Dod o hyd i Gyflogaeth
P'un a ydych chi'n chwilio am swydd ran-amser i gyd-fynd â'ch astudiaethau, profiad gwaith i greu eich CV, neu rôl raddedig ar ôl y brifysgol, mae nifer o gyfleoedd ar gael ar y campws a thu hwnt. Ar y dudalen hon ceir adnoddau allweddol i'ch helpu i ddod o hyd i swyddi gwag, cael profiad, a mynediad at gymorth gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Aberystwyth.
I gael unrhyw gymorth sy'n ymwneud â dod o hyd i waith, gan gynnwys help gyda'ch CV, llythyr eglurhaol, ffurflen gais a sgiliau cyfweliad, ewch i'r Hwb Gyrfaoedd yn llyfrgell Hugh Owen (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm, yn ystod y tymor), neu e-bostiwch gyrfaoedd@aber.ac.uk.
