Ymchwilydd IBERS yn Cryfhau Cysylltiadau Cydweithredu Rhyngwladol ym Maes Glaswelltiroedd Cynaliadwy yng Nghanada

Dr Hannah Vallin

Dr Hannah Vallin

02 Hydref 2025

Mae Dr Hannah Vallin, ymchwilydd ar ddechrau ei gyrfa yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth, wedi dychwelyd o ymweliad ymchwil strategol â Phrifysgol Alberta, Canada, drwy gefnogaeth Ymddiriedolaeth Goffa Stapledon.

Roedd yr ymweliad pythefnos (7–22 Mehefin 2025) yn gyfle gwerthfawr i gydweithio â'r Athro James Cahill a'i dîm ar brosiect "Gweithredu ar yr Hinsawdd Trwy Bori" (CAT-G), cynllun pwysig sy'n ymdrin â’r newid yn yr hinsawdd drwy ddulliau cynaliadwy o reoli glaswelltir. Nod y prosiect yw adfer glaswelltir peithiau Canada sydd o dan berygl difrifol, a storio 32.5 miliwn tunnell metrig yn fwy o garbon yn y pridd, gan gyfrannu at targed y wlad o gyrraedd sero net erbyn 2050.

Yn debyg iawn i raglenni ymchwil IBERS ar ecoleg glaswelltir a chynaliadwyedd da byw, mae'r prosiect CAT-G yn dangos sut y gall pori, dan reolaeth ofalus, helpu i storio carbon yn y pridd, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a chynnal bioamrywiaeth. Wrth i’r Dr Vallin gyfrannu ei harbenigedd hi mewn metafarcodio DNA, cylchu nitrogen, a microbiomau’r rhisosffer, fe gafodd brofiad uniongyrchol o dreialon maes ar raddfa fawr ac uwch-dechnolegau ar gyfer monitro effeithlonrwydd porthiant gwartheg ac allyriadau methan.

Mae’r gymrodoriaeth eisoes wedi gosod y sylfaen ar gyfer mwy o gydweithredu rhwng y ddau sefydliad yn y dyfodol, ac mae cynlluniau i integreiddio metafarcodio DNA fel offeryn ategol ar gyfer monitro dietau llysysyddion a chyfansoddiad y rhywogaethau glaswelltir, i gymharu genynnau cylchu nitrogen yn systemau pori Prydain a Chanada, i gyd-ddatblygu fframwaith methodolegol ar gyfer cefnogi ymchwil hirdymor i laswelltir, ac i greu cyfleoedd cyfnewid i staff a myfyrwyr.

Dywedodd Dr Vallin:

"Roedd hwn yn brofiad hynod werthfawr sydd wedi fy ysbrydoli. Drwy weithio'n uniongyrchol â’r tîm yng Nghanada roedd fy safbwynt ar ymchwil i laswelltiroedd wedi’i ehangu, gan agor cyfleoedd newydd am gydweithredu rhyngwladol. Mae glaswelltiroedd yn suddfannau carbon ac yn drysorfeydd o fioamrywiaeth sydd o arwyddocâd byd-eang, ac mae'n hanfodol ein bod yn datblygu strategaethau rheoli tir sy'n cefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol a chynhyrchiant amaethyddol."

Mae'r cydweithredu hwn yn adlewyrchu strategaeth greiddiol IBERS, sef mynd i'r afael â heriau byd-eang trwy wyddoniaeth ryngddisgyblaethol, partneriaethau rhyngwladol, ac ymchwil sy'n cysylltu gwytnwch amaethyddol â stiwardiaeth amgylcheddol. Drwy gysylltu arbenigedd Cymru â rhwydweithiau byd-eang, mae IBERS yn parhau i chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu atebion – sy’n ystyried yr hinsawdd - i heriau defnydd tir a heriau sicrhau cyflenwadau bwyd.