Amdanon ni
Beth yw’r Academi Ddoethurol?
Mae’r Academi Ddoethurol yn uned arbenigol ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n gyfrifol am arwain myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig trwy eu hastudiaethau. Ein nod yw cefnogi myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig trwy ddarparu hyfforddiant ymchwil a datblygiad proffesiynol a meithrin perthnasoedd yng nghymuned ymchwil ehangach Prifysgol Aberystwyth. Rydyn ni eisiau sicrhau bod myfyrwyr yn caffael y sgiliau ymchwil angenrheidiol i gwblhau eu gradd a’r sgiliau proffesiynol angenrheidiol i weithio mewn ystod o rolau ymchwil.
Pam mae angen hyfforddiant ymchwil arnaf i?
Ymarfer yw ymchwil, a bydd ymchwilwyr da yn parhau i ddatblygu eu sgiliau trwy ddatblygiad proffesiynol rheolaidd, myfyriol a rhagweithiol. Er bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cydnabod yr angen am hyfforddiant ymchwil yn eu maes ymchwil penodol, maen nhw weithiau’n cael trafferth deall pam rydyn ni’n annog hyfforddiant mewn meysydd y tu allan i’w disgyblaeth uniongyrchol – megis hyfforddiant mewn moeseg, sgiliau cyflwyno ac ysgrifennu nodiadau. Mae tair agwedd i’r ateb hwn.
Yn gyntaf, mae mwy a mwy o amgylcheddau ymchwil proffesiynol yn cynnwys timau rhyngddisgyblaethol, gyda chydweithredu rheolaidd ar draws meysydd academaidd, polisi a busnes. Hyd yn oed os ydych chi’n arbenigwr mewn is-faes penodol, mae hynny’n golygu bod angen i chi gyfathrebu ag ymchwilwyr ac ymarferwyr o gefndiroedd ac arbenigeddau gwahanol ac amrywiol. Felly, mae deall ymarfer ymchwil yn ei gyfanrwydd yn hanfodol. Dyma pam mae’n hollbwysig deall materion yn ymwneud â moeseg ymchwil y tu hwnt i’ch maes ymchwilio uniongyrchol eich hun, er enghraifft.
Yn ail, mae angen i ymchwilwyr proffesiynol allu addasu i leoliadau proffesiynol o fewn a thu allan i’r byd academaidd. Yn wir, er bod llai o swyddi ar gael ym maes ymchwil academaidd, mae’r gwrthwyneb yn gallu bod yn wir o ran y sector preifat, y sector gwladwriaethol a’r sector nid-er-elw. Ein nod yw sicrhau bod myfyrwyr PhD yn meddu ar y sgiliau i fod yn gystadleuol mewn llu o amgylcheddau proffesiynol amrywiol sy’n newid yn gyflym.
Yn olaf, fel llawer o sefydliadau, mae Prifysgol Aberystwyth wedi llofnodi’r Concordat Datblygu Ymchwilwyr, cytundeb rhwng gwahanol randdeiliaid proffesiynol ac academaidd i wella cyflogadwyedd ymchwilwyr yn y DU. Mae’r Concordat yn argymell bod myfyrwyr PhD amser llawn yn cwblhau o leiaf 70 awr o hyfforddiant ymchwil y flwyddyn (pro rata i’r rhai sy’n astudio’n rhan-amser). Mae hyn yn golygu bod tua 4% o amser ymchwil yn cael ei neilltuo i hyfforddiant.
Pa fath o hyfforddiant y mae’r Academi Ddoethurol yn ei ddarparu?
Yn fras, mae ein hyfforddiant yn cwmpasu tri maes: craidd, arbenigol a phroffesiynol.
Mae hyfforddiant craidd yn ymwneud â sgiliau sy’n berthnasol i bob ymchwilydd, boed hynny mewn pynciau STEM, y gwyddorau cymdeithasol neu’r celfyddydau a’r dyniaethau. Mae hyn yn cynnwys dealltwriaeth sylfaenol o ddylunio ymchwil (mewn gwahanol draddodiadau), ymchwil foesegol, adolygiadau llenyddiaeth, sgiliau digidol ac ati.
Mae hyfforddiant arbenigol wedi’i deilwra’n benodol ac yn targedu’ch anghenion ymchwil penodol chi. Mae hyn yn cynnwys dulliau ansoddol a meintiol yn ogystal â thechnegau ymchwil penodol, sgiliau rhaglennu a sgiliau cyfathrebu ymchwil.
Mae hyfforddiant proffesiynol yn canolbwyntio ar eich gallu i weithio’n effeithiol mewn llu o leoliadau cyflogaeth. Mae’n cynnwys gwaith tîm, llunio ceisiadau am grantiau, trefnu cynadleddau a rhwydweithio.
Sut gallaf i wneud hyfforddiant ymchwil?
Mae’r Academi Ddoethurol yn darparu hyfforddiant mewn sawl dull gwahanol. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n eich annog i ddatblygu eich sgiliau trwy amrywiaeth o brofiadau a darparwyr. Er y bydd rhywfaint o’ch hyfforddiant yn cael addysgu ffurfiol mewnol yn y Brifysgol, mae ffurfiau eraill ar hyfforddiant – gan gynnwys profiadau ymarferol fel cynadleddau, lleoliadau a gweithgareddau ymchwil eraill – yn cael eu hannog a’u cydnabod. Rydyn ni hefyd yn eich annog i archwilio’r ystod ardderchog o gyfleoedd hyfforddi sydd ar gael trwy ddarparwyr cenedlaethol, cymdeithasau proffesiynol a chyrff achrededig eraill. I grynhoi, mae tirwedd darparu hyfforddiant yn eang ei hyd a’i lled. I gael rhagor o wybodaeth am y mathau o hyfforddiant sydd ar gael i chi, ewch i’r dudalen Hyfforddiant.
Sut mae dechrau arni?
Mae ein hyfforddiant ymchwil wedi’i adeiladu o amgylch ein proses Dadansoddiad o Anghenion Datblygu. Yn ei hanfod, holiadur strwythuredig yw hwn. Rydyn ni’n gofyn i chi ei lenwi trwy sgwrs gyda’ch goruchwylwyr fel mai chi sy’n nodi meysydd penodol lle’r ydych chi angen hyfforddiant. Mae’n wir ein bod ni eisoes wedi nodi bod rhai agweddau ar y ddarpariaeth hyfforddiant yn rhai ‘craidd’ (elfennau sy’n hanfodol i bob ymchwilydd), ond bydd y rhan fwyaf o’ch hyfforddiant wedi’i deilwra’n bwrpasol ac wedi’i addasu i’ch prosiect a’ch nodau proffesiynol chi.
I ddarganfod mwy am y broses Dadansoddiad o Anghenion Datblygu, ewch i’n tudalen bwrpasol.
Ble mae’r Academi Ddoethurol?
Mae’r Academi Ddoethurol yn swyddfa D26 yn Adeilad Hugh Owen.
