Datblygiadau newydd mewn gwydnwch amaethyddol, cynaliadwyedd, a thechnolegau sy'n helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Adroddiad Digwyddiad.

Crynodeb o Ddigwyddiad yn IBERS – 24 Medi 2025
Cynhaliodd Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth ddigwyddiad cyfnewid gwybodaeth ar 24 Medi 2025 ar gyfer Grŵp Cig Oen Dunbia – Asda i ystyried datblygiadau newydd mewn gwytnwch amaethyddol, cynaliadwyedd, a thechnolegau sy’n helpu i ymdrin â newid hinsawdd.
Crynodeb o'r Digwyddiad
Agorwyd y digwyddiad gan Mark Needham, rheolwr cysylltiadau amaeth IBERS, a roes gyflwyniad am yr adnoddau, y strwythur a'r rhaglenni ymchwil sy'n rhan o’r Rhaglen Cnydau Gwydn, gan osod y llwyfan am ddiwrnod o arloesi ymarferol ac ymchwil gydweithredol.
Uchafbwyntiau’r Siaradwyr a’r Pynciau Ymchwil
Roedd Dave Evershed, sydd yn ffermwr lleol ac yn fyfyriwr PhD yn IBERS, yn trafod heriau’r cyflenwad dŵr o ffynnon ar ei fferm ac effaith hynny ar bori.
Gyda chefnogaeth Cyswllt Ffermio ac arbenigwyr LoRaWAN lleol, mae wedi datblygu a gosod system fonitro LoRaWAN i olrhain sut y defnyddir y dŵr ac faint ohono sydd ar gael.
Mae'r ateb fforddiadwy hwn yn golygu ei fod erbyn hyn yn gallu sicrhau gwell rheolaeth ar bori a gwella cynaliadwyedd. Dywedodd Dave mai Cymru (ynghyd â'r Almaen) sydd â'r signal mwyaf cyflawn drwy Ewrop gyfan ar gyfer y dechnoleg hon, sydd ar gael am ddim ac yn ddefnyddio ychydig o ynni, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Siaradodd Dr Hannah Vallin am dechnoleg metafarcodio DNA, sy'n adnabod y cod genetig unigol a geir ym mhob organeb fyw, fel y planhigion y mae defaid yn eu bwyta.
Drwy ddadansoddi tail da byw, mae hi wedi gallu adnabod cyfansoddiad diet yr anifeiliaid. Drwy hyn fe ddatgelir pa rywogaethau o blanhigion sy'n cael eu bwyta a pha rai sydd orau gan yr anifeiliaid, gan gynnig dealltwriaeth newydd am iechyd anifeiliaid, cynhyrchiant a pherfformiad atgenhedlu.

Tynnodd yr Athro Alison Kingston-Smith, Cyfarwyddwr Ymchwil IBERS, a Dr Kenton Hart sylw at bwysigrwydd gwaith IBERS wrth gofnodi allyriadau da byw mewn ymateb i driniaethau amrywiol gan ddefnyddio siambrau resbiradaeth arbennig i fesur allyraidau methan o ddefaid unigol.

Dywedodd yr Athro Kingston Smith - er na ddefnyddir yr offer hyn, sy’n manteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf, ar hyn o bryd - eu bod yn adnodd gwerthfawr ar gyfer ymchwil yn y dyfodol a gallant chwarae rhan hanfodol wrth ddeall effaith ffermio da byw ar yr amgylchedd ac wrth liniaru’r effaith honno.
Mapio Llyngyr yr Afu
Esboniodd y Dr Rhys Jones, o Adran Gwyddorau Bywyd y Brifysgol, sut mae technoleg DNA amgylcheddol (eDNA) yn cael ei defnyddio i ddod o hyd i’r ardaloedd ar ffermydd lle y gallai llyngyr yr afu fod yn bresennol.
Trwy samplu dŵr mewn mannau gwlypach o'r fferm, mae'r dechnoleg yn gallu canfod cod genetig unigryw y malwod mwd, sy’n rhan allweddol o gylch bywyd llyngyr yr afu. Wedi’u harfogi â'r wybodaeth hon, mae ffermwyr ac arbenigwyr anifeiliaid yn gallu cynllunio strategaethau rheoli llyngyr mwy effeithiol. Bydd y dull hwn o weithio’n helpu i gynnal cynhyrchiant da byw, lleihau’r ddibyniaeth ar driniaethau cemegol, ac arafu datblygiad ymwrthedd anthelmintig.
Pwysleisiodd Matthew Rollason, Rheolwr Amaethyddiaeth Dunbia, bwysigrwydd yr ymchwil hon, gan nodi bod difrod gan lyngyr yr afu, a’r cig offal a wrthodir o ganlyniad i hynny mewn lladd-dai, yn gost sylweddol i gadwyn gyflenwi gyfan y diwydiant cig oen. Drwy gael gwell dulliau o ganfod a rheoli llyngyr, fe ellid lleihau heintiau, gwella cynhyrchiant anifeiliaid ac ychwanegu gwerth at y cig offal y mae rhaid, fel arall, rhaid ei waredu - a thalu am wneud hynny.
Lleiniau Maes Arbrofol
Cafodd y ddirprwyaeth hefyd daith o amgylch rhai o leiniau maes arbrofol IBERS yng Ngogerddan, lle y cyflwynodd Dr Mari Davies brosiect Defnydd Tir Sero Net (LUNZ). sy'n ymchwilio i effaith gwahanol gyfansoddiadau o borthiant ar gynhyrchiant anifeiliaid, eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG), y nitrogen a ysgarthir, ac iechyd y pridd. Dangosodd Dr Davies y pecyn monitro a ddefnyddir yn y prosiect, gan helpu'r grŵp i ddeall y gwaith sydd ei angen i fesur yr allyriadau o systemau pori yn y DU a nodi meysydd i'w gwella.

Gorffennodd David Lloyd, Pennaeth Bridio Planhigion Germinal Horizon yng Ngogerddan, y daith o’r lleiniau drwy roi trafodaeth ddifyr ar y prosesau a'r amserlenni sy'n gysylltiedig â bridio mathau newydd o borthiant. Siaradodd yn fanwl am ddatblygiadau cyffrous mewn bridio meillion, sy’n anelu at ddatblygu planhigion sy'n cyfuno nodweddion sy'n sefydlogi nitrogen ac atal methan. Gallai'r gwaith arloesol hwn leihau'r angen i brynu nitrogen a gwella effeithlonrwydd ynni wrth gynhyrchu da byw.
Trafododd Mr Lloyd hefyd yr Effeithlonrwydd Defnyddio Nitrogen (NUE) mewn codlysiau, sy'n ceisio gwneud y gorau o berthynas y rhisobia er mwyn gwella’r modd y sefydlogir nitrogen, a thrwy hynny leihau’r ddibyniaeth ar wrtaith nitrogen gwneud - sy’n gostus ac yn cyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Rydym yn hynod ddiolchgar am y croeso cynnes a'r trefniadau rhagorol heddiw. Roedd y trafodaethau yn dreiddgar, aeth yr amserlen fel cloc, a gwneud y tywydd yntau chwarae ei ran hyd yn oed. Mae'r adborth gan y cynadleddwyr yn hynod gadarnhaol," meddai Matthew Rollason, Rheolwr Amaeth.
