Tynnu nwyon tŷ gwydr yn ddull hanfodol i gwrdd â thargedau hinsawdd - adroddiad

Safle ymchwil tir mawn, Prifysgol Aberystwyth
04 Rhagfyr 2025
Mae adfer tir mawn a thyfu cnydau biomas i dynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer yn gallu helpu i gwrdd ag amcanion sero net, yn ôl adroddiad gwyddonol newydd.
Dywed yr adroddiad bod angen mesurau i dynnu allyriadau nwyon tŷ gwydr allan o’r atmosffer yn ogystal â’u lleihau i mor agos at sero â phosibl.
Mae ystod eang o opsiynau i wneud hyn, o blannu coed i ddulliau mwy newydd, fel hindreulio creigiau’n well, pan fydd creigiau silicad yn cael eu gwasgaru ar dir fferm ac yn adweithio â CO₂ yn yr atmosffer i ffurfio ïonau bicarbonad.
Yn ogystal, dywed y tîm o wyddonwyr, gan gynnwys arbenigwyr o Brifysgol Aberystwyth, bod manteision ehangach i’r technegau, megis cynhyrchu incwm i ffermwyr o dir llai cynhyrchiol a lleihau peryglon llifogydd drwy ail-wlychu mawn.
Yn ôl argymhellion yr adroddiad, mae treialon technegol wedi dangos ‘canlyniadau addawol’ o ddefnyddio mwy nag un techneg yn yr un man, er enghraifft drwy gynnwys bio-olosg wrth adfer mawn.
Mae galwad arall yn yr adroddiad i sefydlu fframwaith rheoleiddio clir er mwyn i ffermwyr a’r diwydiant fanteisio ar y technegau. Mae’r arbenigwyr hefyd yn cynghori y byddai mentrau ar y cyd rhwng y sector preifat a’r sector cyhoeddus yn annog buddsoddiad a’u gweithredu ar raddfa fwy.
Meddai Dr Judith Thornton o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae tynnu nwyon tŷ gwydr wedi dod yn rhan hanfodol o strategaethau byd-eang a chenedlaethol i gyflawni nodau Cytundeb Paris. Mae hyn yn cynnwys strategaeth y Deyrnas Gyfunol i gwrdd â chyllidebau carbon tymor canolig a’r targed sero net erbyn 2050.
“Er bod yn dal i fod ansicrwydd a bylchau o ran gwybodaeth, mae’r adroddiad hwn yn dangos bod defnyddio technegau tynnu nwyon tŷ gwydr yn y Deyrnas Gyfunol yn gallu cyfrannu’n llwyddiannus at gwrdd ag amcanion sero, a’r potensial ar eu cyfer ar raddfa fwy i’r dyfodol.
“Er nad yw mesurau hyn yn gallu cymryd lle mesurau i leihau allyriadau, mae’n debygol iawn y bydd eu hangen i gydbwyso allyriadau sy’n anodd eu lleihau i sero - o sectorau fel amaethyddiaeth a’r diwydiant awyrennau.”
Ariennir yr ymchwil gan Ymchwil ac Arloesi’r Deyrnas Gyfunol. Ysgrifennwyd yr adroddiad gan academyddion o’r sefydliadau sy’n rhan o bum prosiect dangosiadol a’r hyb sy’n eu cydlynu.
AU28425
