Graddio 2026 - Cynllunio eich Diwrnod

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi a’ch gwesteion i’r seremoni raddio. Isod ceir gwybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod. 

Pan fyddwch yn cyrraedd, bydd ein tîm parcio yn eich tywys i’r lle parcio i westeion. Noder, bydd parcio Bathodyn Glas ar gael yn agos i Ganolfan y Celfyddydau gyda mynediad gwastad i’r adeilad*. 

Wrth gynllunio eich dathliad, defnyddiwch yr amseroedd agor ar gyfer cofrestru a chasglu eich gwisg ar gyfer eich seremoni fel canllaw o ran yr adeg gynharaf y mae angen i chi fod ar y campws.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yn ddigon cynnar er mwyn gallu cofrestru a chasglu eich gŵn heb orfod rhuthro.  

Mae gwybodaeth am agweddau ffurfiol a seremonïol y Graddio ar gael ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.

Mae croeso i ffrindiau a theulu ychwanegol nad oes ganddynt docyn i ddod i’r Neuadd Fawr ddod i wylio’r seremonïau drwy gyfrwng ein ffrydio byw yn Sinema Canolfan y Celfyddydau neu yn Undeb y Myfyrwyr. 

Noder, os bydd nifer fach o docynnau sbâr yn dod i law ar gyfer mynediad i’r Neuadd Fawr, bydd y rhain yn cael eu clustnodi ar sail y cyntaf i’r felin wrth y ddesg gofrestru. Yn y sefyllfa hon, caiff y tocynnau eu rhyddhau ar ôl i’r cofrestru ar gyfer y seremoni dan sylw ddechrau  - bydd y tocynnau wedi’u cyfyngu i uchafswm o 2 i bob unigolyn sy’n graddio.

Campws Heb Arian Parod  - Nodwch bellach fod y campws yn gweithredu heb arian parod – rydym yn derbyn cardiau debit neu gredyd.

*Os oes gennych chi, neu aelod o’ch grŵp unrhyw ofynion ychwanegol nad ydych wedi rhoi gwybod i ni amdanynt eisoes, cysylltwch â graduation.office@aber.ac.uk er mwyn i ni allu gwneud trefniadau priodol i’ch helpu cymaint â phosibl ar y diwrnod.  Os ydych eisoes wedi rhoi gwybod am unrhyw ofynion ychwanegol, bydd ein Tîm Graddio yn cysylltu â chi ar wahân gyda gwybodaeth bellach.

Diweddarwyd: 1/6/26

Ar gyfer seremonïau’r bore am 10.00yb

8.00yb – 9.00yb

Eich man galw cyntaf yw cofrestru a chasglu eich:

  • Cerdyn graddio sydd â’ch enw a rhif eich sedd
  • Tocynnau i westeion

Llyfrgell Hugh Owen,
Llawr Gwaelod, Llawr D

8.00yb – 9.15yb

Nesaf, casglwch eich gŵn, cap a chwfl. 

Adeilad Parry Williams

O 8.00yb

Bydd Ffotograffwyr Graddio Swyddogol y Brifysgol yn cynnig gwasanaeth portreadau trwy gydol y dydd. Cyfeiriwch at y dudalen we ffotograffiaeth goffa am ragor o wybodaeth.

Adeilad Parry Williams

O 9.00yb 

Mynediad Myfyrwyr - Drysau'n agor i fyfyrwyr sy'n graddio cymryd eu seddi yn y Neuadd Fawr.

Os oes gennych unrhyw bryderon am ynganiad eich enw, dewch i'r Neuadd Fawr am 9.00yb i gwrdd â'ch Pennaeth Adran.

Neuadd Fawr,
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Mynediad drwy Ddrysau A a B ar y Llawr Gwaelod

Erbyn 9.20yb

Ymarfer – Rhaid i’r graddedigion fod yn eu seddi yn y Neuadd Fawr 40 munud cyn i’r seremoni ddechrau.

Cynhelir ymarfer byr sy’n orfodol i’r holl fyfyrwyr sy’n graddio i wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o drefn y seremonïau.  Noder, gofynnir i chi aros yn y neuadd rhwng yr ymarfer a’r seremoni, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig.

Neuadd Fawr,
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Mynediad drwy Ddrysau A a B ar y Llawr Gwaelod

O 9.30yb

Drysau’n agor i’r gwesteion gael mynediad i galeri’r Neuadd Fawr

Gofynnir i westeion sydd ag amgylchiadau arbennig i fynd at y derbynfeydd Graddio ar y llawr gwaelod ger y mynediad i’r Neuadd Fawr (Drysau A a B).

Neuadd Fawr,
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Mynediad drwy Ddrysau C,D,E neu F ar y llawr cyntaf. 

10.00yb

Seremoni Raddio’n dechrau ac yn para oddeutu 1 awr ac 20 munud.

Ar ôl y seremoni, bydd ffotograffau grŵp swyddogol yn cael eu tynnu ar risiau La Scala o flaen Canolfan y Celfyddydau.

Neuadd Fawr,
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dychwelyd eich gŵn erbyn yr amser a gytunwyd (darperir gwybodaeth ychwanegol ar y diwrnod).

Adeilad Parry Williams

Casglu Tystysgrifau - Gweler yr amseroedd sydd wedi'i nodi ar eich cerdyn adnabod a roddwyd ichi wrth gofrestru. Bydd man casglu'r tystysgrifau yn Llyfrgell Hugh Owen (Llawr D).

Ar gyfer seremonïau’r bore am 10.30yb

8.00yb – 9.30yb

Eich man galw cyntaf yw cofrestru a chasglu eich:

  • Cerdyn graddio sydd â’ch enw a rhif eich sedd
  • Tocynnau i westeion

Llyfrgell Hugh Owen,
Llawr Gwaelod, Llawr D

8.00yb – 9.45yb

Nesaf, casglwch eich gŵn, cap a chwfl. 

Adeilad Parry Williams

O 8.00yb

Bydd Ffotograffwyr Graddio Swyddogol y Brifysgol yn cynnig gwasanaeth portreadau trwy gydol y dydd. Cyfeiriwch at y dudalen we ffotograffiaeth goffa am ragor o wybodaeth.

Adeilad Parry Williams

O 9.30yb 

Mynediad Myfyrwyr - Drysau'n agor i fyfyrwyr sy'n graddio cymryd eu seddi yn y Neuadd Fawr.

Os oes gennych unrhyw bryderon am ynganiad eich enw, dewch i'r Neuadd Fawr am 9.30yb i gwrdd â'ch Pennaeth Adran.

Neuadd Fawr,
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Mynediad drwy Ddrysau A a B ar y Llawr Gwaelod

Erbyn 9.45yb

Ymarfer – Rhaid i’r graddedigion fod yn eu seddi yn y Neuadd Fawr 45 munud cyn i’r seremoni ddechrau.

Cynhelir ymarfer byr sy’n orfodol i’r holl fyfyrwyr sy’n graddio i wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o drefn y seremonïau.  Noder, gofynnir i chi aros yn y neuadd rhwng yr ymarfer a’r seremoni, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig.

Neuadd Fawr,
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Mynediad drwy Ddrysau A a B ar y Llawr Gwaelod

O 10.00yb

Drysau’n agor i’r gwesteion gael mynediad i galeri’r Neuadd Fawr

Gofynnir i westeion sydd ag amgylchiadau arbennig i fynd at y derbynfeydd Graddio ar y llawr gwaelod ger y mynediad i’r Neuadd Fawr (Drysau A a B).

Neuadd Fawr,
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Mynediad drwy Ddrysau C,D,E neu F ar y llawr cyntaf. 

10.30yb

Seremoni Raddio’n dechrau ac yn para oddeutu 1 awr ac 20 munud.

Ar ôl y seremoni, bydd ffotograffau grŵp swyddogol yn cael eu tynnu ar risiau La Scala o flaen Canolfan y Celfyddydau.

Neuadd Fawr,
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dychwelyd eich gŵn erbyn yr amser a gytunwyd (darperir gwybodaeth ychwanegol ar y diwrnod).

Adeilad Parry Williams

Casglu Tystysgrifau - Gweler yr amseroedd sydd wedi'i nodi ar eich cerdyn adnabod a roddwyd ichi wrth gofrestru. Bydd man casglu'r tystysgrifau yn Llyfrgell Hugh Owen (Llawr D).

Ar gyfer seremonïau’r prynhawn am 1.30yp

10.30yb - 12.30yp

Eich man galw cyntaf yw cofrestru a chasglu eich:

  • Cerdyn graddio sydd â’ch enw a rhif eich sedd
  • Tocynnau i westeion

Llyfrgell Hugh Owen,
Llawr Gwaelod, Llawr D

10.30yb - 12.45yp

Nesaf, casglwch eich gŵn, cap a chwfl. 

Adeilad Parry Williams

10.30yb

Bydd Ffotograffwyr Graddio Swyddogol y Brifysgol yn cynnig gwasanaeth portreadau trwy gydol y dydd. Cyfeiriwch at y dudalen we ffotograffiaeth goffa am ragor o wybodaeth.

Adeilad Parry Williams

O 12.30yp

Mynediad Myfyrwyr - Drysau'n agor i fyfyrwyr sy'n graddio cymryd eu seddi yn y Neuadd Fawr.

Os oes gennych unrhyw bryderon am ynganiad eich enw, dewch i'r Neuadd Fawr am 12.30yp i gwrdd â'ch Pennaeth Adran.

Neuadd Fawr
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth.

Mynediad drwy Ddrysau A a B ar y Llawr Gwaelod

Erbyn 12.45yp

Ymarfer – Rhaid i’r graddedigion fod yn eu seddi yn y Neuadd Fawr 45 munud cyn i’r seremoni ddechrau.

Cynhelir ymarfer byr sy’n orfodol i’r holl fyfyrwyr sy’n graddio i wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o drefn y seremonïau.  Noder, gofynnir i chi aros yn y neuadd rhwng yr ymarfer a’r seremoni, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig.

Neuadd Fawr
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth.

Mynediad drwy Ddrysau A a B ar y Llawr Gwaelod

1.00yp

Drysau’n agor i’r gwesteion gael mynediad i galeri’r Neuadd Fawr

Gofynnir i westeion sydd ag amgylchiadau arbennig i fynd at y derbynfeydd Graddio ar y llawr gwaelod ger y mynediad i’r Neuadd Fawr (Drysau A a B).

Neuadd Fawr,
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Mynediad drwy Ddrysau C,D,E neu F ar y llawr cyntaf. 

1.30yp

Seremoni Raddio’n dechrau ac yn para oddeutu 1 awr ac 20 munud.

Ar ôl y seremoni, bydd ffotograffau grŵp swyddogolyn cael eu tynnu ar risiau La Scala o flaen Canolfan y Celfyddydau.

Neuadd Fawr,
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dychwelyd eich gŵn erbyn yr amser a gytunwyd (darperir gwybodaeth ychwanegol ar y diwrnod).

Adeilad Parry Williams

Casglu Tystysgrifau - Gweler yr amseroedd sydd wedi'i nodi ar eich cerdyn adnabod a roddwyd ichi wrth gofrestru. Bydd man casglu'r tystysgrifau yn Llyfrgell Hugh Owen (Llawr D).

Ar gyfer seremonïau’r prynhawn am 2.30yp

11.30yb - 1.30yp

Eich man galw cyntaf yw cofrestru a chasglu eich:

  • Cerdyn graddio sydd â’ch enw a rhif eich sedd
  • Tocynnau i westeion

Llyfrgell Hugh Owen,
Llawr Gwaelod, Llawr D

11.30yb - 1.45yp

Nesaf, casglwch eich gŵn, cap a chwfl. 

Adeilad Parry Williams

11.30yb

Bydd Ffotograffwyr Graddio Swyddogol y Brifysgol yn cynnig gwasanaeth portreadau trwy gydol y dydd. Cyfeiriwch at y dudalen we ffotograffiaeth goffa am ragor o wybodaeth. 

Adeilad Parry Williams

O 1.30yp

Mynediad Myfyrwyr - Drysau'n agor i fyfyrwyr sy'n graddio cymryd eu seddi yn y Neuadd Fawr.

Os oes gennych unrhyw bryderon am ynganiad eich enw, dewch i'r Neuadd Fawr am 1.00yp i gwrdd â'ch Pennaeth Adran.

Neuadd Fawr
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth.

Mynediad drwy Ddrysau A a B ar y Llawr Gwaelod

Erbyn 1.45yp

Ymarfer – Rhaid i’r graddedigion fod yn eu seddi yn y Neuadd Fawr 45 munud cyn i’r seremoni ddechrau.

Cynhelir ymarfer byr sy’n orfodol i’r holl fyfyrwyr sy’n graddio i wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o drefn y seremonïau.  Noder, gofynnir i chi aros yn y neuadd rhwng yr ymarfer a’r seremoni, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig.

Neuadd Fawr
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth.

Mynediad drwy Ddrysau A a B ar y Llawr Gwaelod

O 2.00yp

Drysau’n agor i’r gwesteion gael mynediad i galeri’r Neuadd Fawr

Gofynnir i westeion sydd ag amgylchiadau arbennig i fynd at y derbynfeydd Graddio ar y llawr gwaelod ger y mynediad i’r Neuadd Fawr (Drysau A a B).

Neuadd Fawr,
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Mynediad drwy Ddrysau C,D,E neu F ar y llawr cyntaf. 

2.30yp

Seremoni Raddio’n dechrau ac yn para oddeutu 1 awr ac 20 munud.

Ar ôl y seremoni, bydd ffotograffau grŵp swyddogol yn cael eu tynnu ar risiau La Scala o flaen Canolfan y Celfyddydau.

Neuadd Fawr,
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dychwelyd eich gŵn erbyn yr amser a gytunwyd (darperir gwybodaeth ychwanegol ar y diwrnod).

Adeilad Parry Williams

Casglu Tystysgrifau - Gweler yr amseroedd sydd wedi'i nodi ar eich cerdyn adnabod a roddwyd ichi wrth gofrestru. Bydd man casglu'r tystysgrifau yn Llyfrgell Hugh Owen (Llawr D).

Ar gyfer seremonïau’r prynhawn am 4.30yp

1.30yp - 3.45yp

Casglwch eich gŵn, cap a chwfl. 

Adeilad Parry Williams

2.00yp - 3.30yp 

Cofrestru a chasglu eich:

  • Cerdyn graddio sydd â’ch enw a rhif eich sedd
  • Tocynnau i westeion
Llyfrgell Hugh Owen,
Llawr Gwaelod, Llawr D 

1.30yp

Bydd Ffotograffwyr Graddio Swyddogol y Brifysgol yn cynnig gwasanaeth portreadau trwy gydol y dydd. Cyfeiriwch at y dudalen we ffotograffiaeth goffa am ragor o wybodaeth.

Adeilad Parry Williams

O 3.30yp

Mynediad Myfyrwyr - Drysau'n agor i fyfyrwyr sy'n graddio cymryd eu seddi yn y Neuadd Fawr.

Os oes gennych unrhyw bryderon am ynganiad eich enw, dewch i'r Neuadd Fawr am 3.30yp i gwrdd â'ch Pennaeth Adran.

Neuadd Fawr
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth.

Mynediad drwy Ddrysau A a B ar y Llawr Gwaelod

Erbyn 3.45yp

Ymarfer – Rhaid i’r graddedigion fod yn eu seddi yn y Neuadd Fawr 45 munud cyn i’r seremoni ddechrau.

Cynhelir ymarfer byr sy’n orfodol i’r holl fyfyrwyr sy’n graddio i wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o drefn y seremonïau.  Noder, gofynnir i chi aros yn y neuadd rhwng yr ymarfer a’r seremoni, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig.

Neuadd Fawr
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth.

Mynediad drwy Ddrysau A a B ar y Llawr Gwaelod

O 4.00yp

Drysau’n agor i’r gwesteion gael mynediad i galeri’r Neuadd Fawr

Gofynnir i westeion sydd ag amgylchiadau arbennig i fynd at y derbynfeydd Graddio ar y llawr gwaelod ger y mynediad i’r Neuadd Fawr (Drysau A a B).

Neuadd Fawr,
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Mynediad drwy Ddrysau C,D,E neu F ar y llawr cyntaf. 

4.30yp