Blwyddyn Mewn Gwaith (BMG)
Mae cymryd blwyddyn allan i weithio yn ystod eich cwrs gradd yn brofiad gwerthfawr sy'n talu ar ei ganfed, yn bersonol a phroffesiynol. Mae'n ffordd ragorol o ddatblygu sgiliau, hyder a chymhelliant, a fydd yn eich cynorthwyo i gyflawni ar lefel uwch wrth ddod yn ôl i flwyddyn olaf eich astudiaethau, a phan fyddwch wedi cwblhau eich gradd ac yn wynebu byd gwaith.

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae gennym ddau ddewis ar eich cyfer:
- Blwyddyn mewn Diwydiant
Mae rhai adrannau academaidd yn cynnig cynlluniau gradd 4 blynedd integredig sy'n cynnwys 'Blwyddyn mewn Diwydiant' yn y drydedd flwyddyn (cyfeirir ati weithiau yn Flwyddyn Ddiwydiannol, neu 'ryng-gwrs'); os ydych yn astudio ar raglen radd integredig, ewch i drafod â'ch tiwtor personol a/neu staff eich adran academaidd ynglŷn â threfniadau'r Flwyddyn mewn Diwydiant. - Blwyddyn Mewn Gwaith (BMG)Gall myfyrwyr nad ydynt yn astudio ar gynllun gradd integredig, droi at y Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG). Y Gwasanaeth Gyrfaoedd sy'n gweinyddu'r cynllun, a bu'n rhedeg yn llwyddiannus ym Mhrifysgol Aberystwyth ers 40 mlynedd a mwy, gan roi cyfle i fyfyrwyr sy'n astudio unrhyw ddisgyblaeth i gael swydd gyflogedig rhwng ail a thrydedd flwyddyn eu hastudiaethau israddedig.