IBERS yn Hyrwyddo Amaethyddiaeth Wydn yn Sioe Frenhinol Cymru 2025

14 Awst 2025
Llanelwedd, Cymru – Gorffennaf 21 - 24, 2025
Creodd Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), sy’n rhan o Brifysgol Aberystwyth, argraff sylweddol ar Sioe Frenhinol Cymru 2025 drwy arddangos gwyddoniaeth arloesol ac arloesiadau ymarferol i gefnogi defnydd tir cynaliadwy a ffermio gwydn rhag yr hinsawdd.
Gyda thros 240,000 ymwelwyr a mwy na 1,000 o arddangoswyr, cadarnhaodd y sioe eleni ei statws fel conglfaen yng nghalendr amaethyddol y DU. Yn erbyn y gefnlen fywiog hon, denodd stondin IBERS sylw cynulleidfa eang, gan gynnwys llunwyr polisïau, ymchwilwyr, partneriaid masnachol, ffermwyr ac ymgynghorwyr.
Sylw i Ymchwil ac Arloesi
AmlygoddIBERS bedwar maes ymchwil allweddol creiddiol i amaethyddiaeth sy’n barod at y dyfodol:
- Cnydau Gwydn – Edrych ar sut y gall systemau cnydau addasu i straen amgylcheddol a senarios hinsawdd yn y dyfodol.
- Bio-buro – Dangos sut y caiff sgil-gynhyrchion amaethyddol eu trosi’n gynhyrchion adnewyddadwy, gwerth uchel.
- Bridio Ceirch – Dathlu ennill Cwpan NIAB yn ddiweddar, sy’n cydnabod rhagoriaeth wrth ddatblygu gwell amrywogaethau ceirch.
- Bridio Gwair Eginol – Arddangos gwaith partneriaeth sy’n mynd rhagddo i ddatblygu datrysiadau porthiant y genhedlaeth nesaf wedi’u teilwra i systemau ffermio da byw.
Ysgogodd yr arddangosiadau hyn sgyrsiau gwerthfawr am y ffordd y gall gwyddoniaeth ac arloesi gydweithio gyda’r gymuned amaethyddol i gyflwyno datrysiadau ymarferol ar lawr gwlad.
Biomas a Miscanthws: Testun Siarad
Nodwedd amlwg ar stondin IBERS oedd bwrn Heston trawiadol o Fiscanthws ynghyd â’r cwestiwn: "Ydych chi wedi ystyried Miscanthws fel deunydd gwely da byw?"
Sbardunodd hyn ddiddordeb eang, gan annog ymwelwyr i drafod potensial ehangach cnydau biomas – o agronomeg a phrosesu i ddatblygu’r farchnad. Roedd sgyrsiau’n cynnwys defnyddio bio-olosg i leihau amonia mewn cytiau dofednod, rôl biomas lluosflwydd mewn systemau ffermio carbon isel, a sut y gallai cnydau o’r fath gyd-fynd â nodau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.
Edrych i’r Dyfodol a Chanolbwyntio ar y Ffarmwr
Roedd y digwyddiad yn atgyfnerthu ymrwymiad IBERS i gyd-ddatblygu datrysiadau gyda ffermwyr a phartneriaid diwydiant i adeiladu systemau ffermio mwy gwydn a chynaliadwy. Mae’r ymateb cadarnhaol yn Sioe Frenhinol Cymru’n dyst i’r yr awydd i weld arloesi ymarferol dan arweiniad ymchwil mewn amaethyddiaeth – yn enwedig wrth i’r diwydiant wynebu heriau cynyddol yn sgil newid yn yr hinsawdd, anwadalrwydd y farchnad, a thargedau amgylcheddol.