Gwyddor Planhigion Cymru yn rhoi Llwyfan i Gydweithredu a Darganfod yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

04 Tachwedd 2025

Yn nigwyddiad  Gwyddor Planhigion Cymru  a gynhaliwyd 21-22 Hydref yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, daeth ymchwilwyr, myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol ynghyd o bob cwr o Gymru am ddeuddydd o archwilio, trafod a chydweithio.

Fe’i trefnwyd ar y cyd gan IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru; rhoes y digwyddiad lwyfan i ddyfnder ac amrywiaeth yr ymchwil sy’n digwydd ym maes gwyddor planhigion ledled y genedl.

Dechreuodd Diwrnod Un â chipolwg y tu ôl i'r llenni ar gasgliadau hanesyddol Llyseifa’r Ardd a’i banc hadau, yn ogystal â thaith o amgylch y dolydd a'r gerddi, a chyflwyniad i’r fioamrywiaeth gyfoethog o ffyngau ar y safle. Roedd hyn yn cynnwys y capiau cwyr lliwgar a oedd yn edrych yn arbennig o dda yn y porfeydd ar yr adeg hon o'r flwyddyn.

Column 2

Roedd Diwrnod Dau yn cynnwys rhaglen lawn o gyflwyniadau a phaneli gyda thua 40 o gynrychiolwyr o brifysgolion, sefydliadau ymchwil a byd diwydiant. Ar y diwrnod fe bwysleisiwyd cydweithio, rhannu gwybodaeth a meithrin partneriaethau er mwyn cryfhau cymuned gwyddor planhigion Cymru.

Sylwadau Agoriadol

  • Anogodd yr Athro Rob Beynon (Cymdeithas Ddysgedig Cymru) y gymuned i chwalu rhwystrau sefydliadol a gweithio gyda'i gilydd fel rhwydwaith ymchwil unedig, a rhoi sylw arbennig i sicrhau bod ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd yn cael eu cynnwys.
  • Rhoddodd y Dr Lucy Sutherland (yr Ardd Fotaneg) a’rAthro Iain Donnison (IBERS) - cyd-gadeiryddion y digwyddiad - hanes cryno Gwyddor Planhigion Cymru, gan amlinellu cenhadaeth y rhwydwaith i feithrin gallu a datblygu gwaith cydweithredol ar draws y maes.

Bwyd ac Amaeth-dechnoleg

Roedd y sesiwn gyntaf yn canolbwyntio ar thema gwella cnydau, genomeg a gwytnwch, gyda siaradwyr o IBERS yn dangos sut mae gwyddoniaeth yng Nghymru yn helpu i fynd i'r afael â heriau diogelu cyflenwadau bwyd ledled y byd:

  • Cyflwynodd y Dr Catherine Howarth ddatblygiadau ym maes bridio ceirch, gan dynnu sylw at ddatblygiad pangenom i gofnodi amrywiaeth lawn y rhywogaeth a chyflymu'r broses o fridio amrywogaethau gwydn ac uchel eu gwerth.
  • Trafododd y Dr Kerrie Farrar sut y gellir defnyddio rhagfynegi genomig i gyflymu bridio rhywogaethau Miscanthus,gan helpu i ddatblygu cnydau a fydd yn ymaddasu i hinsoddau yn y dyfodol, gan hefyd sicrhau’r cynnyrch mwyaf posib a sicrhau cynaliadwyedd.
  • Edrychodd y Dr Andrew Lloyd ar ddulliau newydd o ddatgloi amrywiadau genetig trwy ail-gyfuno meiotig, bridio mwtaniadau a thechnolegau newydd fel CRISPR a golygu â phrimyddion.

Daeth y sesiwn i ben â thrafodaeth agored gan gynnwys trafod canfyddiadau am addasu genetig ymhlith y cyhoedd, a sut y gall ymchwilwyr gyfleu’n fwy effeithiol fuddion dulliau modern o fridio, a’r camau diogelu sydd ar waith.

Sesiwn ar Gadwraeth a Bioamrywiaeth

Yn y sesiwn ar Gadwraeth a Bioamrywiaeth,

  • rhoes y Dr Laura Jones (yr Ardd Fotaneg) fraslun o waith hanfodol yr Ardd yn gwarchod planhigion a ffyngau, amddiffyn peillwyr, a chynnal casgliadau’r llysieufa a’r banc hadau. Trafododd hefyd yr ymdrechion diweddar i ddefnyddio bargodio DNA a phrosiect sy'n defnyddio dadansoddi mêl i olrhain y planhigion y mae peillwyr yn ymweld â nhw ac archwilio i sut mae tirweddau planhigion Cymru wedi newid gydag amser. Mae ei gwaith yn pontio ecoleg, cadwraeth a gwyddoniaeth lawr gwlad.
  • Adeiladodd y Dr Hannah Vallin (IBERS) ar y thema hon â'i hymchwil sy’n defnyddio Metabargodio DNA er mwyn astudio rhyngweithio rhwng planhigion a llysysyddion ar draws gwahanol uchderau, hinsoddau a chyfundrefnau rheoli. Mae ei gwaith cydweithredol â'r Ardd yn helpu i ddatgelu sut mae newid amgylcheddol yn dylanwadu ar fioamrywiaeth ar sawl graddfa wahanol.
  • Gwnaeth y Dr Nathan Smith (Amgueddfa Cymru) dynnu sylw at werth gwyddonol cofnodion hanesyddol am ffyngau, gan ddangos sut y gall data o ddegawdau’r gorffennol daflu goleuni ar ddata cyd-ddigwydd a phatrymau ecolegol heddiw.

Yn y sesiwn honno roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar ansawdd setiau data ac ar eu hintegreiddio, bylchau mewn monitro bioamrywiaeth ledled Cymru, a sut y gall metrigau bioamrywiaeth lywio polisi a dulliau o reoli’r tir.

Darganfod Planhigion / Biocemeg

Yn y sesiwn Plant Discovery fe gyfeiriwyd y sgwrs i gemeg planhigion a chynnyrch naturiol:

  • Dangosodd y Dr Robert Nash (Phytoquest) sut mae datblygiadau mewn dulliau dadansoddol a sgrinio ar raddfa fawr yn cyflymu’r gwaith darganfod cyfansoddion sy'n deillio o blanhigion ar gyfer darganfod cyffuriau a gwella maeth. Roedd hyn yn cynnwys canlyniadau addawol o giwcymbrau ar gyfer iechyd cymalau. Pwysleisiodd y potensial trosiannol o gysylltu amrywiaeth gemegol â llwybrau sgrinio biolegol.
  • Trafododd yr Athro John Pickett (Prifysgol Caerdydd) gyfansoddion naturiol ar gyfer cynaliadwyedd, gan ddisgrifio sut y gall cemeg planhigion lywio dulliau amgylcheddol-gyfeillgar o reoli plâu a gwaith datblygu cyfansoddion bioactif sy'n lleihau’r ddibyniaeth ar fewnbynnau synthetig.

Pwysleisiodd y sesiwn pa mor bwysig yw’r cysylltiadau trawsddisgyblaethol rhwng cemegwyr, biolegwyr a byd diwydiant wrth droi gwybodaeth fotanegol yn fanteision gweladwy i’r gymdeithas.

Bioffilia a'r Amgylchedd Adeiledig

Ystyriodd y sesiwn ar Fioffilia sut y gall planhigion a dylunio wella lles pobl:

  • Rhoes yr Athro Leighton Phillips (Bwrdd Iechyd Hywel Dda) gyflwyniad ar ddylunio bioffilig mewn gofal iechyd, yn dangos sut mae ymgorffori elfennau naturiol mewn amgylcheddau clinigol yn gallu cynorthwyo ag adfer iechyd cleifion ac â lles staff.
  • Trafododd y Dr Simon Lannon (Ysgol Pensaernïaeth) rôl planhigion mewn dylunio pensaernïol, yn amrywio o waliau byw i fannau gwyrdd wedi'u cynllunio'n feddylgar, a stadiymau chwaraeon. Tynnodd sylw at fanteision y rhain i wydnwch trefol ac iechyd preswylwyr.

Yn yr drafodaeth a ddaeth wedyn fe ystyriwyd y rhwystrau ymarferol a’r cyfleoedd i ymgorffori seilwaith gwyrdd mewn adeiladau newydd ac adeiladau sydd eisoes yn sefyll, a sut y gall tystiolaeth o ymchwil gwyddor planhigion ac ymchwil i iechyd lywio cynllunio a pholisi.

Dywedodd y cynadleddwyr fod y digwyddiad wedi darparu cyfleoedd ardderchog ar gyfer rhwydweithio; braenarwyd y tir ar gyfer llawer o brosiectau cydweithredol newydd, ac fe wnaeth myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa chwarae rhan weithredol yn y sgwrs. Cyflwynwyd syniadau am gyfeiriad y rhwydwaith yn y dyfodol a fydd yn cael eu defnyddio i lywio penderfyniadau ar y camau nesaf ar gyfer Gwyddor Planhigion Cymru.

Daeth y digwyddiad i ben gydag ymdeimlad o fomentwm newydd - a neges glir: mae cryfder gwyddor planhigion Cymru i’w gael yn ei phobl, ei phartneriaethau a'i pharodrwydd i rannu gwybodaeth ar draws disgyblaethau.