Partneriaeth Arloesedd Ewrop - cefnogi arloesedd mewn amaeth a choedwigaeth yng Nghymru

29 Ionawr 2016

Dydd Iau 28 Ionawr, mynychodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth (IBERS) yng Ngogerddan i lansio Partneriaeth Arloesedd Ewrop ar gyfer Cynhyrchiant Amaethyddol a Chynaliadwyedd yng Nghymru (PAE Cymru).