Datblygu Sefydliadol a Dysgu

Mae rhestr lawn o gyrsiau sydd ar gael i staff ar gael ar borth Myadmin - Hyfforddiant a Digwyddiadau (staff)

Hyfforddiant a argymhellir ar gyfer staff

Cwblhewch y cyrsiau canlynol fel rhan o'ch hyfforddiant staff a argymhellir.

I weld dyddiadau cwblhau eich hyfforddiant:

  • Mewngofnodwch i ABW
  • Cliciwch ar Personél ar yr ochr
  • Cliciwch ar Cymhwysedd (nid Cymwyseddau sydd ar gael mewn mannau eraill)
  • Dewiswch Cymhwysedd Technegol yn y gwymplen Math Cymhwysedd

Gellir cynnal y cyrsiau mewn un eisteddiad neu fesul tipyn pan fydd yn gyfleus iddynt. Mae'n rhaid i'r cwisiau a gynhwysir yn y rhaglen gael eu cwblhau er mwyn i'r staff orffen yr hyfforddiant ac er mwyn iddo gael ei farcio fel un sydd wedi'i gwblhau/pasio.

Mae'r cyrsiau ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Hyfforddiant a Datblygiad Arall

Mae'r Brifysgol yn trefnu cyrsiau hyfforddi a datblygu eraill i staff yn rheolaidd - gallwch ddod o hyd i'r rhestr ddiweddaraf a gwybodaeth bellach yma

Aurora - Arweinyddiaeth i Fenywod

Mae Aurora yn fenter gan AU Ymlaen i ddatblygu arweinyddiaeth ymhlith menywod mewn Addysg Uwch.

Mae Aurora yn bartneriaeth unigryw sy'n dod ag arbenigwyr ym maes arwain a sefydliadau addysg uwch ynghyd i gymryd camau cadarnhaol i fynd i'r afael â'r ffaith bod menywod wedi’u tangynrychioli mewn swyddi arwain yn y sector.

Dan arweiniad tîm o arbenigwyr arwain, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn archwilio pedwar maes allweddol sy'n gysylltiedig ag arwain yn llwyddiannus: Hunaniaeth, Effaith a Llais; Sgiliau Arwain Craidd; Gwleidyddiaeth a Dylanwad, ac Addasu Sgiliau Arwain.

Nod Aurora yw cefnogi menywod a'u sefydliadau i gyflawni eu potensial i arwain trwy gyfrwng gweithgareddau sy'n ysgogi'r meddwl, gweithgareddau ar y cyd i ddatrys problemau, a straeon i’ch cymell, gyda chefnogaeth menywod sy’n arwain ac yn ysbrydoli. Trwy gymryd rhan byddwch yn creu rhwydweithiau cryf o fenywod sydd ar ddechrau eu gyrfa ledled y sector er mwyn rhannu’r arfer gorau, dealltwriaeth a phrofiadau.

 

Sut i drefnu eich lle

Siaradwch â'ch Rheolwr Llinell am gymryd rhan yn rhaglen Aurora yn rhan o'ch CCE neu eich gwaith cynllunio datblygiad personol eich hun. Bydd angen i'r adran ariannu ffioedd cymryd rhan, a gall eich Rheolwr Llinell a Hyrwyddwr Aurora y Brifysgol eich helpu i ganfod mentor.

Cysylltwch â'n Hyrwyddwr Aurora, Dylan Jones, dej20@aber.ac.uk, i gael manylion am sut i drefnu eich lle ac os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill.

 

Dyddiadau 2025-26

Gallwch drefnu eich lle ar raglen Aurora 2025-26 yn awr! Mae’n rhaid i’r sawl sy’n cymryd rhan fod yn bresennol ym mhob sesiwn, ac mae’r sesiynau’n cynnwys rhai ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae disgwyl i raglen Cymru a De-orllewin Lloegr ddechrau ddydd Iau, 9 Hydref 2025.

 

Iechyd & Lles

Mae HA | Wisdom Wellbeing sy'n darparu ein Rhaglen Cymorth i staff - yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau iechyd a lles, taflenni ffeithiau podlediadau ac erthyglau sydd am ddim i staff. Dilynwch y ddolen am ragor o wybodaeth a sut i gael mynediad.

Cynllunio Ariannol ar gyfer Ymddeol

Cynllunio Ariannol ar gyfer Ymddeol 

Mae'r digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar gynllunio'ch cyllid ar gyfer ymddeoliad. Byddwn yn darparu trosolwg o'ch pensiynau galwedigaethol USS & L&G a'r newidiadau i'r cynlluniau hyn.

Bydd y digwyddiad yn rhoi cyflwyniad i'r ystyriaethau a’r materion ariannol sy'n effeithio ar eich ymddeoliad. Bydd yn eich helpu i gynllunio'n ariannol ar gyfer ymddeol ac mae’n canolbwyntio ar sicrhau cymaint o incwm â phosibl, buddsoddiadau, trethiant, a'ch buddion pensiwn galwedigaethol.

Mae'r digwyddiad hwn fel arfer ar gyfer pobl sydd dros 55 oed. Mae croeso i'ch partneriaid hefyd, gan fod gennych chi ddewisiadau pwysig o'ch blaen y byddwch am eu cynllunio gyda'ch gilydd.

Dyddiadau i'w gadarnhau

Agenda

1. Cyflwyniad

2. Cynllunio Ariannol (Rhan 1)

  • Amcanion Lles Ariannol
  • Cyllidebu Personol
  • Trethiant Wrth Ymddeol

3. Cynllunio Ariannol (Rhan 2)

  • Ewyllysiau ac LPA
  • Strategaeth Buddsoddi
  • ⁠Pensiynau

4. Trosolwg o'ch Cynllun Pensiwn Galwedigaethol

Nodau ac Amcanion

  • Deall goblygiadau ariannol ymddeoliad a'r ystyriaethau sydd eu hangen i gynllunio ar gyfer eich dyfodol ariannol
  • Amlinellu pensiwn y wladwriaeth; cymhwysedd, strwythurau budd-daliadau ac amrywiad ar gyfer amgylchiadau unigol
  • Gwerthuso’r gwahaniaethau rhwng cynlluniau pensiwn galwedigaethol, cyfraniadau, strwythurau talu a'r effaith ar incwm ymddeol
  • Nodi camau personol ac ariannol a fydd yn helpu i sicrhau cymaint o incwm â phosibl yn ystod ymddeoliad
  • Dechrau cynllunio ar gyfer ymddeoliad llwyddiannus trwy ddeall elfennau allweddol, gosod nodau a sefydlu strategaeth unigol

Eich cyflwynwyr

Mae Planned Future yn darparu addysgwr ymddeol profiadol a siaradwr ariannol sy’n brofiadol iawn, yn glir ac yn gallu ateb eich holl gwestiynau trwy gydol y sesiwn. Mae ymgynghoriad un-i-un gyda chynghorydd ariannol hefyd ar gael ar ôl y sesiwn os hoffech drafod eich sefyllfa bersonol ymhellach.

Pwy ddylai fynychu

Os ydych yn ymddeol yn fuan neu'n ystyried ymddeol o fewn y ddwy flynedd nesaf, mae'r seminar hwn ar eich cyfer chi.

Amseroedd y cwrs

Bydd y sesiwn yn para 2.5 awr