Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2016

10 Awst 2016

Marciau Llawn ar gyfer Cyrsiau IBERS yn Yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr

Mae Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth wedi cyflawni graddfa boddhad cyffredinol o 100% yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr diweddaraf (NSS) mewn tri o feysydd pwnc gradd israddedg.

Mae Gwyddorau Anifeiliaid yn rhagorol gan ddod yn gydradd gyntaf yn y wlad am foddhad cyffredinol, gyda deg o raglenni  pellach yn sgorio yn llawer uwch na'r cyfartaledd boddhad cyffredinol ar gyfer y DG o 86%.

Mae'r ffigurau hyn yn rhan o stori lwyddiant ehangach i Brifysgol Aberystwyth sy'n cael ei raddio y gorau yng Nghymru ac yn un o'r deg sefydliad addysg uwch gorau yn y DG am fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr, yn ôl yr arolwg blynyddol.

Dengys y canlyniadau fod boddhad cyffredinol ymysg myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 92% - sef chwe phwynt canran yn uwch na 86% ar gyfer y DG.

Mae'r ACF yn casglu data gan 155 o Sefydliadau Addysg Uwch yn y DG a fe’i gydnabyddir fel ffynhonnell ddylanwadol o wybodaeth ar gyfer darpar fyfyrwyr wrth ystyried eu dewisiadau.

Cyrsiau Gradd Israddedig

Adran

Boddhad Cyffredinol

Gwyddor Anifeiliaid

IBERS

100%

Cadwraeth Cefn Gwlad

IBERS

100%

Bioleg Planhigion

IBERS

100%

Amaethyddiaeth

IBERS

92%

Biocemeg

IBERS

96%

Bioleg

IBERS

88%

Rheoli Cefn Gwlad

IBERS

92%

Geneteg

IBERS

90%

Microbioleg

IBERS

93%

Bioleg Y Môr a Dŵr Croyw

IBERS

93%

Sŵoleg

IBERS

92%

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

IBERS

91%

 

Mae myfyrwyr yn dweud bod y rhaglenni  yn uchel am ansawdd addysgu, asesu ac adborth, cefnogaeth academaidd, trefniadaeth a rheolaeth, adnoddau dysgu a datblygiad personol.

Dywedodd yr Athro Mike Gooding, Cyfarwyddwr IBERS:

'Mae'r canlyniadau’r ACF yn adlewyrchu ymrwymiad IBERS i gwrdd a rhagori ar ddisgwyliadau ein myfyrwyr. Gall ymgeiswyr a newydd-ddyfodiaid fod yn hyderus y bydd y staff, gyda chyfleusterau blaenllaw ac enw da, yn darparu amgylchedd rhagorol ble y gallant ffynnu a datblygu eu gyrfaoedd '

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio yn IBERS a darganfod pam mae myfyrwyr Aberystwyth wedi eu bodloni , nid yw'n rhy hwyr. Mae ganddom  rhywfaint o leoedd clirio ar ôl ar gyfer y flwyddyn academaidd 2016-17, neu dewch draw i un o'n Diwrnodau Agored.

Gwybodaeth Clirio IBERS

Diwrnodau Agored

Stori Newyddion: NSS Llwyddiant Stori Prifysgol Aberystwyth

Mae'r ffigurau ACF dilyn yn agos ar sodlau y ffigyrau diweddaraf ar gyfer cyflogadwyedd prifysgolion y DG a oedd yn dangos bod 92% o raddedigion IBERS mewn gwaith neu'n astudio chwe mis arall ar ôl gadael Prifysgol Aberystwyth.

Ffigyrau Cyflogadwyedd ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn cael ei gynnal yn flynyddol gan IPSOS Mori ar ran yr holl gynghorau cyllido yn y DG a chyrff eraill, gan gyfweld tua 312,000 o fyfyrwyr blwyddyn olaf yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gofynnir i fyfyrwyr raddio sefydliadau ar ansawdd yr addysgu, asesu ac adborth, cefnogaeth academaidd, trefniadaeth a rheolaeth, adnoddau dysgu a datblygiad personol.