IBERS yn Arddangos Ymchwil i Gnydau Gwydn yn Groundswell 2025

Lleoliad: Fferm Lannock, Swydd Hertford, SG4 7EE
Dyddiadau: 25–26 Mehefin 2025
Roedd Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn falch o gynrychioli Prifysgol Aberystwyth eleni yng Ngŵyl Groundswell, prif ddigwyddiad y DU ar gyfer amaethyddiaeth adfywiol. Cynhaliwyd yr ŵyl ar Fferm Lannock yn Swydd Hertford, a daeth ffermwyr, ymchwilwyr a gweithwyr amgylcheddol proffesiynol ynghyd i drafod datrysiadau cynaliadwy ar gyfer dyfodol ffermio.
Stondin Gydweithredol gyda Biomass Connect
Roedd IBERS yn rhannu stondin gyda'r prosiect Biomass Connect, gan dynnu sylw at ein gwaith ar y cyd yn ymwneud â chnydau sy'n wydn o ran yr hinsawdd, defnydd tir cynaliadwy, a systemau ffermio carbon-clyfar. Roedd y stondin yn cynnwys:
- Rhaglenni bridio ar gyfer glaswellt a grawnfwydydd sy'n gwrthsefyll sychder a phla.
- Clustogau o dyfiant ar lannau afonydd yn ddatrysiadau ar gyfer ansawdd dŵr a bioamrywiaeth.
- Systemau tyfu cnydau mewnbwn isel ar gyfer ffermio sero-net.
- Llwybrau arloesi a masnacheiddio sy’n rhan o ymchwil IBERS.
- Gwybodaeth am dreialon cnydau biomas ledled y DU ar draws 8 canolfan arddangos.
Ennyn Diddordeb y Gymuned Amaethyddol
Dros ddau ddiwrnod, croesawyd mwy na 70 o ymwelwyr gan gynnwys:
- Ffermwyr a thirfeddianwyr
- Agronomegwyr ac ymgynghorwyr
- Ymchwilwyr academaidd
- Cyrff anllywodraethol amgylcheddol a rhanddeiliaid masnachol
Roedd gan ymwelwyr ddiddordeb arbennig yng nghymwysiadau ymarferol gwaith ymchwil IBERS, gan gynnwys defnyddio cnydau lluosflwydd mewn parthau clustogi, bridio ar gyfer gwytnwch, a photensial masnachol bio-arloesi sy'n dod i'r amlwg.
Canlyniadau Allweddol
- Cryfhau’r ymwybyddiaeth o safle flaenllaw IBERS ym maes amaethyddiaeth adfywiol
- Sbarduno diddordeb newydd mewn treialon cydweithredol a chyfnewid gwybodaeth
- Cychwyn sgyrsiau ynghylch meithrin gwaith arloesol a throsglwyddo technoleg
- Adnabod cyfleoedd newydd i weithio mewn partneriaethau gyda ffermwyr a diwydiant
Edrych tua’r dyfodol:
Roedd Groundswell 2025 yn gyfle gwerthfawr i gysylltu â'r gymuned amaethyddol ehangach a rhannu sut mae ymchwil IBERS yn helpu i lunio dyfodol mwy cynaliadwy a gwydn i ffermio yn y DU. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar sail y sgyrsiau hyn a pharhau i gefnogi gwaith arloesol yn y sector.