Blackboard Ultra
Blackboard yw amgylchedd dysgu ar-lein Prifysgol Aberystwyth. Mae gan Blackboard amrywiaeth o offer ar gyfer cyfathrebu, cydweithio, asesu, rhoi adborth, myfyrio a rheoli cynnwys, ac mae'n darparu gofod ar-lein ar gyfer gweithgareddau i gynorthwyo dysgu ac addysgu. Gallwch gael mynediad i Blackboard drwy http://blackboard.aber.ac.uk a defnyddio eich enw defnyddiwr a chyfrinair Aberystwyth.
Rydym yn darparu nifer o gyrsiau hyfforddi, Cwestiynau Cyffredin a Chanllawiau i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich modiwlau yn Blackboard:
Isafswm Presenoldeb Gofynnol (IPG)
Mae’n rhaid i’r holl fodiwlau israddedig ac uwchraddedig a addysgir gadw at Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard PA. Caiff yr IPG ei ategu gan arferion da a gydnabyddir yn y sector yn ogystal ag adborth gan fyfyrwyr PA.
Blackboard Learn Ultra
Croeso i’n tudalen we ar Blackboard Ultra. Mae Blackboard Ultra yn brosiect yng ngofal yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu sy’n ein gweld ni’n symud o’n fersiwn gyfredol o Blackboard, Blackboard Original, i fersiwn newydd: Ultra.
Ar y dudalen we hon, fe welwch ganllawiau perthnasol a chwestiynau cyffredin i staff a myfyrwyr i’ch helpu chi gyda’r symudiad hwn. Wrth i ni symud drwy’r prosiect, bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru gyda rhagor o ddeunyddiau cymorth.
Rydym ni hefyd yn blogio am ein symudiad i Ultra i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynnydd. Byddwn yn defnyddio’r bwletin wythnosol i gyfathrebu newidiadau, diweddariadau a gwybodaeth allweddol i staff a myfyrwyr.