Lleihau ôl-troed amgylcheddol yn gam i'r cyfeiriad iawn i ffermwyr llaeth a da byw

Lleihau costau trwy leihau ôl-troed amgylcheddol fydd thema stondin Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol ac Astudiaethau Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth yn y Sioe Laeth a Da Byw Lloegr a gynhelir ym Mharc Stoneleigh, Coventry ar y 17eg a’r 18fed o Fedi .  Bydd gwyddonwyr yno wrth law i roi cyngor ymarferol ar sut y gall mesurau arbennig ar y fferm leihau effeithiau ar yr amgylchedd, a hefyd lleihau ar gostau'r fferm.

" Mae nwyon ty-gwydr yn uchel ar yr agenda gwleidyddol tra bod effeithiau amaethyddiaeth ar lygredd nitradau mewn cyrsiau dŵr hefyd yn bryder. Mae strategaethau lleddfu yn fwy tebygol o gael eu hystyried gan ffermwyr os ydyn nhw hefyd yn mynd i leihau eu costau", yn ôl David Davies, Rheolwr Ymestyn Amaethyddol IBERS.

Mi fydd y ffermwyr hynny yn y DU sydd wedi nodi gostyngiad yn enillion eu mentrau yn ddiweddar yn cael y cyfle i weld sut y gall mesurau i leihau eu ôl-troed amgylcheddol fod o werth iddyn nhw yn ariannol tra hefyd yn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu goblygiadau trawsgydymffurfio.

Tynnir sylw at waith ymchwil IBERS i fathau o feillion coch a gwyn sy’n medru lleihau'r angen am wrteithiau tra'n gwella safon y pridd. Mae meillion yn amsugno nitrogen atmosfferig, yn lleihau'r ddibyniaeth ar wrteithiau i laswellt/mhaill gan sicrhau porfwyd uchel o ran protein.

Mae bridio porfwyd ar gyfer y dyfodol wedi bod yn ffocws rhaglenni bridio IBERS yn ystod y blynyddoedd diweddar. Mae datblygiad glaswelltydd treuliadwy â lefelau uchel o ME a chynhwysion optimeiddiol o brotein a siwgr wedi eu profi i gynyddu'r gyfran o nitrogen yn y planhigyn sydd wedi ei ymgorffori i gig a llaeth yn ôl Heather McCalman o Ganolfan Ddatblygu Tir Glas IBERS.

"Drwy ychwanegu at gyflenwad y carbohydrad eplesol yn y rwmen, mae'r amrywiaethau newydd yma'n medru cynyddu effeithlonrwydd y broses o ddefnyddio protein gan y fuwch", ychwanegodd.

"Gallai hyn hefyd arwain at leihad gollyngiadau amonia, methan ac ocsid nitraidd i’r awyr."

Bydd dewisiadau costau isel o reoli da byw dros y gaeaf hefyd yn cael eu harddangos ac a fydd yn galluogi'r diwydiant i addasu i senarios newid hinsawdd i orllewin y DU. Byddwn yn gofyn i ffermwyr ystyried eu dewis o gnydau, trefn plannu, rheoli pori, ychwanegion bwydydd, lles y stoc, rheolaeth pridd ynghyd â dewisiadau amgenach i adeiladau.

"Gall y mesurau ymarferol yma hefyd fod o gymorth i gynhyrchwyr i ateb pryderon defnyddwyr sydd am eu bwyd i gael ei gynhyrchu mewn modd mwy cynaliadwy," dywedodd Heather McCalman .

"Rydyn ni'n hyderus y bydd y negeseuon yma'n help i ffermwyr ar draws y wlad i feddwl yn fwy positif yn ystod cyfnod digon anodd i'r diwydiant, a hefyd y bydd y cysyniadau yma'n fuddiol nid yn unig i'w busnesau, ond i'r amgylchedd hefyd."