Datblygu miled perlog i fynd i'r afael â chlefyd siwgr

Dr Rattan Yadav

Dr Rattan Yadav

04 Chwefror 2015

Mae gwyddonwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn £250,000 o gyllid Catalydd Tech-Amaeth ar gyfer prosiect 18 mis i ddatblygu mathau newydd o filed perlog.

Gan weithio gyda phartneriaid diwydiannol, mae'r prosiect werth cyfanswm o £500,000 a’r nod yw datblygu mathau o’r cnwd sydd â Mynegai Glycemic (GI) isel.

Bydd hyn yn galluogi ffermwyr yn India i gael mynediad uniongyrchol at y bwydydd hynny, a chyflymu'r gwaith o ddatblygu cynhyrchion GI isel newydd i fynd i'r afael â'r her enfawr o glefyd siwgr yn fyd-eang.

Dywedodd Dr Rattan Yadav sydd yn arwain y gwaith ymchwil yn IBERS; "Yn fyd-eang mae 347 miliwn o bobl yn dioddef o’r clefyd siwgr (math 2) nad ydynt yn ddibynnol ar inswlin - yn yr India yn unig amcangyfrifir ar hyn o bryd fod y nifer yn 40 miliwn ac yn codi. Yn y Deyrnas Gyfuno, amcangyfrifir y bydd 5 miliwn o bobl yn dioddef clefyd siwgr erbyn 2025, ac mae ymwybyddiaeth gynyddol o, a chyhoeddusrwydd ynghylch sut y gall bwydydd sydd â Mynegai Glycemic isel (GI) helpu yn y frwydr yn erbyn y clefyd.

“Mae’r ymwybyddiaeth hwnnw bellach yn lledaenu i wledydd fel India fel y daw clefyd siwrg yn fwy cyffredin, gan greu marchnad fyd-eang ar gyfer cynhyrchion sy'n gallu rheoli glwcos yn y gwaed.”

Bydd y gwaith hwn yn nodi ac yn nodweddu amrywiaeth genetig sy'n bresennol mewn plasm cenhedlu miled perlog ar gyfer gwella rhinweddau startsh, drwy gymhwyso genomeg blaengar a phenoteipio cemegol o gyfansoddion y grawn.

Bydd gwybodaeth o'r fath yn arwain at ddatblygu mathau newydd o’r cnwd sydd â GI is yn y tymor hir, a lleddfu ymwrthedd cynyddol i inswlin. Mae lleihau effeithiau gwanychol a chostus achosion cynyddol o glefyd siwgr yn her nid yn unig i’r India, ond hefyd i wledydd y Gorllewin lle mae clefyd siwgr a gordewdra yn parhau i gynyddu ar raddfa frawychus.

Bydd y prosiect hwn yn helpu i ddatblygu mathau newydd o filed perlog gan ddefnyddio dulliau dethol marcwyr cynorthwyol yng nghefndir genetig y mathau y mae  ffermwyr a diwydiant yn eu ffafrio.

Mae mwy na 200 miliwn o bobl tlotaf y byd yn faethlon anniogel ac yn ddibynnol ar filed perlog fel prif fwyd. Mae miled perlog nid yn unig yn isel o ran GI, ond mae ganddo hefyd y fantais ychwanegol o fod yn gnwd addas iawn i ucheldiroedd sych nad ydynt yn cefnogi reis neu wenith, ac felly yn gnwd gyda chymwysterau diogelwch bwyd ardderchog.

Drwy ddatblygu mathau newydd sy'n well o ran maeth mewn cnydau sydd wedi eu haddasu yn lleol, ond sydd hefyd yn cael eu cynllunio i'w defnyddio mewn cynhyrchion bwyd, amcangyfrifir y byddai dros 3 miliwn o ffermwyr bychain yn elwa o fasnachu eu miled perlog fel cnwd gwerth uwch am arian parod.

Mae‘r ymchwil diweddaraf yma yn adeiladu ar lwyddiant blaenorol ymchwil ar y cyd gan dîm Dr Yadav yn IBERS, gan gynnwys datblygu a rhyddhau amrywiaeth miled perlog a fridwyd trwy ddulliau dethol marcwyr cynorthwyol (MAS) sy'n cael ei dyfu ar hyn o bryd ar fwy na 875,000 ha yn flynyddol ac yn darparu incwm ychwanegol gwerth £7 miliwn y flwyddyn i ffermwyr bychain yn India.