Gosod Magnetomedr Cwantwm ym Mhwllpeiran

23 Medi 2025

Mae IBERS yn falch o gyhoeddi bod Arolwg Daearegol Prydain (BGS) wedi gosod magnetomedr cwantwm yng ghanolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran. Bydd yr offeryn arloesol hwn yn cyfrannu at ymchwil i dywydd gofod a maes magnetig y Ddaear, fel rhan o raglen Synhwyro Cwantwm ar gyfer Gwyddorau'r Amgylchedd. Mae'r gwaith hwn yn atgyfnerthu'r gwaith cydweithredol rhwng Arolwg Daearegol Prydain, Prifysgol Aberystwyth, RAL Space, a Phrifysgol Ystrad Clud.

Digwyddodd y gosodiad mewn dau gam. Gosododd BGS baneli solar, gwifrau cysylltu a'r cynhwysydd gwrth-ddŵr lle cedwir y synhwyrydd. Unwaith yr oedd y seilwaith yn barod, gosododd ymchwilwyr o Brifysgol Ystrad Clud y magnetomedr cwantwm ei hun. Bydd yr offer nawr yn dechrau ffrydio data ar y pryd trwy'r rhwydwaith 4G, a bydd y data hwnnw'n cael ei arddangos ar wefan BGS.

Mae magnetomedrau cwantwm yn offerynnau sensitif iawn a ddefnyddir i ganfod amrywiadau ym maes magnetig y Ddaear, a hynny â chywirdeb hynod fanwl. Bydd y data a gesglir ym Mhwllpeiran yn cefnogi astudiaethau gwyddonol sy’n monitro tywydd y gofod a gwaith ymchwil geoffisegol, gan roi golwg gwerthfawr ar sut mae’r haul yn effeithio ar amgylchedd y Ddaear. Bydd y synhwyrydd newydd yn darparu mesur hynod fanwl bob eiliad am y ddwy flynedd nesaf tra bydd y prosiect yn rhedeg.

Mae’r BGS wedi bod yn gweithio'n agos gydag IBERS ac Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth i hwyluso'r gwaith gosod hwn. Dewiswyd y safle ym Mhwllpeiran ar ôl llwyddiant astudiaeth magnetotelwrig a gynhaliwyd dros chwe wythnos yn 2023 oherwydd ei fod mor addas o ran canfod signalau magnetig â chyn lleied o ymyriant â phosib. Dewiswyd y lleoliad i lenwi 'bwlch' sylweddol yn y wybodaeth a gesglir am y maes magnetig rhwng yr arsyllfeydd geomagnetig presennol yn Nyfnaint a Gororau'r Alban.

Bydd y timau cyfathrebu yn IBERS a’r BGS yn rhannu’r diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol, a byddant yn parhau i roi gwybod am hynt y datblygiad ymchwil cyffrous hwn. Cadwch lygad ar ein tudalennau newyddion am fwy o ddiweddariadau.

Am fwy o wybodaeth am brosiect y magnetomedr cwantwm, cysylltwch ag IBERS neu ewch i Wefan y BGS.