Amlygu atebion cynaliadwy i heriau’r hinsawdd ym Mrwsel

09 Mawrth 2026

Mae gwyddonwyr o’n grŵp ymchwil Bioburoa Biodrosi wedi bod ym Mrwsel yn amlygu gwaith arloesol IBERS ar drawsnewid biomàs yn atchwanegiadau maethlon i bobl neu anifeiliaid ac yn fio-olosg ar gyfer cynhyrchu dur carbon‑isel.

Bu Dr David Bryant a Dr David Warren‑Walker yn rhan o ddigwyddiadau rhwydweithio a ddenodd dros 50 o gynrychiolwyr gan gynnwys gwneuthurwyr polisi, cyrff cyllido ymchwil, swyddfeydd rhanbarthol, prifysgolion, diwydiant a llysgenadaethau, i draft pontio at ynni glân.

Buon nhw mewn cyfarfodydd gyda busnesau ym meysydd biotechnoleg, hydrogen ac ynni, buon nhw’n rhan o drafodaeth ford gron ar gyfleoedd cyllido Ewropeaidd, ac fe'u gwahoddwyd i dderbyniad blynyddol Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cymru ym Mrwsel.

Mae digwyddiadau fel hyn yn helpu i amlygu sut mae IBERS ac ymchwilwyr eraill yng Nghymru yn cydweithio â diwydiant i fynd i'r afael â heriau cynaliadwyedd mawr — ac yn agor drysau i bartneriaethau newydd.

Diolch yn fawr i Welsh Higher Education Brussels a’r Wales Innovation Network am drefnu ymweliad mor werthfawr.