylliannol diwydiannau ffilm cenedlaethol.
Mewn cyfnod o drawsnewid, mae gan ffilmiau Cymraeg y potensial i ddarparu modelau amgen sy'n negodi'r lleol, y cenedlaethol a'r byd-eang. Gan nad oes strwythurau sefydliadol ar raddfa fawr, mae datblygu dulliau amgen o ran ffurf a chynrychiolaeth wedi bod yn hanfodol; ac maent wedi datblygu mewn ffyrdd creadigol, anghonfensiynol. Yn aml mae'n gydweithredol ac yn cael ei yrru gan y gymuned, gydag uchelgais fyd-eang.
Er i gynnyrch sgrin iaith Gymraeg fod yn gysylltiedig ag S4C ers 1982, mae strategaethau lleoleiddio Netflix wedi cyflwyno llwybrau newydd: pennod o The Crown a gynhyrchwyd bron yn gyfan gwbl yn y Gymraeg; Havoc, y ffilm nodwedd fwyaf a wnaed yng Nghymru eto, gydag isdeitlau Cymraeg ar gael; ac yn 2023, trwyddedu Dal y Mellt—y gyfres gyntaf yn y Gymraeg i ymddangos ar y platfform. Mae datblygiadau o'r fath yn arwydd o risgiau a chyfleoedd i ieithoedd lleiafrifol mewn amgylchedd cyfryngau byd-eang.
Drwy gyfuno ymchwil clyweledol ac archifol â chyfweliadau ac ymarfer curadurol, bydd y prosiect hwn yn archwilio llwyfannau amgen ar gyfer ffilmiau yn y Gymraeg ac yn nodi egwyddorion y gellir eu trosglwyddo i gymunedau ieithoedd lleiafrifol eraill o fewn y DU ac o amgylch y byd.
Bydd y myfyriwr yn elwa o fod ar flaen y gad o ran dadleuon cyfoes, byd-eang mewn astudiaethau ffilm, ond bydd wedi'i wreiddio a'i leoli o fewn cyd-destun y Gymraeg, tra'n cael ei lywio gan gymunedau ieithoedd lleiafrifol eraill.
Gan ddefnyddio casgliadau gweledol a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) gan gynnwys rhai Archif Sgrin a Sain Cymru, Archif Ddarlledu Cymru, a chasgliadau archif Bwrdd Ffilmiau Cymraeg a Chyngor Celfyddydau Cymru, bydd yr ysgoloriaeth ymchwil yn mynd i'r afael â'r cwestiynau canlynol:
- Sut gellir diffinio 'ffilm Gymreig'?
- Sut gellir addasu cysyniadau ‘sinema genedlaethol’ a ‘sinema drawsgenedlaethol’ i lywio datblygiadau diwylliant ffilm yng Nghymru yn y dyfodol?
- Sut gall profiadau’r gorffennol lywio cyfeiriadau ffilmiau yn y dyfodol yn oes ffrydio?
- Sut gall mewnwelediadau o’r prosiect hwn lywio dulliau cynhyrchu, dosbarthu ac arddangos ffilmiau mewn diwylliannau iaith lleiafrifol eraill?
Yn ogystal â thraethawd ymchwil ysgrifenedig, trwy gydweithio ag Archif Sgrin a Sain Cymru a rhanddeiliaid eraill, bydd y prosiect yn dehongli casgliadau ffilm y Llyfrgell ac yn curadu cynnwys digidol ar gyfer ei 17 Cornel Clipiau ledled Cymru, gan ddarparu mynediad cyhoeddus digynsail i gynnwys Cymraeg. Yn ogystal â damcaniaethau sinema genedlaethol a thrawsgenedlaethol, bydd y traethawd ymchwil yn dadansoddi rôl polisi’r llywodraeth ac asiantaethau sgrin yng Nghymru.
Bydd myfyrwyr yn astudio yn Aberystwyth ac yn rhan o garfan gysylltiedig o ymchwilwyr y Celtic Crescent sy'n rhannu hyfforddiant a phrofiadau. Byddwch yn cymryd rhan mewn o leiaf un digwyddiad Labordy Crucible preswyl tri diwrnod o hyd, ble bydd yr holl garfan yn dod at ei gilydd yn un o'r gwledydd Celtaidd. Nid yw'n bosibl astudio o bell.
Anogir ymholiadau anffurfiol: cysylltwch â Dr Kate Woodward klw@aber.ac.uk am ragor o wybodaeth.
Pwy ddylai wneud cais?
Bydd gennych chi’r canlynol:
- Cymwysterau academaidd A/NEU brofiad mewn maes perthnasol (e.e. astudiaethau sgrin, astudiaethau cyfryngau, diwydiannau creadigol, cyfathrebu, polisi iaith neu feysydd cysylltiedig) sy'n cyfateb i radd anrhydedd yn y Deyrnas Unedig ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch;
- Diddordeb cryf mewn ieithoedd lleiafrifol a diwylliannau a diwydiannau sgrin
- Diddordeb mewn ymchwil gymhwysol, gydweithredol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, a'r gallu i weithio'n annibynnol ac i feithrin cysylltiadau o fewn rhwydwaith academaidd a diwydiant
Mae’r prosiect yn gofyn am lefel weithredol o’r Gymraeg, gyda’r posibilrwydd o waith cymharol gyda chyd-destunau ieithoedd lleiafrifol eraill. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer gwylio cynnwys gweledol, darllen archifau ysgrifenedig a chynnal cyfweliadau. Gellir ysgrifennu’r PhD naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg gan adlewyrchu sgiliau ieithyddol y myfyriwr a natur ddwyieithog cyd-destun yr ymchwil.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob math o gefndiroedd, yn enwedig y rhai sydd â phrofiad o ymarfer proffesiynol neu greadigol neu lwybrau addysgol anhraddodiadol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn hanfodol i ddarparu addysg uwch ac ymchwil eithriadol. Rydym yn croesawu myfyrwyr o bob cefndir, yn enwedig y rhai hynny o gefndiroedd ymylol. Ein nod yw deall eich arddull dysgu a'ch helpu i greu amgylcheddau lle gallwch ffynnu. Gall Lwfans Myfyrwyr Anabl roi cyllid i chi ar gyfer costau ychwanegol sy'n gysylltiedig ag astudio oherwydd cyflyrau iechyd meddwl neu gorfforol, gwahaniaethau dysgu neu unrhyw anableddau eraill.
Tegwch, Amrywoldeb a Chynhwysiant Prifysgol Aberystwyth
Cymorth Dysgu ac Anabledd Prifysgol Aberystwyth
Cymhwystra Rhyngwladol:
Mae’r efrydiaeth ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr rhyngwladol nodi mai dim ond ffioedd y Deyrnas Unedig y mae'r ysgoloriaeth yn eu cynnwys. Mae hyn yn golygu y byddai'n rhaid i'r myfyriwr ei hun dalu'r gwahaniaeth rhwng ffioedd y Deyrnas Unedig a ffioedd rhyngwladol.
Gall uchafswm o 30% o bob carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol.
Sut i wneud cais
Dylid derbyn ceisiadau ddim hwyrach na 24 Ebrill 2026 am 4 y pnawn amser y Deyrnas Unedig gan gynnwys yr holl ddogfennau gofynnol. Oherwydd nifer y ceisiadau a dderbynnir, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.
Dylid cyflwyno pob cais drwy https://www.aber.ac.uk/cy/study-with-us/pg-studies/apply/
Dylech gynnwys y dogfennau canlynol gyda'ch cais:
- CV: gall hyn fod ar ffurf CV confensiynol, ar ffurf naratif neu fel fideo byr. Dylai ddangos sut mae eich profiad bywyd, eich taith addysgol a/neu waith yn arddangos eich potensial;
- Datganiad yn amlinellu eich diddordeb yn y project hwn, eich syniadau ar ei gyfer a pham rydych yn addas ar ei gyfer (dim mwy na 2 dudalen)
- Manylion dau ganolwr academaidd neu broffesiynol. Rhaid i ganolwyr allu rhoi sylwadau ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd;
- Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (gan gynnwys cyfieithiadau os yn berthnasol)
- Os yw'n berthnasol, prawf o gymhwysedd iaith Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)
Asesiad
Gwahoddir ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer i gyfweliad, lle gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau panel. Gellir cynnal cyfweliadau yn y cnawd, ond byddant hefyd ar gael trwy Zoom/Teams i bob myfyriwr sy'n dymuno cymryd rhan yn y ffordd honno. Gellir cynnal cyfweliadau yn y Gymraeg neu’n Saesneg. Darperir cwestiynau cyfweliad ymlaen llaw. Gall addasiadau gynnwys cyflwyniadau wedi'u recordio ymlaen llaw, cyflwyniadau ysgrifenedig, neu ddull cwestiwn ac ateb strwythuredig yn lle cyflwyniad. Rydym yn fodlon ystyried addasiadau eraill a fyddai'n eich helpu i wneud eich gorau yn yr asesiad.
Arian arall
Mae cyfleoedd ariannu eraill ar gael. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar y dudalen berthnasol.
