Gwobr Sgiliau
Mewn cydweithrediad ag Undeb Aber, rydym yn cyflwyno’r Wobr Sgiliau sy’n cydnabod ac yn clodfori popeth yr ydych yn ei wneud y tu allan i’ch cwrs – boed yn waith rhan-amser neu’n waith gwirfoddol yn y gymuned neu drwy glybiau a chymdeithasau. Dyma eich cyfle i ddathlu eich twf, cydnabod y sgiliau yr ydych wedi’u datblygu, a chael cymorth i ddangos eich sgiliau i gyflogwyr yn y dyfodol.

I ennill y Wobr Sgiliau, bydd angen i chi:
- Gofnodi o leiaf 60 awr o waith gyda thâl neu waith gwirfoddol
- Nodi 8 sgìl yr ydych wedi’u datblygu drwy’r profiadau hynny
- Mynychu tair sesiwn hyfforddiant a datblygu, a ddarperir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
- Cwblhau dau ddarn myfyriol 150 o eiriau ynglŷn â’r sgiliau yr ydych wedi’u datblygu drwy eich profiad gwaith a thrwy fynychu sesiynau’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
