@ Yr Undeb

 

Croeso i far undeb y myfyrwyr, sydd wedi'i leoli ym mhrif adeilad undeb y myfyrwyr ar brif gampws Prifysgol Aberystwyth, sydd hefyd yn cynnwys Starbucks.  Mae'n cynnig awyrgylch bar bach, clyd, sy'n ddelfrydol ar gyfer grwpiau, cwrdd â phobl newydd neu ddal i fyny â ffrindiau.

Mae ar agor yn ystod y tymor o ddydd Llun i ddydd Gwener 08.30-23.00, 12.00-21.00 ar ddydd Sadwrn a 12.00-21.00 dydd Sul.   

Mae Bar Undeb y Myfyrwyr yn berffaith ar gyfer egwyl bwyd tra’n astudio neu beint ar ôl darlith.    Yn ystod y dydd mae bar Undeb y Myfyrwyr yn lle gwych i wneud rhywfaint o waith a chwrdd am sesiwn astudio neu herio ffrind i gêm o pŵl ar un o'n byrddau pŵl.

Mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 11.00-23.00, dydd Sadwrn 12.00-21.00 a dydd Sul 12.00-21.00.  

  • Dewis eang o gwrw a seidr o’r gasgen
  • Byrddau pŵl
  • Naws hamddenol
  • Diodydd meddal o’r tap ac mewn poteli
  • Cwrw potel heb glwten.

 

Mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 8.30-22.00, dydd Sadwrn 12.00-21.00 a dydd Sul 12.00-20.00.    Mae'n cynnig amrywiaeth eang o ddiodydd i fodloni eich blas a gallwch fanteisio ar y gostyngiad i fyfyrwyr.  Defnyddiwch y cerdyn teyrngarwch (Magic Stamp) i ddechrau casglu stampiau er mwyn cael diod boeth am ddim.

  • Cewch fwyta i mewn neu gael bwyd i fynd.
  • Cappuccino
  • Mocha
  • Lattés
  • Espresso
  • Frappuccinos
  • Gwahanol fathau o de

Bwyd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 12.00-19.00.  Cŵn poeth a nachos ar gael ar ôl i'r gegin gau.  Gofynnwch i aelod o staff. Bwydlen bar cwtch

  • Pitsas amrywiol
  • Dewis o Wraps
  • Dewis o fyrgyrs gan gynnwys opsiwn figan
  • Sglodion gyda dewisiadau ychwanegol ar yr ochr.
  • Cewch fwyta i mewn neu gael bwyd i fynd.

Sylwch nad yw undeb y myfyrwyr yn derbyn arian parod - gallwn dderbyn pob taliad â cherdyn a chardiau Aber.

Bydd y gwasanaethau sydd ar gael ac oriau agor yn amrywio y tu allan i ddyddiadau tymhorau Prifysgol Aberystwyth (dolen i’r oriau agor

Os oes rhywbeth yr hoffech ei weld yma, siaradwch ag aelod o staff ac fe geisiwn ddiwallu eich anghenion.

Yr holl ffotograffau gan Darya Koskeroglu