Y Frenhines yn cyfarfod myfyriwr o IBERS

Kezia Whatley yn cael ei chyflwyno i'r Frenhines a Dug Caeredin

Kezia Whatley yn cael ei chyflwyno i'r Frenhines a Dug Caeredin

12 Mawrth 2015

Cafodd myfyriwr PhD yn  IBERS Kezia Whatley ei chyflwyno  i'r Frenhines a Dug Caeredin yr wythnos hon fel un o'r gwyddonwyr ifanc a fynychodd Cynhadledd Gwyddoniaeth y Gymanwlad yn Bangalore yn India ar ddiwedd y llynedd.

Bu Kezia yn cymryd rhan mewn grŵp ffocws ynghyd â 4  o wyddonwyr ifanc eraill  i adrodd am eu profiad o fynychu'r Gynhadledd.

Dywedodd Kezia "Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i mi i gwrdd â gwyddonwyr eraill y Gymanwlad ac i ddweud wrth y Frenhines am fy mhrosiect sydd yn canolbwyntio ar adnabod cyffuriau newydd ar gyfer mynd i'r afael â chlefyd schistosomiasis (Bilharzia).

Cawsom ein gwahodd i gyd i fynychu'r Derbyniad Diwrnod y Gymanwlad yn Marlborough House, a fynychwyd gan y Frenhines, Dug Caeredin,  Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad, a phobl bwysig eraill. "

Hon oedd Cynhadledd Gwyddoniaeth y Gymanwlad gyntaf (CSC) ers bron i 50 mlynedd a  fe'i threfnwyd gan y Gymdeithas Frenhinol ac a gefnogwyd gan  Llywodraeth Yr India.

Amcanion y gynhadledd yw dathlu rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth y Gymanwlad; i ddarparu cyfleoedd ar gyfercydweithredu rhwng ymchwilwyr mewn gwahanol wledydd y Gymanwlad; i ysbrydoli gwyddonwyr ifanc; ac i adeiladu gallu gwyddonol yn y gwledydd sy'n datblygu yn y Gymanwlad.

Roedd cwmpas y cyfarfod yn eang ac yn cynnwys gwyddorau ffisegol, gwyddorau bywyd, mathemateg a pheirianneg, yn ogystal â pholisi gwyddoniaeth.

Roedd 300 o wyddonwyr a 70 o fyfyrwyr PhD wedi derbyn gwahoddiad arbennig i fynychu’r Gynhadledd o bob rhan o'r Gymanwlad, ynghyd â chynrychiolwyr lleol o Bangalore.