Rhaglen Interniaeth Llwybrau Proffesiynol
Mae ceisiadau ar gyfer y Rhaglen Interniaeth Llwybrau Proffesiynol bellach ar agor!
Gwnewch gais nawr ar gyfer Llwybrau Proffesiynol (dyddiad cau 11:59yb ar 11 Medi 2026)
Mae Rhaglen Interniaeth Llwybrau Proffesiynol yn cefnogi myfyrwyr israddedig blwyddyn olaf i gael cipolwg gwerthfawr ar yrfaoedd anacademaidd yn y sector Addysg Uwch.
Mae’r interniaethau hyn wedi’u cynllunio i hybu eich hyder, gwella eich sgiliau trwy hyfforddiant a datblygu, eich cefnogi i ennill tra’n dysgu, ac i’ch paratoi ar gyfer y gweithle ar ôl graddio.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen, mae croeso mawr i chi gysylltu â'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd drwy e-bostio profiadgwaith@aber.ac.uk, neu ewch i’r Hwb Gyrfaoedd yn Llyfrgell Hugh Owen.








