Sioe Frenhinol Cymru 2026
Meysydd y Dyfodol: IBERS yn arddangos AgriTech, cnydau gwydn a dysgu gydol oes yn Sioe Frenhinol Cymru
O beiriannu drôn, roboteg a deallusrwydd artiffisial i ddatblygu cnydau sy'n gallu gwrthsefyll heriau'r hinsawdd a darparu cyfleoedd dysgu hyblyg, bydd gan Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) raglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn Sioe Frenhinol Cymru eleni yn Llanelwedd (20-23 Gorffennaf).
Fel rhan o thema eleni, Meysydd y Dyfodol, caiff ymwelwyr â stondin IBERS gyfle i gwrdd ag ymchwilwyr, clywed am dechnolegau amaethyddol newydd, darganfod y datblygiadau diweddaraf mewn gwyddor cnydau a dysgu mwy am gyfleoedd ar gyfer cydweithio, arloesi a datblygiad proffesiynol.
Ymhlith uchafbwyntiau'r wythnos bydd lansio Hyb Ymchwil Meysydd y Dyfodol, sgyrisau dyddiol ar y cnydau porthiant diweddaraf sy'n addas ar gyfer hinsawdd sy'n newid, arddangosiadau technoleg amaeth, gwyobdaeth am yr Arolwg Busnes Fferm sy’n dathlu’r 90 eleni, gweithgareddau i blant a chyflwyniad ar botensial pryfed fel ffynhonnell bwyd a maeth, gan gynnwys cyfle i flas browni sioced wedi’i bobi â phowdwr cricsyn.
Dydd Llun 20 Gorffennaf
Dydd Mawrth 21 Gorffennaf
Dydd Mercher 22 Gorffennaf
Dydd Iau 23 Gorffennaf
Trwy'r Wythnos
- Arddangosfa drôn amaethyddol a roboteg
- Arddangosfa o golofn gwreiddiau rhizotron
- Ymchwil ar lieiniau cnydau amlrywogaeth
- Miscanthus fel deunydd gorwedd I dda byw
- Cyfleoedd Dysgu o Bell sy’n cwrdd ag anghenion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
- Gwybodaeth a chyhoeddiadau'r Arolwg Busnes Fferm
- Cyfleoedd ar gyfer cydweithio ac arloesi gyda busnesau
Wrth siarad cyn sioe amaethyddol fwyaf Ewrop, dywedodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS:
"Mae Sioe Frenhinol Cymru yn uchafbwynt blynyddol i bawb sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth yng Nghymru ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ymgysylltu â'r gymuned ffermio i drafod yr heriau a'r cyfleoedd cyffrous sy'n wynebu'r sector mewn cyfnod o newid technolegol sylweddol.
“O wyddor cnydau ac ymchwil da byw i dechnolegau digidol, amaethyddiaeth fanwl a chyfleoedd datblygiad proffesiynol, mae'r gwaith sy'n cael ei arddangos gan IBERS yn amlygu sut y gall ymchwil ac arloesi helpu i gefnogi ffermio cynhyrchiol, proffidiol a chynaliadwy. Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr i'n stondin drwy gydol yr wythnos."
Mae stondin IBERS wedi'i lleoli yn Ardal Gofal Cefn Gwlad (877-CCA). Bydd gan Brifysgol Aberystwyth raglan lawn o weithgareddau a digwyddiadau hefyd yn y Pafiliwn Addysg ger y Prif Gylch.




