Gŵn
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr sy'n graddio wisgo'r wisg academaidd gywir yn eu seremoni raddio.
Ede & Ravenscroft yw gwneuthurwyr gwisgoedd swyddogol y Brifysgol.
Bydd safle archebu Ede & Ravenscroft yn agor ddydd Llun 1 Mehefin.
Y dyddiad cau ar gyfer archebu eich gŵn yw dydd Mawrth 30 Mehefin 2026 am 17.00.
Sut i archebu eich gwisg Academaidd
Ar Wefan Graddio Ede & Ravenscroft, rhowch ‘Aberystwyth University’ yn y blwch Manylion y Sefydliad a dewiswch y seremoni rydych wedi cofrestru ar ei chyfer.
Gofynnir ichi fewnbynnu:
- manylion eich dyfarniad (gweler y tabl isod am arweiniad)
- eich taldra, maint eich brest a maint eich pen/het (ceir canllawiau ar sut i fesur y rhain ar wefan Ede & Ravenscroft).
| Gwobr Sylfaen | FDSC; FDA |
| Tystysgrifau a Diplomâu Israddedig | Tystysgrif Addysg Uwch (CHE); Diploma Addysg Uwch (DipHE) |
| Graddau Baglor Israddedig | BA; BSc; BSc Econ; BEng; LLB |
| Tystysgrifau a Diplomâu Ôl-raddedig | Tystysgrif Uwchraddedig y Brifysgol (UCRT); Diploma Uwchraddedig y Brifysgol (UDip); PRGCE; PCE |
| Meistr Integredig | MBiol; MEng; MComp; Mphys; MMath |
| Graddau Meistr | MA; MSc; MSc Econ; LLM; MRes; MBA; MProf; MAG; EMBA |
| Meistr Mewn Athroniaeth | MPhil |
| Doethuriaethau | PhD; DProf; PhDFA; PhDPW |
(Sylwer, oni nodir yn wahanol, mae delweddau ar dudalennau gwe Ede & Ravenscroft yn generig ac nid ydynt yn adlewyrchu lliwiau penodol gwisg academaidd Prifysgol Aberystwyth).
Mewn amgylchiadau eithriadol, gwneir darpariaeth ar gyfer archebion hwyr ar ddiwrnod y seremoni. Sylwer y bydd tâl ychwanegol am logi ar y diwrnod.
Bydd manylion y dewisiadau llogi estynedig a phrynu i’w gweld ar dudalennau gwefan Ede & Ravenscroft pan fydd y safle’n fyw.
Cyn y Seremoni
Bydd y gwisgoedd a archebwyd ar gael yn yr ystafell wisgoedd yn Stiwdio Gerallt Jones, Adeilad Parry Williams (Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu), cyn y seremonïau a dylid eu dychwelyd yno wedyn.
Rhaid dychwelyd y gwisgoedd sydd wedi’u llogi i Stiwdio Gerallt Jones ar ddiwrnod eich graddio.
Gwybodaeth i Staff
Mae gwybodaeth i staff sy'n dymuno cymryd rhan yn yr orymdaith academaidd, gan gynnwys archebu gŵn, ar gael ar dudalen we ‘Gorymdaith Swyddogion a Staff y Brifysgol’.
Gwasanaethau Ffotograffiaeth
Ceir rhagor o wybodaeth am y Gwasanaethau Ffotograffiaeth a gynigir gan Ede & Ravenscroft yn yr adran Lluniau Swyddogol ar y tudalennau gwe Graddio.
Diweddarwyd: 01/06/26
Sylwer bod gan y Brifysgol berthynas fasnachol â Ede & Ravenscroft ac mae’n derbyn comisiwn yn seiliedig ar y nifer o gynau â archebwyd. Mae hyn yn ein galluogi i gynnal y seremonïau graddio heb godi costau tocynnau.
