Partneriaeth Arloesedd Ewrop - cefnogi arloesedd mewn amaeth a choedwigaeth yng Nghymru

Yr Athro Wynne Jones, Marty Spittle, Yr Athro Mike Gooding, Rebecca Evans, Lynfa Davies, Yr Athro Jamie Newbold a’r Athro Nigel Scollan.

Yr Athro Wynne Jones, Marty Spittle, Yr Athro Mike Gooding, Rebecca Evans, Lynfa Davies, Yr Athro Jamie Newbold a’r Athro Nigel Scollan.

29 Ionawr 2016

Dydd Iau 28 Ionawr, mynychodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth (IBERS) yng Ngogerddan i lansio Partneriaeth Arloesedd Ewrop ar gyfer Cynhyrchiant Amaethyddol a Chynaliadwyedd yng Nghymru (PAE Cymru).   Bydd PAE Cymru, a ariennir gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru, yn cael ei gefnogi gan Ganolfan Gyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio, a leolir yn IBERS.

“Wedi’i ddatblygu gan yr UE yn 2012, mae EIP-Agri bellach yn rhan allweddol o atgyfnerthu ymchwil ac arloesedd mewn amaeth ledled Ewrop.  Ei rôl yw casglu arbenigedd ac adnoddau i ddod â grwpiau o bobl o gefndiroedd ymarferol a gwyddonol ynghyd er mwyn mynd i’r afael â heriau penodol, a threialu dulliau newydd a fydd o fantais i eraill yn y diwydiant amaeth neu goedwigaeth. Rwy’n hynod falch bod y gwasanaeth hwn bellach ar gael yng Nghymru,” meddai’r Dirprwy Weinidog.

Cyfeiriodd yr Athro Mike Gooding, Cyfarwyddwr IBERS, at y synergedd rhwng nodau Partneriaeth Arloesedd Ewrop yng Nghymru â'r Ganolfan Gyfnewid Gwybodaeth sydd yn fenter trosglwyddo gwybodaeth newydd a chyffrous fydd yn cynorthwyo'r diwydiannau amaeth a choedwigaeth yng Nghymru i foderneiddio trwy weithredu syniadau a thechnolegau newydd.

“Rydym ni'n awyddus i glywed gan ffermwyr a choedwigwyr sydd â syniad yn ymwneud ag edrych ar broblem neu her benodol, neu ddull newydd yr hoffent ei dreialu neu brofi," meddai'r Athro Gooding.

Canolfan Gyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio fydd y pwynt cyswllt cyntaf i ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru sydd â diddordeb cynnal prosiect i dreialu syniad neu dechnoleg newydd PAE Cymru. Bydd cymorth ariannol ar gael i hwyluso'r broses o ffurfio grwpiau, a fydd yn cael eu galw'n Grwpiau Gweithredol. Bydd y Ganolfan Gyfnewid Gwybodaeth yn rhoi arweiniad ynglŷn â'r ymchwil sydd eisoes wedi cael ei wneud a'r meddylfryd diweddaraf, fel y gall Grwpiau Gweithredol fanteisio ar wybodaeth sydd eisoes ar gael wrth iddynt ddatblygu eu hymatebion eu hunain. Mae ‘Broceriaid Arloesedd’ ar gael i gefnogi ac i hwyluso datblygiad prosiectau Grwpiau Gweithredol a’u harwain drwy'r broses ymgeisio am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i ddarparu eu prosiect.  

Eglurodd yr Athro Jamie Newbold, Cyfarwyddwr Partneriaethau Hyfforddi Uwch yn IBERS, a ymunodd â’r Dirprwy Weinidog ac uwch swyddogion Llywodraeth Cymru ar daith o’r Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol, sut y bydd gan y ganolfan, ynghyd â broceriaeth arloesedd yn cael eu cysylltu â rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth Cyswllt Ffermio botensial i gynnig manteision sylweddol i’r diwydiant yng Nghymru. 

“Bydd y cydweithrediad rhwng Cyswllt Ffermio ac IBERS Prifysgol Aberystwyth yn atgyfnerthu cysylltiadau rhwng ffermwyr a choedwigwyr a gwyddonwyr ymchwil.

“Bydd prosiectau Partneriaeth Arloesedd Ewrop yng Nghymru, ynghyd â'r gwaith a wneir trwy'r Ganolfan Gyfnewid Gwybodaeth, fydd yn rhoi mewnbwn academaidd i rwydwaith safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio, yn hybu treialu'r ymchwil a'r dechnoleg ddiweddaraf ar fentrau fferm a choedwigaeth gan arwain at ddiwydiant cryfach a mwy cystadleuol yn y blynyddoedd i ddod", meddai'r Athro Newbold.

Am fwy o fanylion ynglŷn â Phartneriaeth Arloesedd Ewrop yng Nghymru, ac am ddyddiadau'r cyfnod ymgeisio cyntaf ar gyfer cymorth ariannol, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio