IBERS yn Aberystwyth i groesawu Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Wymonegol Prydain
12 Rhagfyr 2025
Aberystwyth, Cymru – 6-8 Ionawr 2026
Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnal Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Wymonegol Prydain rhwng dydd Mawrth 6 Ionawr a dydd Iau 8 Ionawr 2026. Mae'r rhaglen lawn yn cynnwys cyflwyniadau gwyddonol, sesiynau posteri, digwyddiad torri’r ias i fyfyrwyr ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Wymonegol Prydain, a chinio cynhadledd a ceilidh.
Bydd darlith gyhoeddus, “Microalgae as light-powered cell factories for the bioeconomy,” hefyd yn cael ei chynnal fel rhan o'r cyfarfod (6 Ionawr, 4-5 pm). Bydd yr Athro Saul Purton, Llywydd Cymdeithas Wymonegol Prydain ac Athro Biotechnoleg Algaidd yng Ngholeg Prifysgol Llundain, yn traddodi’r sgwrs. Mae'r Athro Purton yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei waith ar fioleg microalgaidd, geneteg foleciwlaidd a datblygu algâu fel llwyfannau cynhyrchu ffototroffig cynaliadwy ar gyfer cyfansoddion gwerth uchel, moleciwlau bioactif a defnyddiau biotechnolegol newydd. Yn y ddarlith hon, bydd yn tynnu sylw at rai o brif ddarganfyddiadau ei yrfa ymchwil, a bydd yn canolbwyntio'n benodol ar sut y gellir cymhwyso'r gwaith hwn er mwyn i gymdeithas elwa ohono yn y dyfodol agos. Mae’r ddarlith gyhoeddus hon yn agored i bawb, ac anogir aelodau o'r gymuned leol, myfyrwyr a staff i fynychu.
Bydd y cyfarfod yn dod ag ymchwilwyr sy'n gweithio ar fioleg algâu ac organebau ffotosynthetig dyfrol eraill ynghyd - cyfle amserol i IBERS dynnu sylw at sut mae ei agenda ymchwil yn cyd-fynd â phwysigrwydd cynyddol systemau dyfrol a morol mewn amaethyddiaeth gynaliadwy, dyframaethu a'r bio-economi ehangach.
Rydym yn falch y bydd un o ymchwilwyr IBERS a Llywydd Etholedig Cymdeithas Wymonegol Prydain, Dr Jessica Adams, yn traddodi’r brif anerchiad yn ystod y cyfarfod. Dywedodd:
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu'r gymuned wymonegol i Aberystwyth. Mae'r cyfarfod hwn yn cynnig llwyfan gwych ar gyfer deialog drawsddisgyblaethol, gan ddod â biolegwyr, ecolegwyr a biotechnolegwyr ynghyd i archwilio sut y gall organebau ffotosynthetig gyfrannu at fwyd, porthiant ac adnoddau cynaliadwy sy’n seiliedig ar ddeunyddiau biolegol. Rwy’n edrych ymlaen at weld pa gyfleoedd cydweithio a allai godi yn sgil y digwyddiad hwn”.
Mae rhaglen 2026 yn adlewyrchu ehangder ymchwil wymonegol fodern. Bydd sesiynau'n ymdrin â phynciau fel ffisioleg diatomau, blwmiau algaidd rhewlifol, mecanweithiau crynodi carbon, ecoleg fforestydd môr-wiail, biotechnoleg algaidd, echdynnu protein o wymon, a phrosesu gwymon ar raddfa beilot. Bydd y mynychwyr hefyd yn clywed am ddulliau newydd o dyfu microalgâu, addasu thermol mewn môr-wiail, a’r defnydd o algâu ar gyfer cynhyrchion sy’n seiliedig ar ddeunydd biolegol a dyframaethu cynaliadwy. Yn ystod y cyfarfod, rhennir i sesiynau ar wahân er mwyn darparu ar gyfer ystod eang o ddiddordebau ymchwil, ynghyd â chyflwyniadau poster a chyfleoedd i fyfyrwyr ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa rwydweithio mewn digwyddiad torri’r ias.
Mae cynnal cyfarfod y Gymdeithas yn IBERS yn cyd-fynd â'n cenhadaeth graidd. Mae IBERS yn sefydliad ymchwil blaenllaw sydd wedi ymrwymo i sicrhau y gall dynolryw gynhyrchu’r bwyd, y porthiant, a’r adnoddau diwydiannol sy’n seiliedig ar blanhigion y mae eu hangen yn gynaliadwy. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar wneud cnydau'n fwy gwydn, gwella ansawdd, diogelu amrywiaeth genetig, dal carbon a deall effeithiau amgylcheddol ehangach.
Yn y cyd-destun hwn, mae astudio algâu a gwymonoleg yn agor llwybrau addawol — o ffynonellau protein newydd a dal carbon yn well mewn systemau dyfrol, i fio-fireinio biomas algâu a gwell dealltwriaeth ecolegol o gynhyrchu cynradd dyfrol. Mae'r meysydd hyn yn ategu ac yn cryfhau ein harbenigedd hirsefydlog ym maes ymchwil cnydau daearol, glaswelltir a bio-ynni.
Edrychwn ymlaen at groesawu cynrychiolwyr o bob cwr o'r DU a thu hwnt, arddangos ein cyfleusterau, a chefnogi cydweithrediadau newydd ym maes gwymonoleg, biotechnoleg, ecoleg a'r bio-economi.
Os hoffech ragor o fanylion a rhaglen lawn y cyfarfod, ewch i wefan y digwyddiad: https://aber.brphycsoc.org/wordpress/